Mater - cyfarfodydd

Whole Authority Strategic Risk Assessment

Cyfarfod: 13/02/2020 - Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit (eitem 6)

Asesiad Risg Strategol Awdurdod Cyfan

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Perfformiad yr Adroddiad Asesiad Risg Strategol ar gyfer yr Awdurdod Cyfan.  Gofynnwyd y cwestiynau canlynol:

 

·         Cyfeiriodd un aelod at y sgoriau risg a restrir o dan Rhiant Corfforaethol (6 & 7) a chwestiynodd sut y gwnaethpwyd y penderfyniad o roi sgôr “Canolig” i’r risg sy’n ymwneud â phlant.  Dywedodd y Pennaeth Polisi a Llywodraethu mai’r elfennau sy’n cael eu hystyried wrth benderfynu ar sgôr risg yw tebygolrwydd ac effaith posib.  Eglurwyd bod yr effaith posib bob amser yn uwch ond bod y tebygolrwydd isel, wrth ystyried y systemau diogelu sydd mewn lle a pha mor gymharol anaml y gwelir y canlyniadau gwaethaf, yn creu cydbwysedd ac yn arwain at sgôr “Canolig”.  Lleisiodd un aelod bryder yngl?n â ffactorau sydd tu hwnt i reolaeth yr awdurdod, a dywedodd y dylai’r sgôr risg fod yn uwch. 

 

Cytunodd un aelod mai ychydig iawn o reolaeth sydd gan yr awdurdod o ran pwy sy’n cael eu rhoi mewn gofal ac o ganlyniad, y gost.    Er hyn, mae cyllidebau wedi eu gosod er mwyn rheoli’r risg, lliniaru’r effaith ac adeiladu tueddiadau.

·         Cwestiynodd un aelod y sgôr risg ar gyfer ynni a seilwaith ynni wrth i ni symud i ffwrdd oddi wrth geir disel a phetrol at geir trydan.  Yn ail, o ran newid hinsawdd byd eang, awgrymwyd y dylid cyfeirio at newid amgylcheddol a chynnwys ee pandemig a newidiadau sylweddol eraill a allai greu effaith amgylcheddol.  Ymatebodd y swyddog drwy ddweud nad yw’r agwedd ynni a seilwaith ynni wedi ei gofnodi’n benodol, ond bod contractau egni a phrisiau yn eithaf diogel yn y tymor byr / canolig. Eglurwyd bod swyddog egni ychwanegol wedi ei benodi’n ddiweddar.

 

Mae’r broblem newid hinsawdd byd-eang yn ymestyn y tu hwn i gyfnod 3 blynedd yr asesiad risg hwn.  Rhoddwyd gwybod i’r pwyllgor bod gwaith, sydd ynghlwm â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar draws Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent o lunio cofrestr risgiau a chyfleoedd mwy hirdymor.  Mae cyllid wedi ei sicrhau i dalu am arbenigedd er mwyn datblygu gwybodaeth, risgiau ac atebion posibl. Bydd diweddariad ar y gwaith yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor mewn 4/5 mis wrth iddo ddatblygu. Atgoffwyd y Pwyllgor bod yr aelodau wedi datgan argyfwng hinsawdd yn 2019.

 

Eglurwyd yr ymdrinnir â materion amgylcheddol byd-eang megis pandemig yn ein cynlluniau parhad busnes. Mae gan y Tîm Cynllunio ar gyfer Argyfwng ran fawr i’w chwarae o ran ymdrin ag effaith ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau.

 

·         Cwestiynodd un Aelod y risg posib i gapasiti’r sefydliad gan gyfeirio at ganran uwch, sef 11.5%, o ddyddiau wedi eu colli ar gyfer pob gweithiwr llawn amser yn ogystal â throsiant staff o 9%.  Gwnaed ymholiad yngl?n â’r gwir ffigurau, yn ogystal â’r effaith ar ddarparu gwasanaethau.  Gofynnwyd cwestiwn pellach yngl?n â nifer y staff sy’n aros gartref ac yn parhau i weithio tra’n sâl.  Cwestiynwyd effaith y ffactorau rhain ar y gweithlu.  Eglurodd y Pennaeth Polisi a Llywodraethu bod trosiant staff yn cael ei groesawu er mwyn creu syniadau  ...  view the full Cofnodion text for item 6