Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol - Chwarter 3
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
· Parthed yr Uned Trafnidiaeth Teithwyr (PTU) - Gofynnodd Aelod o’r Pwyllgor am fwy o wybodaeth yngl?n â’r sgôr risg “Uchel”. Eglurwyd bod gwybodaeth am y gwasanaeth, problemau gwybyddus ac ati yn cael eu hystyried cyn penderfynu ar y sgôr risg sy’n cael ei gynnwys yn y Cynllun Archwilio. Eglurwyd bod cynnal asesiadau risg yn rhan o’r broses gynllunio a bod y farn yn deillio o’r broses archwilio. Mae problemau sy’n cael eu canfod mewn archwiliad sy’n dangos bod mwy o wendidau na chryfderau’n arwain at roi barn gyfyngedig. Rhoddir cyngor penodol a chyffredinol gan yr adran Archwilio Mewnol er mwyn sicrhau rheolaeth ariannol gadarn.
· Gofynnodd un aelod beth sy’n ysgogi’r Archwilwyr i ymgymryd ag ymchwiliad arbennig ac eglurwyd y gall y materion ddod i law mewn amryw o ffyrdd megis drwy waith archwilio cyffredinol, neu gall Uwch Reolwr neu berson anhysbys rhoi gwybod amdanynt. Gall Archwilwyr Mewnol fod yn rhan o broses ddisgyblu. Mae nifer ac amlder achosion yn amrywio bob blwyddyn; does dim rheolaeth dros hyn. Bydd trosolwg o’r mathau o ymchwiliadau dros gyfnod o ddwy flynedd yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf.
· Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod adroddiadau terfynol yn cael eu hanfon at Benaethiaid Gwasanaeth. Mae archwiliad dilynol yn cael ei gynnal 6-12 mis wedi’r archwiliad gwreiddiol er mwyn edrych am arwyddion bod gwelliannau’n cael eu gwneud. Os nad oes unrhyw arwydd bod pethau’n gwella’n sylweddol, caiff y mater ei gyfeirio’n ôl at y Pwyllgor Archwilio drwy gyfrwng yr Adroddiad a gyflwynir bob 6 mis. Bydd yr adroddiad yn nodi pam nad oes unrhyw welliant wedi bod wedi’r ail archwiliad. Gall y Pwyllgor ddewis galw rheolwyr y gwasanaethau dan sylw i mewn.
· Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd ei bod yn ymddangos nad oes unrhyw arwyddion bod y PTU yn gwella gan eu bod yn ymddangos ar y rhestr barnau anffafriol yn rheolaidd. Eglurwyd bod y barnau anffafriol yn deillio o archwiliadau o wahanol feysydd. Ar y cyfan, mae’r barnau’n ymwneud â diffyg cydymffurfiaeth â rheolau gweithdrefnau contract.
Eglurodd y Prif Swyddog, Adnoddau bod astudiaeth gynhwysfawr a throsfwaol o’r PTU yn mynd rhagddi. Mae rhai problemau gweithredol wedi dod i’r amlwg ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i’w datrys. Cynigwyd bod y Pennaeth Gwasanaethau Landlord Masnachol ac Integredig yn cyflwyno diweddariad ar yr astudiaeth yn y cyfarfod nesaf.
Ychwanegwyd na fydd canlyniadau gweithredol yr astudiaeth yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor Archwilio, dim ond y risgiau sydd wedi eu canfod. Mae’r PTU yn gorwedd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Dethol Cymunedau Cadarn ar gyfer dibenion craffu. Bydd unrhyw ail gynllunio gwasanaethau o ganlyniad i’r adolygiad yn gofyn am benderfyniad gan aelodau a chraffu cyn i’r penderfyniad gael ei wneud.
Nododd y Pwyllgor y barnau archwilio a gyflwynwyd.
Nododd y pwyllgor y cynnydd sydd wedi ei wneud gan yr Adran o ran cwrdd â Chynllun Archwilio Gweithredol 2019/20 ... view the full Cofnodion text for item 4