Mater - cyfarfodydd

TEST

Cyfarfod: 08/01/2020 - Cabinet (eitem 3a)

3a MONITRO REFENIW A CHYFALAF 2019/20, DATGANIAD ALLDRO A RAGWELIR - MIS 7 pdf icon PDF 1 MB

Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt: Pob un

 

Diben:Diben yr adroddiad hwn yw cynnig gwybodaeth i Aelodau yngl?n â safle alldro refeniw a chyfalaf yr Awdurdod, gan ystyried llithriad cyfalaf a defnydd wrth gefn cymeradwy.

 

Caiff yr adroddiad hwn hefyd ei ystyried gan Bwyllgorau Dethol fel rhan o’u cyfrifoldeb i:

 

      asesu a yw monitro cyllideb effeithiol yn digwydd;

      monitro i ba raddau y mae cyllidebau yn cael eu gwario yn unol â’r fframwaith sydd wedi’i gytuno am gyllideb a pholisi;

      herio rhesymoldeb troswariannau neu tanwariannau rhagamcanol; ac

      i fonitro llwyddiant enillion effeithlonrwydd rhagamcanol neu ddatblygiad yn ymwneud â chynigion arbed.

 

Awdur:Mark Howcroft – Pennaeth Cyllid Cynorthwyol

 

Manylion Cyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod Aelodau’n ystyried rhagolwg refeniw net â diffyg o £3.99m, a’r addasiadau untro er mwyn dychwelyd i sefyllfa gytbwys (gwarged o £245) cyn diwedd Mawrth 2020.

 

Bod Aelodau’n nodi cyflawni’r 85% o arbedion wrth osod y gyllideb, a gytunwyd gan y Cyngor Llawn yn flaenorol, a’r angen am gamau adferol/arbediadau o ran tua 15% o arbedion (£994k) sydd, yn ôl adroddiadau gan reolwyr gwasanaeth, yn anghyraeddadwy neu’n debygol o fod yn hwyr.

 

Bod yr Aelodau’n ystyried y gwariant alldro cyfalaf o £39.38m, gan gyflwyno £384k o danwariant disgwyliedig, a’r rhagdybiaeth a wnaed o ran canlyniadau cyllido net a welir ym mharagraff 4.4.

 

Bod Aelodau’n nodi faint o symud sydd wedi bod o ran y defnydd o’r gronfa wrth gefn, gan gynnwys tyniadau unigol ar falensau ysgolion, ac ar ragdybiaethau cynllunio ariannol darbodus (paragraff 5.2 ymlaen).