Adroddiad Polisi a Strategaeth y Trysorlys (Atodiad D i ddilyn)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Gyfrifydd a’r Rheolwr Cyllid Bolisi’r Trysorlys a’r Adroddiad Strategaeth
Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau fel a ganlyn
· Cyfeiriodd un Aelod o’r Pwyllgor at fenthyciadau sy’n amorteiddio hyd at 2065 a gofynnodd a fyddai ffrwd incwm yr awdurdod yn cynyddu dros amser, ac a fydd angen benthyg mwy er mwyn gwario. Eglurwyd bod y graff yn cyfeirio at amgylchiadau lle na fyddai angen cymryd mwy o fenthyciadau. Byddai benthyciadau’n cael eu cyfnewid wrth iddynt aeddfedu a byddai’r ad-daliadau’n dod allan o’r gyllideb refeniw dros y cyfnod penodedig. Byddai’r capasiti benthyca’n aros yr un fath dros y blynyddoedd nesaf (er mwyn cwrdd â’r linell goch ar y graff). Rhoddwyd eglurhad pellach yngl?n â benthyca tymor byr a thymor hir sydd eisoes yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, gan nodi, yn hanesyddol dros y 6-7 mlynedd diwethaf, bod y rhain wedi bod yn fenthyciadau mwy hirdymor.
· Gan gyfeirio ar Atodiad D, rhoddwyd hyder i’r Pwyllgor nad oes unrhyw fenthyciadau wedi eu sicrhau ar sail cytundeb eiriol.
Gweithredodd y Pwyllgor ar yr argymhellion fel a ganlyn:
Bod y Pwyllgor Archwilio’n ystyried y canlynol ac yn cymeradwyo eu rhannu a’u pasio gan y Cyngor llawn.
· Y Datganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys a Darpariaeth Isafswm Refeniw arfaethedig ar gyfer 2020/21 (Atodiad 1) a
Strategaeth Rheoli’r Trysorlys arfaethedig ar gyfer 2020/21 (Atodiad 2) gan gynnwys y Strategaethau Buddsoddi a Benthyca.