3b CYNLLUN CYLLIDOL TERM CANOLIG REFENIW A'R BROSES GYLLIDEB 2020/21 - 2023/24 PDF 176 KB
Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob un
Pwrpas:Amlygu’r cyd-destun ar gyfer datblygu’r Cynllun Cyllidol Term Canolig (MTFP) ar gyfer 2020/21 - 2023/24
Cytuno ar y rhagdybiaethau sydd i’w defnyddio er mwyn diweddaru’r MTFP, a darparu syniad cychwynnol o’r arbedion sydd i’w canfod yn y gyllideb.
Cytuno ar y prosesau a’r amserlen ar gyfer datblygu’r MTFP a’r gyllideb benodol ar gyfer 2020/21.
Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cyllid Cynorthwyol
Manylion Cyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad:
Mae’r rhagdybiaethau cyllideb sydd wedi eu hamlinellu ym mharagraffau 3.6 i 3.13 yn yr adroddiad i’w cytuno a’u diweddaru yn ystod y broses gyllideb os daw gwybodaeth well i’r amlwg.
Mae’r broses gyllideb a’r amserlen fel sydd wedi eu hamlinellu ym mharagraff 3.26 yn cael eu mabwysiadu gan gynnwys craffu’r gyllideb gan aelodau a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan seminarau aelodau, Grwpiau Gwaith yr Aelodau a Swyddogion, Ymgysylltu Cymunedol, cyfarfodydd Dethol ac Ymgynghoriad (at ddibenion Cyfraddau Busnes).