3a Adroddiad ar yr Ymgynghoriad yn ymwneud gyda chynnig i gau Ysgol Arbennig Mounton House PDF 183 KB
Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob un
Pwrpas:Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae swyddogion yn y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc wedi gweithio gyda chydweithwyr ar draws ysgolion Sir Fynwy ac o fewn yr awdurdod er mwyn trefnu darpariaeth i gefnogi ein dysgwyr bregus. Elfen benodol o’r gwaith hwn yw ffocysu ar anghenion y plant sydd yn cyflwyno ymddygiad heriol.
Yn dilyn yr ymgynghoriad ar gau Ysgol Arbennig Mounton House, pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno’r adroddiad ar yr ymgynghoriad i’r Cabinet a gofyn am eu cymeradwyaeth i symud ymlaen i’r cam nesaf i gau Ysgol Arbennig Mounton House a chyhoeddi hysbysiadau statudol.
Bydd y papur hwn yn darparu manylion i’r sawl sydd yn gwneud penderfyniadau yngl?n â sut y mae’r awdurdod lleol yn cefnogi’r myfyrwyr hynny, sydd yn Mounton House ar hyn o bryd, ar ôl yr 31ain o Awst 2020.
Awdur: Will McLean, Prif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc
Manylion Cyswllt: willmclean@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Yn cytuno i gyhoeddi hysbysiadau ar gyfer cau Ysgol Arbennig Mounton House.
Mae’r Cabinet yn cytuno i ddefnyddio arian wrth gefn sy’n rhan o’r gronfa Buddsoddi i Arbed er mwyn ymestyn y Gwasanaeth Atgyfeirio Disgyblion ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol. Bydd hyn yn cael ei ad-dalu yn y ddwy flynedd ariannol.