Mater - cyfarfodydd

Anti bribery Risk Assessment

Cyfarfod: 12/09/2019 - Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit (eitem 9)

9 Asesiad Risg Gwrth-lwgrwobrwyo pdf icon PDF 532 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad gan y Prif Swyddog dros Adnoddau’n cynnig newyddion yngl?n â'r argymhellion ar ôl derbyn dwy farn archwiliad cyfyngedig yn ymwneud â Chydymffurfiad Gwrth-llwgrwobrwyo ac Asesiad Risg Blynyddol.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, gofynnodd Aelod am eglurhad yngl?n â’r lefel sydd ei hangen er mwyn bod twyll yn cael ei ystyried yn berthnasol.   Esboniwyd nad oes lefel cadarn ond bod yna agwedd cyson a chadarn tuag at dwyll, a bod y goblygiadau’n dibynnu ar y gwaith ymchwil sy’n cael ei weithredu. Hysbysir Prif Swyddogion yngl?n â symudiad ymchwiliadau arbennig ac, os ddarganfyddir twyll, cymerir penderfyniad yngl?n ag os dylid delio â’r mater yn fewnol neu gyfeirio’r mater i'r heddlu.

 

Gofynnodd yr Aelod os yw'r awdurdod yn dibynnu ar chwythwyr chwiban neu'r hyn y darganfyddir yn ystod gwaith archwilio.  Cadarnhawyd y gellir darganfod twyll trwy ddefnyddio’r polisi chwythu chwiban, trwy brosesau archwilio a hefyd trwy honiadau dienw.  Bydd Archwiliad Mewnol yn ymchwilio'r ffeithiau er mwyn profi neu wrthbrofi honiad.

 

Eglurwyd hefyd bod Archwiliad Mewnol yn cydweithredu ar gyfer y Fenter Dwyll Ryngwladol (NFI) am yr awdurdod cyfan ac yn cyflwyno data i Swyddfa’r Cabinet sy’n cael eu cymharu â sefydliadau cyhoeddus eraill.  Dychwelir uniadau i’r tîm er mwyn eu gwirio a’u cyfeirio ymlaen fel bo angen.

 

Ymholodd Aelod a oedd nifer y staff yn ddigonol yn y tîm a chadarnhawyd y bydd, wrth gynllunio gwaith, penderfyniad yn cael ei wneud yngl?n â’r lefel o risg ac y bydd gweithred ofynnol yn cael ei gymryd er mwyn sicrhau bod agweddau allweddol o’r cynllun archwilio’n cael eu cwmpasu.