4 Ymateb ISA 260 i’r Cyfrifon PDF 324 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd Swyddogion Archwilio Cymru’r adroddiad ISA160 yngl?n â chyfrifon archwiliedig yr awdurdod ar gyfer 2018/19. Cadarnhawyd y cynnig i gael barn archwilio anghymwysedig.
Cyfeiriwyd at faterion arwyddocaol yn deillio o’r archwiliad fel a ganlyn:
· Camddatganiadau heb eu cywiro:
· Trafodwyd y rheini a nodir isod gyda’r rheolaeth ond maent yn parhau heb eu cywiro. Gofynnwyd bod y rhain yn cael eu cywiro. Os na, gofynnwyd am resymau pam nad oeddent wedi’u cywiro Ni fydd peidio â chywiro yn effeithio’r farn archwilio anghymwysedig.
i) Tanddatganwyd Atebolrwydd Pensiwn gan £1,941,000 yn dilyn dyfarniad McCloud cafodd ei gofnodi fel atebolrwydd wrth gefn
ii) Busnes a gweithrediadau perthnasol heb eu cydgrynhoi
iii) Gorddatgan gwariant gan £178,705 fel blaendal cyfnodolyn heb ei bostio ar ddiwedd y flwyddyn
· Cafodd camddatganiadau y cafodd eu cywiro gan y rheolaeth eu hadrodd gan eu bod dros y trothwy dibwys
· Roedd materion arwyddocaol eraill a godwyd o’r archwiliad yn cynnwys:
i) Cafwyd rhai pryderon yngl?n ag agweddau ansoddol arferion cyfrifo ac adroddi ariannol; yn benodol cafwyd nifer sylweddol o wallau talgrynnu (dros 100). Nodwyd bod y rheolaeth wedi dewis peidio ag addasu ar gyfer y gwallau hyn. Yn ogystal, nodwyd nifer o wallau castio gwerth uchel
ii) Roedd rhai meysydd y gallwyd eu gwella yn cynnwys ‘Amserlen o Gyflawniadau’ gan nid oedd pob papur gwaith priodol ar gael ar ddechrau’r archwiliad
Roedd Swyddogion Archwilio Cymru yn werthfawrogol am gydweithrediad clos y Tîm Cyllid yn ystod y broses archwilio.
Ystyriwyd hyn a'r eitem ganlynol gyda'i gilydd.