3e GLINIADURON W10 NEWYDD PDF 169 KB
Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob Un
Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn chwilio am gyllid er mwyn disodli neu uwchraddio'r stoc o liniaduron gwaith, gan sicrhau eu bod oll o leiaf yn defnyddio Windows 10 ac yn cwrdd â’n gofynion diogelwch o ran TGCh.
Awdur:Sian Hayward
Manylion Cyswllt: sianhayward@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad:
WEDI EI DDATRYS:
Mae’r Cabinet yn cymeradwyo’r defnydd o gyllid cyfalaf neu refeniw un tro o £239,300 er mwyn sicrhau bod ein gweithlu a’n cyfarpar ar y safle yn cwrdd â’r gofynion diogelwch isafswm o ran system weithredol Windows 10 erbyn Ionawr 2020.
Mae’r Cabinet yn cymeradwyo taliad ychwanegol un tro o’r gyllideb cyfarpar ychwanegol o £67,000 er mwyn delio gydag adnewyddiadau cyfarpar gweithredol ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol.
Mae’r Cabinet yn cydnabod y pwysau cynyddol ar y gyllideb cyfarpar canolog sydd yn deillio o gynnydd mewn teclynnau cyffredinol ynghyd â gostyngiad yn oes y gliniaduron. Er mwyn mynd i’r afael gyda hyn, rydym yn gofyn i’r Cabinet i ystyried cymeradwyo’r pwysau hwn fel rhan o’r broses o osod y gyllideb flynyddol.