3b CYNLLUN GWEITHREDU SEILWAITH DIGIDOL PDF 278 KB
Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob Un
Pwrpas: Ystyried cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu Seilwaith Digidol drafft (Atodiad A).
Awdur: Cath Fallon, Pennaeth Mentergarwch a Bywiogi Cymunedau
Manylion Cyswllt: cathfallon@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu Seilwaith Digidol atodedig, ac wrth wneud hyn, byddant hefyd yn cymeradwyo’r argymhellion canlynol, hynny yw bod y Cyngor yn:
1. Mabwysiadu sefyllfa polisi er mwyn bod yn rhagweithiol wrth annog darparwyr band eang i gyflwyno seilwaith band eang ffeibr yn y Sir;
2. Sefydlu Gr?p Gwaith Band Eang Strategol er mwyn sicrhau agwedd rhagweithiol er mwyn sicrhau bod holl brosesau’r Cyngor yn cael eu hwyluso i ganiatáu i ddarparwyr band eang i symud ar gyflymder;
3. Ystyried benthyciadau masnachol i gwmnïau sydd yn dymuno gweithredu prosiectau seilwaith digidol o fewn y sir a fydd yn mynd i’r afael gyda materion amddifadedd digidol; a
4. Ystyried unrhyw gyfleoedd yn llawn i ymgysylltu gyda chyfleoedd cyllido er mwyn gosod 5G a Seilwaith LoRaWAN o fewn y Sir lle y mae yna dystiolaeth o ran angen, yn agor y Sir fel arbrawf rhanbarthol a braenaru ar gyfer yr amrywiaeth o geisiadau sydd i’w datblygu o ganlyniad i hyn.