Mater - cyfarfodydd

ENABLING NATURAL RESOURCES & WELL-BEING IN WALES (ENRAW) FUNDING AND RURAL COMMUNITIES, RURAL DEVELOPMENT PROGRAMME: GWENT GREEN GRID PARTNERSHIP

Cyfarfod: 22/05/2019 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol (eitem 2.)

2. CYLLID GALLUOGI ADNODDAU NATURIOL A LLESIANT YNG NGHYMRU A'R RHAGLEN DATBLYGU GWLEDIG, CYMUNEDAU GWLEDIG: PARTNERIAETH GRID GWYRDD GWENT pdf icon PDF 171 KB

CABINET MEMBER:            County Councillor RJW Greenland

 

AUTHOR: Matthew Lewis, Green Infrastructure & Countryside Manager
01633 644855 matthewlewis@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 I groesawu cyllid Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru a'r Rhaglen Datblygu Gwledig ar gyfer 2019 i 2022 er mwyn cefnogi Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent (PGGG) i gyflwyno fframwaith cydweithredol ar gyfer rheoli'r Seilwaith Gwyrdd ledled Gwent ac i gefnogi’r Rhaglen Gwydnwch Gwent gysylltiol

 

I gymeradwyo creu tair swydd newydd yn y tîm Seilwaith Gwyrdd a Chefn Gwlad; Rheolwr Cydweithio PGGG; Swyddog Llesiant a Swyddog Cyllid (cyfatebol i 0.5 Swydd Llawn Amser)

 

I gymeradwyo creu dwy swydd newydd wedi'u lleoli o fewn y tîm Rhaglenni Gwledig; Cydlynydd Natur Wyllt (cyfatebol i 0.5 Swydd Llawn Amser) a Swyddog Gweithredu Natur Wyllt

 

I nodi nad oes costau refeniw ychwanegol i'r Awdurdod yn sgil creu’r swyddi ychwanegol. Caiff yr holl weithgarwch ei ariannu drwy gyllid Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru a'r Rhaglen Datblygu Gwledig gydag arian cyfatebol nad yw’n arian parod. Bydd y contractau'n unol â'r cyfnod o amser ariannu a gadarnhawyd, ac ni fyddant yn dechrau hyd nes y cwblheir y diwydrwydd dyladwy a'r gwiriadau cymhwysedd.