Statws Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Fe wnaethom benderfynu dyfarnu’r grantiau dilynol yn unol â’r rhestr ceisiadau.
Gwnaeth Eglwys Santes Fair, Tregaer gais am £3,500 ar gyfer ail-bwyntio waliau allanol yr Eglwys i atal mwy o dd?r rhag mynd i mewn a thrwsio’r nenfwd i atal gwaethygiad pellach.
Argymhelliad: Dyfarnu £1,500 i gynorthwyo gyda chynnal a chadw cyffredinol yr eglwys hanesyddol hon.
Gwnaeth Eglwys Santes Fair Llanfair Disgoed gais am £1,000 ar gyfer gwaith trwsio brys a hanfodol i do yr Eglwys.
Argymhelliad: Dyfarnu £1,000 i gynorthwyo gydag adnewyddu to yr eglwys.
Gwnaeth Urdd Menywod Eglwys Santes Fair Cil-y-coed gais am £800 i brynu gliniadur ac offer ategol ar gyfer cyfarfodydd yr Urdd a’i defnyddio gan siaradwyr yn eu cyflwyniadau i’r urdd.
Argymhelliad: Dyfarnu £800 i gynorthwyo i brynu gliniadur ac offer ategol cysylltiedig ar gyfer y gr?p cymunedol hwn.
Gwnaeth Cymdeithas Gwyliau Tyndyrn gais am £1,000 i brynu sied storio ddiogel ar gyfer diben storio asedau’r gymdeithas yn ddiogel.
Argymhelliad: Dyfarnu £1,000 i gynorthwyo gyda darparu storfa ddiogel a chadarn ar gyfer asedau’r gymuned.
Awdur yr adroddiad: County Councillor Rachel Garrick
Dyddiad cyhoeddi: 12/04/2023
Dyddiad y penderfyniad: 12/04/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/04/2023 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Accompanying Documents: