Statws Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Bydd cyllideb cyfalaf o £64,549 yn cael ei chreu yn 2022/23 er mwyn ariannu gwelliannau hamdden ar Faes Chwarae Gofilon Brenion Siôr V, a bydd hyn yn cael ei ariannu gan gyfraniad cyfatebol o’r balans Adran 106 sydd ym meddiant y Cyngor o’r Cytundeb A106 sydd yn ymwneud gyda hen safle Ysgol Gofilon.
Mae’r cyllid wedi ei drosglwyddo i Gyngor Cymuned Llan-ffwyst Fawr fel ymddiriedolwyr sy’n rheoli’r maes chwarae a bydd swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor Cymuned ar gytuno a gweithredu’r gwelliannau.
Pan gaiff ei dderbyn, bydd cyllideb cyfalaf o hyd at £51,000 yn cael ei greu er mwyn ariannu’r gwelliannau i’r maes chwarae presennol ar Faes Chwarae Gofilon Brenion Siôr V, a bod hyn yn cael ei ariannu gan gyfraniad cyfatebol o’r balans sydd i’w dderbyn gan Gytundeb A106 o ran datblygiad tir preswyl sydd wedi ei leoli rhwng A465 Ffordd Blaenau’r Cymoedd a phrif heol y pentref B4246.
Pan gaiff ei dderbyn, bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo i Gyngor Cymuned Llan-ffwyst Fawr fel ymddiriedolwyr sy’n rheoli’r maes chwarae a bydd swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor Cymuned ar gytuno a gweithredu’r gwelliannau.
Awdur yr adroddiad: County Councillor Rachel Garrick
Dyddiad cyhoeddi: 30/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 30/11/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 30/11/2022 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Accompanying Documents: