Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Bod y Cabinet yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn argymell i’r Cyngor:
a) Cyllideb refeniw 2021/22 fel y’i hatodir yn Atodiad I1.
b) Rhaglen cyfalaf 2021/22 i 2024/25 fel y’i hatodir yn Atodiad J1.
Bod y Cabinet yn cydnabod bod y cynigion cyllideb terfynol a gynigiwyd yn mynd ati i gefnogi blaenoriaethau’r cyngor ac yn benodol yn anelu i gydnabod:
a) Yn llawn, yr holl bwysau cysylltiedig â chyflogau a phensiwn yn ein system ysgolion;
b) Y galw cynyddol a roddwyd ar wasanaethau gofal cymdeithasol plant, gofal cymdeithasol oedolion a’n plant gyda chyllidebau anghenion dysgu ychwanegol;
c) Pwysau cost sylweddol o fewn yr uned cludiant teithwyr ac o fewn ailgylchu a gwastraff sy’n anelu i sicrhau fod y Cyngor yn cefnogi ac yn cynnal darpariaeth gwasanaethau allweddol;
d) Buddsoddiad sy’n sicrhau y caiff pobl ddigartref gymorth, cyngor a llety digonol ar eu hadeg o angen;
e) Ymrwymiad parhaus i gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniad y gweithlu a sicrhau na chaiff staff llywodraeth leol dâl nad yw’n ddim llai na’r cyflog a osodwyd gan y Sefydliad Cyflog Byw ac fel canlyniad bod benderfyniad y Cabinet ym mis Ionawr hefyd yn cel ei ymestyn i rolau prentisiaeth.
Y caiff cynnydd o 3.89% cyfwerth â Band “D” Treth Gyngor ei ddefnyddio fel y dybiaeth cynllunio yn y model cyllideb ac i’w weithredu ar gyfer dibenion y Sir yn 2021/22, wedi’i ostwng o’r cynnydd blaenorol a gynigiwyd o 4.95% ac fel canlyniad i ymgynghori â’r cyhoedd.
Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cynigion diwygiedig ar arbedion a phwysau, a ddiweddarwyd yn dilyn ymgynghori â’r cyhoedd, craffu a bod gwybodaeth fwy cyfredol ar gael ers cyhoeddi’r drafft gynigion ar ymgynghoriad ar 20 Ionawr 2021.
Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r newidiadau a buddsoddiad ychwanegol yn yng nghynigion drafft y gyllideb gyfalaf a rhaglen ar gyfer 2021/22 a chyllidebau cyfalaf dangosol o 2022/23 i 2024/25.
Bod y Cabinet yn argymell bod y Cyngor yn gwaredu ag asedau a ddynodwyd yn y papur cefndir eithriedig ar werth gorau.
Bod y Cabinet yn ystyried adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar gadernid y broses cyllideb ac ar ddigonolrwydd cronfeydd wrth gefn a gyhoeddwyd dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, ynghyd ag asesiad o’r risgiau ariannol cyfredol a dyfodol sy’n wynebu’r Cyngor.
Bod y Cyngor yn mabwysiadu adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar ddangosyddion darbodus.
Bod y Cabinet yn cymeradwyo:
a) Cynnal gwaith pellach i ddatblygu Cynllun Ariannol Tymor Canol cytbwys.
b) Cynnal adolygiad rheolaidd o’r Cynllun Ariannol Tymor Canol i sicrhau ei fod yn parhau’n gyfredol a bod hynny’n cynnwys asesiadau o bwysau a risgiau seiliedig ar dystiolaeth, tybiaethau modelu sylfaenol a goblygiadau fforddiadwyedd parhaus y Cynllun Corfforaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 29/06/2021
Dyddiad y penderfyniad: 03/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/03/2021 - Cabinet
Accompanying Documents: