Manylion y penderfyniad

YSTYRIED CYNIGION REFENIW A CHYLLIDEB CYFALAF TERFYNOL

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn argymell i’r Cyngor

·       Y gyllideb refeniw ar gyfer 2020/21 a geir yn Atodiad I

·       Y rhaglen gyfalaf o 2020/21 i 2023/24 a geir yn Atodiad J1

 

Bod y Cabinet yn cydnabod bod y cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb sy’n cael eu cynnig yn ceisio cefnogi blaenoriaethau’r cyngor ac yn benodol yn ceisio cydnabod yn llawn, yr holl bwysau o ran gwariant sydd ynghlwm â thâl a phensiynau o fewn ein system ysgolion a’r pwysau cynyddol ar gyllidebau gwasanaethau gofal cymdeithasol plant, gofal cymdeithasol oedolion a’n plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Y bydd cynnydd o 4.95% yn y band Treth Cyngor sy’n gyfystyr â Band “D” ar gyfer y Sir yn parhau i gael ei ddefnyddio fel y rhagdybiaeth cynllunio ym model y gyllideb ac i wneud cais am ddibenion y Sir yn 2020/21.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cynigion diwygiedig ar arbedion a phwysau, a ddiweddarwyd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, craffu a gwybodaeth mwy diweddar a ddaeth i law yn dilyn rhyddhau’r cynigion drafft ar gyfer ymgynghoriad ar yr 20fed o Ragfyr 2019.

 

Bod y Cabinet yn cydnabod y risgiau o ran absenoldeb cyllid gwaelodol yn y Setliad Llywodraeth Leol, a chamau ychwanegol y mae angen eu cymryd er mwyn rheoli’r diffyg sy’n weddill yn y gyllideb pe byddai hyn yn digwydd.

 

Bod y Cabinet yn nodi’r symudiadau a ddisgwylir o ran cronfeydd wrth gefn sydd wedi eu clustnodi yn ystod 2020/21 sy’n golygu rhagolwg o ran balans wrth gefn wedi ei glustnodi o £5.29 miliwn ar ddiwedd 2020/21.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo newidiadau i’r cynigion ar y gyllideb a’r rhaglen gyfalaf ddrafft ar gyfer 2020/21 ac fel yr amlinellir ym mharagraff 3.29.

 

Bod y Cabinet yn argymell bod y Cyngor yn cael gwared ag asedau sydd wedi eu nodi fel gwerth gorau yn y papur cefndir wedi ei eithrio.

 

Bod y Cabinet yn ystyried adroddiad y Swyddog Cyllid Cyfrifol ar gadernid y broses gyllido a digonolrwydd y cronfeydd wrth gefn a gyhoeddwyd o dan ddarpariaeth y Ddeddf Llywodraeth Leol 2003

 

Bod y Cabinet yn mabwysiadu adroddiad y Swyddog Cyllid Cyfrifol ar Ddangosyddion Darbodus.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r canlynol:

·       Bod gwaith pellach yn cael ei wneud i ddatblygu Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) cytbwys dros y cyfnod tair blynedd o 2021/22 i 2023/24.

Adolygiad rheolaidd o’r CATC er mwyn gwneud yn si?r ei fod yn parhau’n ddiweddar, a bod yr adolygiad yn cynnwys asesiad o bwysau a risgiau yn seiliedig ar dystiolaeth, rhagdybiaethau modelu dan yr wyneb a goblygiadau fforddiadwyedd parhaus y Cynllun Corfforaethol.

Dyddiad cyhoeddi: 19/02/2020

Dyddiad y penderfyniad: 19/02/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/02/2020 - Cabinet

Accompanying Documents: