Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir
Statws Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Roedd y Cynghorydd Sir F. Taylor wedi eilio’r cynnig.
Roedd Aelodau wedi mynegi eu cefnogaeth i’r cynnig.
· Awgrymwyd fod angen symud yn fwy tuag at gerbydau a pheiriannau gwyrdd o ran yr hyn sydd yn cael ei ddefnyddio ar hyd a lled y Sir.
· Pan fydd cerbydau sbwriel yn cael eu hadnewyddu, rhaid i ni symud i gerbydau electrig neu hybrid er mwyn lleihau’r allyriadau.
· Symud i annog mwy o weithwyr i gerbydau gwyrdd o ran teithio ar ran y gwaith.
· Gweithio gyda’n holl adeiladau, a’r MHA, er mwyn cynyddu effeithiolrwydd y systemau gwresogi.
Roedd y Cynghorydd Sir Smith wedi gofyn i’r Cyngor gydnabod angerdd ac ymdrechion y trigolion a oedd wedi trefnu’r Seminar Hinsawdd.
Roedd y Cynghorydd Sir Taylor wedi mynegi rhwystredigaeth gyda mesurau fel dileu tollau’r M4, sydd yn gwaethygu’r argyfwng tai. Ychwanegodd fod siarad am leihau allyriadau carbon a lliniaru newid hinsawdd tra’n cefnogi’r cais i adeiladu M4 newydd, yn wrthgyferbyniad llwyr.
Diolch yr Arweinydd i’r Cynghorydd Watkins am y cynigion a chynhigiodd y diwygiad canlynol i’r cynnig:
Bydd y Cyngor hwn yn ceisio lleihau ei allyriadau carbon i fod yn ddi-garbon, yn unol gyda tharged Llywodraeth Cymru o 2030.
Bydd y cyngor hwn yn datblygu strategaeth a chynlluniau gweithredu cysylltiedig er mwyn cyrraedd y targedau yma cyn gynted ag sydd yn ymarferol.
Bydd y cyngor hwn yn parhau i adolygu’r Cynllun Corfforaethol, y Cynllun Lles, Cynlluniau Datblygu Lleol a chynlluniau perthnasol eraill a pholisïau er mwyn cefnogi’r uchod.
Hyrwyddo’r datganiad hwn o argyfwng hinsawdd i drigolion a busnesau yn y sir a’u hannog a’u cefnogi i gymryd camau er mwyn lleihau eu hallyriadau carbon yn unol gyda 2030.
Gweithio gyda phartneriaid ar draws y sir a chynghorau mudiadau eraill er mwyn helpu datblygu a gweithredu dulliau arfer gorau wrth geisio cyfyngu cynhesu byd-eang.
Roedd y Cynghorydd Sir P. Murphy wedi eilio’r cynnig hwn.
Cafwyd dadl.
Roedd Arweinydd yr Wrthblaid wedi gwrthwynebu’r cynnig diwygiedig gan nodi ei fod yn effeithio ar natur frys y cynnig. Roedd y Gr?p Llafur wedi mynegi cefnogaeth i’r ymgyrchwyr a oedd wedi mynychu.
Roedd Aelodau yn frwd i gadw rhan olaf y cynnig gwreiddiol: Gweithio gyda phartneriaid ar draws y sir a chynghorau mudiadau eraill er mwyn helpu datblygu a gweithredu dulliau arfer gorau wrth geisio cyfyngu cynhesu byd-deang i lai na 1.5 gradd selsiws.
Yn dilyn pleidlais gofnodedig, cafodd y cynnig ei gymeradwyo.
Fodd bynnag, roedd yr Arweinydd yn hapus i adolygu’r cynnig ac i gynnwys y cynnig diwethaf fel: Gweithio gyda phartneriaid ar draws y sir a chynghorau mudiadau eraill er mwyn helpu datblygu a gweithredu dulliau arfer gorau wrth geisio cyfyngu cynhesu byd-eang i lai na 1.5 gradd selsiws.
Yn dilyn ail bleidlais gofnodedig, cafodd y cynnig ei gymeradwyo.
Dyddiad cyhoeddi: 05/09/2019
Dyddiad y penderfyniad: 16/05/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/05/2019 - Cyngor Sir