Manylion y penderfyniad

WELSH CHURCH FUND WORKING GROUP

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol

Statws Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Penderfynodd y Pwyllgor ddyfarnu’r grantiau canlynol yn unol â’r rhestr ceisiadau.

RHESTR CEISIADAU A YSTYRIWYD 2023/24 – CYFARFOD 3

 

Eglwys y Santes Fair, Magwyr a wnaeth gais am £1,500 i atal mwy o dd?r rhag mynd i mewn i gôr yr Eglwys sy’n achosi cracio a hefyd osod pibelli newydd y mae difrod iddynt.

Argymhelliad: £1,500

 

Eglwys Sant Bartholomew, Llanofer a wnaeth gais am £5,000 i gynorthwyo gyda gwaith ailwampio i ardal y gegin, toiledau a gosod toiled newydd i’r anabl. Adnewyddu ardal ystafell gyfarfod ar gyfer defnydd y gymuned.

Argymhelliad: Dyfarnu £2,500 i wella’r cyfleusterau i’r anabl yn yr eglwys i’w defnyddio gan blwyfolion a defnydd ehangach gan y gymuned.

 

 

Eglwys Gatholig y Santes Fair a Sant Mihangel, Llanarth a wnaeth gais am £3,000 am waith atal drafftiau (cadwraeth ynni) i’r adeilad drwy osod drysau dwbl mewnol yn gwahanu prif gorff yr eglwys  oddi wrth y brif fynedfa.

Argymhelliad: Dyfarnu £1,500 i gynorthwyo gydag addasiadau cadwraeth ynni i’r eglwys.

 

Capel Bedyddwyr Llanddewi Rhydderch a wnaeth gais am £5,000 i osod to newydd ar y capel i atal d?r rhag mynd i mewn, gan fod arddangosfa o hanes lleol yn cael ei chynnal a fydd ar agor i’r cyhoedd.

Argymhelliad: Dyfarnu £2,500 i gynorthwyo i osod to newydd ar y capel i atal d?r rhag mynd i mewn a chadw ffabrig mewnol y capel.

 

 Eglwys Ddiwygiedig Unedig Gilwern a wnaeth gais am £2,500 ar gyfer ailbwyntio waliau’r eglwys gyda morter calch ac atgyweirio ffenestri yr eglwys.

Argymhelliad: Dyfarnu £1,500 i gynorthwyo gyda gwaith ar du allan yr eglwys i’w gwarchod rhag y gwynt a’r tywydd.

 

Y Fenni Wyrddach a wnaeth gais am £500 i gynorthwyo wrth gynnal Ffair Neuadd y Farchnad yn 2024 ar gyfer diben codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r argyfwng hinsawdd ac i helpu pobl ar sut y gallant gymryd rhan.

Argymhelliad: Gohiriwyd y cais i alluogi’r ymgeisydd i roi eglurhad pellach ar fanylion y cais am grant.

.

 Canolfan Dyledion Cristnogion yn erbyn Tlodi Cas-gwent a’r Cylch a wnaeth gais am £2,150 i gynorthwyo wrth gyflogi Rheolwr proffesiynol i’r Gronfa Dyledion ar sail 2 ddiwrnod yr wythnos.

Argymhelliad: Gwrthodwyd y cais ar y sail nad oedd yn cyflawni’r meini prawf ar gyfer dyfarnu grant.

 

 

Eglwys Sant Nicholas, Grysmwnt a ofynnodd am £9,500 ar gyfer cymorth i adfer organ brin Baril a Bys 1845 J W Walker yn yr eglwys.

Argymhelliad: Dyfarnu £2,400 i gynorthwyo wrth adfer mecanwaith Baril yr organ.

 

Awdur yr adroddiad: County Councillor Ben Callard

Dyddiad cyhoeddi: 15/01/2025

Dyddiad y penderfyniad: 15/01/2025

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/01/2025 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol

Accompanying Documents: