Defnyddiwch yr opsiynau chwilio islaw ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar a gymerwyd gan gyrff gwneud penderfyniadau y cyngor.
Gallech hefyd edrych ar tudalen penderfyniadau swyddogion i gael penderfyniadau a ddirprwywyd i swyddogion a gymerwyd gan swyddogion y cyngor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2022 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/11/2022
Effective from: 30/11/2022
Penderfyniad:
Datgomisiynu Stryd Tudur fel y ganolfan llety ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth dydd i oedolion ag anableddau dysgu yng Ngogledd Sir Fynwy.
Defnyddio Stryd Tudur er mwyn cefnogi amcanion polisi’r Cyngor i ddarparu tai fforddiadwy o fewn y Sir.
Stryd Tudur yn cael ei ystyried fel tir dros ben a’i drosglwyddo i Wasanaethau Landlordiaid er mwyn cael gwared arno, a hynny ar delerau i’w cytuno gan y Prif Swyddog Adnoddau mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2022 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/11/2022
Effective from: 30/11/2022
Penderfyniad:
Ymatal rhag cynnal ymchwiliad cyhoeddus a chymeradwyo a gweithredu’r Gorchmynion arfaethedig:
Ail-gyflwyno 30mya ar y rhan o’r ffordd ar y B4245 rhwng Ffordd Woodstock a chylchdro Castlegate, gyda therfyn chyflymder 20mya ar hyd Ysgol Gynradd Durand pan fydd yr ysgol yn agor a chau;
Ail-gyflwyno 30mya ar y rhan o’r ffordd ar Heol Cil-y-coed rhwng cylchdro Castlegate a’r bont dros yr hen linell rheilffordd ym Mhorthsgiwed;
Ymestyn y terfyn 30mya ar yB4293 yn Nyfawden i gynnwys safle bws a ddefnyddir gan fws yr ysgol.
Wards affected: Caldicot Cross; Devauden; Severn; West End;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2022 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/11/2022
Effective from: 30/11/2022
Penderfyniad:
Ymatal rhag cynnal ymchwiliad cyhoeddus a chymeradwyo a gweithredu’r Gorchmynion canlynol:
Darparu parcio ar gyfer beiciau modur a chartrefi modur i barcio yng Ngorsaf Fysiau’r Fenni;
Gwahardd gyrru ar Stryd Frogmore a Stryd y Llew yn y Fenni;
Cyflwyno maes parcio newydd i’w adeiladu (Cyffordd Twnnel Hafren);
Cynnwys un maes parcio cyfredol i’r atodlen maes parcio (Maes Parcio Parc Gwledig Rogiet);
Diwygio’r disgrifiad a’r atodlen ffioedd ar gyfer Maes Parcio Stryd Wyebridge sy’n newydd (yn cael ei adeiladu);
Dileu’r cyfleuster gor-aros ym mhob un o feysydd parcio arhosiad hir sydd yn berchen i’r Cyngor;
Cyflwyno mannau parcio ar gyfer cerbydau trydan a chyfyngiad o aros am 4 awr yn y mannau hyn.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2022 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/11/2022
Effective from: 30/11/2022
Penderfyniad:
Mae Aelod Cabinet ar gyfer Economi Gynaliadwy a’r Dirprwy Arweinydd yn cymeradwyo’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021-2022 ar berfformiad Gwasanaeth Cynllunio'r Cyngor sydd i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2022 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/11/2022
Effective from: 30/11/2022
Penderfyniad:
Bydd cyllideb cyfalaf o £64,549 yn cael ei chreu yn 2022/23 er mwyn ariannu gwelliannau hamdden ar Faes Chwarae Gofilon Brenion Siôr V, a bydd hyn yn cael ei ariannu gan gyfraniad cyfatebol o’r balans Adran 106 sydd ym meddiant y Cyngor o’r Cytundeb A106 sydd yn ymwneud gyda hen safle Ysgol Gofilon.
Mae’r cyllid wedi ei drosglwyddo i Gyngor Cymuned Llan-ffwyst Fawr fel ymddiriedolwyr sy’n rheoli’r maes chwarae a bydd swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor Cymuned ar gytuno a gweithredu’r gwelliannau.
Pan gaiff ei dderbyn, bydd cyllideb cyfalaf o hyd at £51,000 yn cael ei greu er mwyn ariannu’r gwelliannau i’r maes chwarae presennol ar Faes Chwarae Gofilon Brenion Siôr V, a bod hyn yn cael ei ariannu gan gyfraniad cyfatebol o’r balans sydd i’w dderbyn gan Gytundeb A106 o ran datblygiad tir preswyl sydd wedi ei leoli rhwng A465 Ffordd Blaenau’r Cymoedd a phrif heol y pentref B4246.
Pan gaiff ei dderbyn, bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo i Gyngor Cymuned Llan-ffwyst Fawr fel ymddiriedolwyr sy’n rheoli’r maes chwarae a bydd swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor Cymuned ar gytuno a gweithredu’r gwelliannau.
Wards affected: (All Wards);