Defnyddiwch yr opsiynau chwilio islaw ar waelod y dudalen i ganfod gwybodaeth am benderfyniadau diweddar a gymerwyd gan gyrff gwneud penderfyniadau y cyngor.
Gallech hefyd edrych ar tudalen penderfyniadau swyddogion i gael penderfyniadau a ddirprwywyd i swyddogion a gymerwyd gan swyddogion y cyngor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/01/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/01/2021
Effective from: 06/01/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
Mae’r Cabinet yn cymeradwyo Polisi RIPA Cyngor Sir Fynwy.
Mae’r Cabinet yn nodi Adroddiad Arolwg diweddar IPCO.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/01/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/01/2021
Effective from: 06/01/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
Mae’r Cabinet yn mabwysiadu Asesiad Llety Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn (GTAA) 2021 – 2026 a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/01/2021 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/01/2021
Effective from: 13/01/2021
Penderfyniad:
Bod Swyddogion o fewn yr adran Diogelu Cyhoeddus sydd wedi eu hawdurdodi o dan Ddeddf Ynni 2011 yn cael eu hawdurdodi o dan Reoliad 35 o Reoliadau Effeithiolrwydd Ynni (Eiddo Rhentu Preifat) (Lloegr a Chymru) 2015.
Dylid diwygio’r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion yng Nghyfansoddiad y Cyngor gan y Swyddog Monitro er mwyn adlewyrchu’r awdurdodiad newydd yma.
Cytuno a mabwysiadu’r Protocol Gorfodi fel dull y Cyngor er mwyn delio gydag achosion o beidio â chydymffurfio gan gynnwys defnyddio Cosbau Penodedig a Hysbysiadau Cydymffurfiaeth lle bo’n briodol.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/01/2021 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/01/2021
Effective from: 13/01/2021
Penderfyniad:
Roedd yr Aelod Cabinet ar gyfer Mentergarwch a Chynllunio Defnydd Tir wedi cymeradwyo’n rhannol y Datganiad Technegol Rhanbarthol (2ail Adolygiad) o ran dosraniadau unigol ar gyfer agregau ardal Sir Fynwy unig ac ymatal rhag cytuno i’r egwyddor o gwrdd â’r gofynion agregu isranbarthol ehangach ar hyn o bryd yn sgil y diffyg gwybodaeth o ran goblygiadau hyn ar y CDLlRh.
Roedd yr Aelod Cabinet wedi cytuno i fwrw ymlaen gyda pharatoi Datganiad o Gydweithredu Isranbarthol (SSRC) er mwyn gwyntyllu’r opsiynau o sut y mae modd cwrdd â gofynion y dosrannu isranbarthol er mwyn caniatáu’r CDLlRh i symud i’r broses gynllunio. Gellir cytuno ar SSRC lefel swyddog o dan bwerau dirprwyedig, a hynny ar yr amod bod yr holl Awdurdodau Cynllunio Lleol unigol o fewn yr isranbarth yn derbyn eu dyraniadau unigol ar gyfer yr agregau yn eu hardaloedd ac yn gwneud dyraniadau priodol yn eu CDLlRh er mwyn diwallu’r fath anghenion. Os oes angen i Sir Fynwy i gwrdd â dosraniadau awdurdod arall, bydd angen i’r Cabinet i gytuno a chymeradwyo unrhyw ddatganiad perthnasol o gydweithredu isranbarthol.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/01/2021 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/01/2021
Effective from: 13/01/2021
Penderfyniad:
Cytuno ar ddileu cofnodion a’r gweithgareddau gwaredu ar gyfer yr eitemau arfaethedig yn unol ag Adran 4 o Becyn Cymorth Cymdeithas yr Amgueddfeydd. (Mae’r rhestr i’w gweld yn Atodiad 2).
Noder bod hyn yn ffurfio’r trydydd o gyfres. Bydd rhestrau pellach ar gyfer yr eitemau i’w gwaredu yn cael eu cyhoeddi wrth i ni wneud argymhellion.