Mater - penderfyniadau

TEST

02/02/2017 - Future Monmouthshire

 

·         Cefnogi datblygiad fframwaith newydd 'Sir Fynwy y Dyfodol' i bennu cwmpas Cyngor Sir Fynwy yn y dyfodol fel corff gwasanaethau cyhoeddus.

 

·         Cychwyn ymchwil a datblygiad cychwynnol i bennu'r maint isafswm dichonadwy ar gyfer ein cyngor yn y dyfodol, gan greu glasbrint ar gyfer strwythur cost sefydliadol newydd.

 

·         Creu tîm bach o swyddogion, o ledled y sefydliad, i ddatblygu'r model gweithredu ymhellach a fydd yn cefnogi swyddogaeth yn y dyfodol.

 

·         Cychwyn Partneriaeth Academaidd gyda Phrifysgol Caerdydd, er mwyn sicrhau bod y broses yn cael ei gefnogi gan ymchwil drylwyr a mewnwelediadau i arferion gorau ac yn darparu modd o gofnodi, profi a phrototeipio'r cynnydd a wnaed.

 

·         Adeiladu ar y bartneriaeth trwy greu 'Comisiwn ar gyfer Sir Fynwy y Dyfodol', gan gynnwys aelodau o'r Brifysgol, y sectorau busnes a chymunedol, staff ac aelodau.

 

 

  • Pennu cyllideb o hyd at £250,000 wedi'i dynnu o gronfeydd wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio a Blaenoriaethu Buddsoddiad yn destun sefyllfa alldro 2015/16 i gefnogi'r tîm, y rhaglen waith a gweithgareddau penodol sy'n angenrheidiol i gyflwyno'r enillion ariannol ac ehangach ar y buddsoddiad gofynnol.