Argymhellion i'r Cyngor:
(i) creu cyllideb cyfalaf o £91,788 yn 2016/17 i gynnal y prosiectau a amlinellir isod a bod hyn yn cael ei ariannu gan gyfraniad cyfatebol o weddill Adran 106 a gedwir gan y Cyngor Sir mewn perthynas â safle Heol yr Eglwys yng Nghil-y-Coed.
(ii) defnyddio gweddill Adran 106 o £91,788 o Gytundeb Adran 106 Heol yr Eglwys, Cil-y-Coed i gwblhau gwaith uwchraddio a gwella'r ardaloedd chwarae yng Nghastell Cil-y-Coed a Chas Troggy.