Mater - penderfyniadau

WASACRE Business

02/03/2023 - WASACRE Business

 

1.    Ethol Is-gadeirydd

 

Trafodwyd hyn gan bob Gr?p, a chynhaliwyd pleidlais gydag un bleidlais i bob gr?p: Yn dilyn y bleidlais hon, cefnogodd CYSAG Sir Fynwy enwebiad Vicky Barlow ar gyfer swydd Is-gadeirydd.

 

2.    Etholiadau'r Pwyllgor Gwaith

 

Charlotte Rhodes aeth â'r Gadair am yr eitem hon.   Datganodd y Cynghorydd Sirol L. Brown fuddiant rhagfarnol fel enwebai ar gyfer y Pwyllgor Gwaith, tynnodd yn ôl ac ni chymerodd unrhyw ran yn y penderfyniad.

 

Nodwyd eglurhad gan CCYSAGauC nad oes rheol galed a chyflym a gall CYSAG bleidleisio dros enwebeion ar gyfer Pwyllgor Gwaith yn wahanol i'w enwebiad ar gyfer Is-gadeirydd.

 

Trafodwyd hyn gan bob Gr?p, a chynhaliwyd pleidlais gydag un bleidlais i bob gr?p: Yn dilyn y bleidlais, pleidleisiodd CYSAG Sir Fynwy o blaid 1) Cynghorydd Sirol L. Brown, 2) Mathew Maidment a 3) Marged Williams / Tyler Lorraine Saunders. 

 

 

3.    Gwelliannau Cyfansoddiad

 

Nodwyd y rhain.

 

4.    Cyfarfod Haf a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol:  Dydd Mercher 29 Mehefin. Bydd y prif gyfarfod arferol yn cael ei gynnal yn y bore, ac yna'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. 3 lle i gynrychiolwyr ynghyd â’r Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

 

Mynegodd y Cynghorydd Sirol Brown ddiddordeb mewn mynychu'r cyfarfod.  Bydd y Clerc yn anfon e-bost i weld a oes unrhyw Aelodau CYSAG eraill am fynychu.