Cytunwyd i greu rôl newydd, Swyddog Polisi ac Archwilio.
Cytunwyd:
Bod cyfatebiaeth i 2.47 swydd llawn-amser Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth yn cael eu dileu.
Bod cyfatebiaeth i 2.0 swydd llawn-amser Swyddog Pwyllgorau yn cael eu creu.
Bod cyfatebiaeth i 1.6 swydd llawn-amser newydd Swyddog Cefnogi Aelodau’n cael ei chreu.
Bod cyfatebiaeth i 0.6 swydd llawn-amser Cynorthwyydd Gweinyddol (Cadeirydd ac Arweinyddion) yn cael eu dileu.
Bod cyfatebiaeth i 1.0 swydd llawn-amser Ysgrifenyddes Aelodau’n cael ei dileu.
Bod Ysgrifenyddes y Cadeirydd a’r Arweinyddion yn cymryd cyfrifoldeb dros gefnogaeth aelodau.
Bod Uwch Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth yn cael ei ail ddynodi fel Uwch Swyddog Democratiaeth a Chefnogaeth Busnes ac yn dod yn reolwr llinell ar y Tîm Cefnogaeth Busnes.
Bod disgrifiadau swydd a bandiau cyflog y Tîm Cefnogi Busnes yn cael eu cysoni, a bod y ddau aelod o staff sydd, ar hyn o bryd, yn rhan o Gyfarwyddiaethau Menter ac Adnoddau yn cael eu trosglwyddo i’r tîm canolog yma.
Cytunwyd os na fydd swyddogion yn llwyddo i sicrhau swydd o fewn y strwythur newydd neu’n os na fyddant yn cael eu adleoli, bydd angen i unrhyw gostau colli swydd ddod allan o gyllideb y gwasanaeth yn y lle cyntaf, ond os nad yw hyn yn bosib, bydd angen dod ag adroddiad i’r Cabinet i wneud cais am arian o’r cronfeydd wrth gefn.