Cytunodd y Cabinet i:-
Weithredu Cynllun Cymorth Ardrethi Stryd Fawr a Manwerthu ar gyfer 2019/20, yn unol â'r canllawiau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn Atodiad Un.
Derbyn y dyfarniad cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r amodau'n gysylltiedig â'r cyllid.
Gweithredu'r cymorth yn uniongyrchol i gyfrifon trethdalwyr cymwys, yn amodol ar derfynau Cymorth Gwladol.
Dirprwyo trafodaethau ar gyfer unrhyw benderfyniadau i'r Prif Swyddog a'r Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau.