Cofnodion:
Pwrpas:
Diben yr adroddiad yw i'r aelodau gytuno ar y Cytundeb Partneriaeth Statudol ar ôl ystyried sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn ystod ei gyfarfod ym mis Ionawr 2019.
Argymhellion:
Argymhellir bod aelodau'n cytuno ar y Cytundeb Partneriaeth Statudol.
Materion Allweddol:
1. Mae'r Cytundeb Partneriaeth yn cynnwys y swyddogaethau statudol hynny y mae'n rhaid eu cynnwys sef:
· Sut y bydd yr Awdurdod Lleol (ALl) yn hyrwyddo safonau uchel ac yn cefnogi ysgolion yn arbennig y rhai sy'n peri pryder, mewn mesurau arbennig neu sydd angen gwelliant sylweddol, a'r ffactorau y bydd yr ALl yn eu hystyried wrth nodi ysgolion sy'n peri pryder.
· Y cymorth y bydd yr ALl yn ei ddarparu ar gyfer cyrff llywodraethu lle mae'r awdurdod wedi arfer ei bwerau ymyrryd neu wedi atal yr hawl i gyllideb ddirprwyedig, ac mewn achosion lle mae arolygiad o ysgol yn peri pryder neu pan fydd yr ALl yn penodi llywodraethwyr ychwanegol.
· Cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol i roi cymorth i lywodraethwyr
· Yr adroddiadau y mae'r corff llywodraethu yn eu darparu i'r ALl wrth gyflawni ei swyddogaethau.
· Cyfrifoldeb yr ysgol a'r ALl dros faterion Iechyd a Diogelwch a'u dyletswyddau i gyflogeion a phersonau eraill mewn perthynas â'r mater hwn.
· Cyfrifoldeb yr ysgol a'r ALl am reoli adeiladau ysgolion a'u gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio a sut y gall y corff llywodraethu arfer ei bwerau i ddarparu cyfleusterau cymunedol; a
· Dyletswyddau'r ALl o ran talu treuliau a chynnal ysgolion.
Yn ogystal, ar gyfer ysgolion sy'n darparu addysg gynradd, rhaid i'r Cytundeb gynnwys:
· Arfer swyddogaethau gan yr ALl a'r corff llywodraethu a fydd yn hyrwyddo safonau uchel ac yn sicrhau bod disgyblion yn cael eu trosglwyddo'n effeithiol o Gyfnod Allweddol 2 i 3 a;
· Gosod targedau ALl mewn perthynas â chynlluniau addysg a gosod targedau cyrff llywodraethu mewn perthynas â pherfformiad ac absenoldeb disgyblion.
Ar gyfer ysgolion sy'n darparu addysg uwchradd rhaid i'r Cytundeb gynnwys:
· Arfer swyddogaethau gan yr ALl a'r corff llywodraethu a fydd yn hyrwyddo safonau uchel ac yn sicrhau bod disgyblion yn cael eu trosglwyddo'n effeithiol o Gyfnod Allweddol 2 a 3 ac o gyfnod allweddol 3 i 4; a
· Gosod targed mewn perthynas â chynlluniau addysg a gosod targedau cyrff llywodraethu mewn perthynas ag absenoldeb.
2. Ymgynghorwyd â Phenaethiaid a Chymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion Sir Fynwy ar y Cytundeb Partneriaeth a bydd safbwyntiau a sylwadau yn cael eu cynnwys yn y ddogfen derfynol a gyflwynir i'r Cabinet maes o law.
Craffu gan Aelodau:
Cyflwynwyd y Cytundeb Partneriaeth gan y Rheolwr Llywodraethu Plant a Phobl Ifanc. Gwahoddwyd aelodau'r Pwyllgor Dethol i ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau fel a ganlyn:
· Eglurodd y Cynghorydd Sirol M. Groucutt fod y Cytundeb Partneriaeth wedi'i adolygu oherwydd pryderon a godwyd gan Gymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion Sir Fynwy; yn bennaf, bod y ddogfen yn nodi swyddogaethau ar gyfer llywodraethwyr a fyddai fel arfer yn faes arweinyddiaeth ysgolion. Byddai'n rhaid i lywodraethwyr sy'n ymgymryd â swyddogaethau o'r fath ddibynnu dim ond ar wybodaeth a dderbynnir. Ers yr adolygiad ac ar ôl newid rhywfaint o eiriad, cymeradwyodd y Cynghorydd Groucutt a chanmolodd y ddogfen, sydd bellach yn datrys pryderon llywodraethwyr.
· Cadarnhaodd cynrychiolydd Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion Sir Fynwy fod y gymdeithas yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddatrys pryderon ac yn fodlon ar y fersiwn ddiwygiedig.
· Awgrymodd Aelod o'r Pwyllgor rai newidiadau technegol i sicrhau bod y ddogfen yn gyfredol a chytunodd i e-bostio ei hawgrymiadau ar wahân i'w hymgorffori cyn i'r Cabinet eu hystyried, ac ymlaen i symud ymlaen i gyrff llywodraethu ysgolion.