Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc

Cofnodion:

Roedd y Prif Swyddog ar  gyfer Plant a Phobl Ifanc wedi cyflwyno ei Adroddiad Blynyddol, a manteisiodd ar y cyfle i adlewyrchu ar y flwyddyn ddiwethaf o ran yr addysg a’r gwasanaethau yr ydym yn cynnig i’n plant a’n bobl ifanc. Diolchodd gydweithwyr, pob un athro ac athrawes, penaethiaid, cynorthwywyr dysgu a phawb  arall sydd yn gweithio gyda phlant yn ein hysgolion. 

 

Yn dilyn cyflwyniad, cafwyd trafodaeth.

 

Cyfeiriwyd at y ffocws parhaus ar ddysgwyr bregus a sut  y mae hyn yn parhau i fod yn her. Gofynnwyd i’r Prif Swyddog pa gynlluniau sydd ar gael i helpu’r plant yma i wella, a hynny er bod llai o adnoddau ar gael. Wrth ymateb, roedd y Swyddog wedi cydnabod y pryderon ac wedi esbonio ein bod yn gweithio’n agos iawn gyda’n holl ysgolion uwchradd ac yn dechrau defnyddio dulliau mwy cadarn o archwilio cynlluniau ysgolion. Roedd yn cynnwys defnyddio’r Sutton Trust Toolkit, yn sicrhau bod yr arian yn cael ei wario ar yr holl ymyriadau yw’r rhai mwyaf effeithiol. 

 

Wrth ymateb i bryderon, esboniwyd fod Cyfiawnder Cymdeithasol yn cael ei adlewyrchu  drwy gydol yr adroddiad a phwysigrwydd addysg o ran cyfiawnder cymdeithasol a symudedd cymdeithasol yn y dyfodol.     

 

Roedd y Cynghorydd Sir P. Pavia wedi gadael am16:45pm

 

Mae’r Cap 9 yn seiliedig ar y Fisher Family Trust Aspire Model. Mae’r  FFT yn adnodd hynod ddatblygedig ar gyfer athrawon. Mae’n cymharu plant gyda phlant sydd yn debyg iawn. Roedd yr esiampl a ddefnyddiwyd yn cynnwys y gymhariaeth fwyaf heriol bosib.

 

Roedd yna siom fod yna gynnydd yn y nifer  a oedd wedi eu  diarddel am derm sefydlog, ac mae ysgolion yn cael eu herio yngl?n â’r ffigyrau yma. Dywedodd y Prif Swyddog na ddylid cynnwys y rhai hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ac yn derbyn cymorth gan gynorthwywyr dysgu a’u bod yn cael eu hystyried ar wahân i’r sawl sydd yn ymddwyn yn aflonydd. Ychwanegodd fod angen i ni ddeall patrymau y sawl sydd yn cael eu diarddel am gyfnod sefydlog, nifer y plant a pha mor aml yw hyn. Mae mwy o waith yn cael ei wneud a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Dethol yn y misoedd nesaf.  

 

O fis Medi 2019, rydym yn buddsoddi mewn athro a chynorthwyydd dysgu ychwanegol ym mhob Ysgol Uwchradd yn Sir Fynwy a HLTA ychwanegol er mwyn sicrhau bod ymateb cyson ar draws y sir gennym i ymddygiad heriol.  

 

Cytunwyd nad yw’r perfformiad o ran Cyfnod Allweddol  4 yn cyrraedd y nod ond rydym yn gobeithio gweld cynnydd erbyn diwedd y flwyddyn academaidd hon.  

 

Mynegwyd pryderon o bersbectif ariannol am y diffygion ariannol sydd yn debygol o effeithio ar hanner ysgolion y Sir. Roedd y Prif Swyddog wedi cydnabod yr her ac yn esbonio bod yn rhaid i ni sicrhau bod ein hysgolion yn deall hyblygrwydd yr adnoddau yr ydym yn darparu a’u bod yn deall sut i wneud y gorau o hyn. 

 

Wrth ymateb i bryder am hiliaeth mewn ysgolion, mae swyddogion yn gweithio yn agos gydag ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn yr hyfforddiant sydd angen er mwyn sicrhau bod ysgolion yn deg, cytbwys ac agored, a bod plant yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn briodol.  

 

Roedd y Cynghorydd Sir D. Jones wedi gadael am 16:55pm

 

Roedd y Cynghorydd Sir D. Blakebrough wedi gadael am 17:00pm

 

Nodwyd fod Cil-y-coed yn ardal lle y mae yn broblemau o ran capasiti, ac mae yna waith yn cael ei wneud er mwyn datblygu strategaeth glir yngl?n â sut i wario arian Adran 106.

 

Mae yna strategaeth ecwiti hefyd ar gael, rhan allweddol o blant Mwy Abl a Thalentog, er mwyn sicrhau bod y plant yma yn parhau i symud ymlaen.  is 

 

Roedd y Cynghorydd Sir D. Evans wedi gadael am 17:15pm.

 

Roedd yr Aelod Cabinet ar gyfer Plant a Phobl Ifanc wedi diolch i’r Prif Swyddog am ei adroddiad a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn cydnabod nifer yr heriau, ond hefyd wedi amlygu’r pwysigrwydd o gydnabod ardderchowgrwydd.  

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am ei adroddiad.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: