Cofnodion:
Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet dros Adnoddau’r adroddiad i geisio
cymeradwyaeth y Cyngor i’r Strategaeth Rheoli Asedau,
Strategaeth Ffermydd y Sir a’r
Polisi Buddsoddi Asedau. Hysbysodd y Cyngor am welliannau i'r
adroddiad fel a ganlyn:
Diwygiadau Arfaethedig i Eitem 15a ar yr Agenda
Strategaeth Rheoli Asedau a Pholisïau Cefnogi
Rydym yn cynnig y gwelliannau canlynol i’r adroddiad uchod:
Argymhellion:
1.1 Cymeradwyo’r Strategaeth Rheoli Asedau, Strategaeth Ffermydd y Sir a’r polisïau cefnogi.
1.2 Cytuno i fabwysiadu’r Polisi Buddsoddi mewn Asedau a chymeradwyo hyd at £50,000,000 o fenthyca darbodus i ariannu caffaeliadau dros gyfnod o dair blynedd.
1.3 Cytuno i ddiwygio’r Cyfansoddiad i gynnwys Pwyllgor Buddsoddi a fydd ag awdurdod dirprwyo i wneud penderfyniadau ar gaffael Asedau Buddsoddi fel y rhagnodwyd gan y Polisi Buddsoddi mewn Asedau.
1.4 Cytuno i ffurfio pwyllgor buddsoddi fel yr amlinellir yn 3.10 o’r adroddiad diwygiedig.
1.5 Dirprwyo awdurdod i Bwyllgor Buddsoddi i gymeradwyo Achosion Busnes, cymeradwyo gwariant ar gyfer arolygon diwydrwydd dyladwy ac adroddiadau a chytuno i gaffael asedau tir ac eiddo yn unol â meini prawf gwerthuso ac yn rhwym wrth adolygiadau perfformiad blynyddol.
1.6 Cymeradwyo sicrwydd yr arian wrth gefn a glustnodwyd i’r swm o £100,000 o dderbyniadau cyfalaf y gronfa wrth gefn, Cynhyrchu Derbyniadau Cyfalaf i ariannu costau cychwynnol diwydrwydd dyladwy cyn caffael.
Mae Paragraff 3.10 o’r adroddiad yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:
Dirprwyir gwneud penderfyniadau i Bwyllgor Buddsoddi a fydd yn cynnwys yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ac arweinwyr y ddwy wrthblaid fwyaf (3: 1: 1). Bydd y pwyllgor yn cael ei gefnogi gan y Prif Swyddog Adnoddau a chydweithwyr o adrannau’r Ystadau, Cyllid a’r Gwasanaethau Cyfreithiol. Bydd adroddiadau blynyddol ar berfformiad yn cael eu cyflwyno i'r pwyllgor Archwilio. Disgwylir y bydd cyngor arbenigol yn cael ei gymryd gyda chaffaeliadau cychwynnol i ychwanegu at arbenigedd a gallu.
Mae Paragraff 6.4 o’r Polisi Buddsoddi Asedau (tudalen 780 yn eich pecyn) of your bundle) wedi cael ei ddiwygio fel a ganlyn:
6.4 Cyflwynir yr Achos Busnes i’r Pwyllgor Buddsoddi a fydd yn cynnwys Arweinydd y Cyngor, y Dirprwy Arweinydd, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ac Arweinwyr y ddwy wrthblaid fwyaf (cydbwysedd gwleidyddol 3: 1: 1). Caiff y Pwyllgor ei gynghori gan y Prif Swyddog Adnoddau a Swyddogion o adrannau’r Ystadau, Cyllid a’r Gwasanaethau Cyfreithiol.
Yn ystod trafodaeth nodwyd y pwyntiau canlynol:
Mewn ymateb i bryder sicrhaodd yr Aelod Cabinet yr Aelodau nad oeddem yn benthyca mwy nag y gallem ei fforddio.
Cadarnhaodd y Swyddogion, o ran y meini prawf gwerthuso, bod y dangosyddion perfformiad rydym ynghlwm wrthynt yn cael eu hesbonio ar dudalen 773 o'r pecyn agenda.
Yn ogystal â pharchu safonau’r Cyngor, parthed y caffaeliadau penodol rydym yn bwriadu eu hyrwyddo, daw diweddariadau ar berfformiad drwy’r Pwyllgor Archwilio.
Holwyd sut y byddai'r Arweinydd yn gallu bod yn rhan o'r Pwyllgor Buddsoddi o ystyried ei fuddiant dan Ffermydd y Sir. Cadarnhawyd y byddai'r Arweinydd yn parhau i ddatgan buddiant yn y maes hwnnw, ac ystyriwyd ei fod yn bwysig bod yr Arweinydd yn aelod o'r panel.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Taylor at baragraff 3.10 sy'n trafod y gwneud penderfyniadau a ddirprwywyd, gan ddatgan y bydd y pwyllgor yn cynnwys arweinwyr y ddwy wrthblaid a chynnig gwelliant y dylid cynnwys Arweinwyr y 3 gr?p gwrthblaid.
Eiliwyd y gwelliant, ac ar ôl pleidlais, cafodd y gwelliant ei orchfygu.
Dychwelodd y drafodaeth at yr argymhelliad gwreiddiol, ac ar ôl pleidlais penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymhelliad:
Cymeradwyo'r Strategaeth Rheoli Asedau, Strategaeth Ffermydd y Sir a’r polisïau ategol.
Cytuno i fabwysiadu'r Polisi Buddsoddi Asedau a chymeradwyo hyd at £50,000,000 o fenthyca darbodus i ariannu caffaeliadau dros gyfnod o dair blynedd.
Cytuno i’r gwelliant yn y Cyfansoddiad i gynnwys Pwyllgor Buddsoddi a fydd yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniadau ar gaffael Asedau Buddsoddi fel y rhagnodir yn y Polisi Buddsoddi Asedau.
Cytuno i ffurfio Pwyllgor Buddsoddi fel yr amlinellir yn 3.10 yn yr adroddiad diwygiedig.
Dirprwyo awdurdod i Bwyllgor Buddsoddi i gymeradwyo Achosion Busnes, cymeradwyo gwariant ar gyfer arolygon diwydrwydd dyladwy mewn perygl ac adroddiadau a chytuno i gaffael asedau tir ac eiddo yn unol â meini prawf gwerthuso a gytunwyd, rhwym wrth adolygiadau perfformiad blynyddol.
1.7 Cymeradwyo sicrwydd yr arian wrth gefn a glustnodwyd i’r swm o £100,000 o Dderbyniadau Cyfalaf y gronfa wrth gefn i ariannucostau cychwynnol diwydrwydd dyladwy cyn caffael.
Dogfennau ategol: