Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yr Adroddiad Blynyddol, gyda’r bwriad o hysbysu’r Cyngor o’r cynnydd a wnaeth y system addysg yn y deuddeg mis blaenorol ers yr adroddiad diwethaf. Mae’r cyfnod cofnodi hwn yn cynnwys cyfnod yr arholiadau a ddiweddodd yn Awst 2017.

 

Yn dilyn y cyflwyniad croesawyd sylwadau.

 

Cydnabu’r swyddogion bwysigrwydd arolygu’r polisi dalgylch.

 

Mae dangosyddion yn cael eu datblygu o gwmpas Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf sy’n well ar gyfer adnabod cynnydd ymhlith y bobl ifanc hynny. Mae cydweithwyr Dechrau’n Deg yn gweithio’n glos gydag ysgolion ac adnabod plant y  gynnar yn rhan o’r rhaglen, gan alluogi cymorth ysgol i barhau i weithio gyda’r teuluoedd hynny.

 

Croesawodd Cadeirydd Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc yr adroddiad a chymeradwyodd y cyflawniadau, ond cydnabu’r meysydd  ar gyfer gwelliant, sef teuluoedd yn cael eu herio’n economaidd, a phlant dan anfantais neu blant sy’n derbyn gofal. Ychwanegodd bod angen astudiaeth fanwl i berfformiad Prydau Ysgol am Ddim, lle mae patrwm cyson dros gyfnod o amser, lle mae Sir Fynwy’n un o’r perfformwyr gwaethaf yng Nghymru. Cytunodd y Prif Swyddog bod y bwlch perfformiad yng Nghyfnod Allweddol 4 yn rhy eang, a bod angen magu dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd rhwng Cyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4.

 

Mynegodd Arweinydd yr Wrthblaid ei ddiolch i’r Prif Swyddog am yr adroddiad a dywedodd y dylem fod yn hynod falch o ystadegau Cyfnod Allweddol 3, a byddai hyn yn brawf fel y symudant i mewn i Gyfnod Allweddol 4. Roedd angen mwy o sicrwydd arno ynghylch y lefelau o gwmpas Prydau Ysgol am Ddim. Cododd bryderon ynghylch llesiant staff, ac fel y caiff hwnnw ei fesur, gan ddweud bod tua 77 o swyddi cynorthwywyr addysgu wedi’u colli dros y 3 i 4 blynedd ddiwethaf, yn arwain at bwysau ychwanegol ar y gwasanaeth 1 i 1 gyda phlant dan anfantais. Tynnodd sylw hefyd at yr angen i feithrin gofal ym maes cyfiawnder cymdeithasol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog, parthed lleisiant staff, cynhelid cyfarfodydd gyda phenaethiaid yn barhaus. Roedd digwyddiad llesiant a gynhaliwyd yn ddiweddar wedi tynnu sylw at y maes hwn. Ychwanegodd bod Prydau Ysgol am Ddim yn faes allweddol i ganolbwyntio arno yn arbennig yng Nghyfnod Allweddol 4.

 

Anogwyd swyddogion i gydnabod pwysigrwydd adnabod dyslecsia a dyspracsia, gan yr awgrymwyd bod ysgolion y wladwriaeth yn caniatáu i’r disgyblion hyn gael eu hanwybyddu. Gofynnwyd am eglurhad ar bolisi adnabod a chefnogi’r rheiny â dyslecsia ac am fanylion yr ystadegau. Cytunodd y swyddog ddarparu ymateb ysgrifenedig.

 

Cydnabu’r Swyddog yr heriau y tynnwyd sylw atynt ynghylch polisi derbyn Ysgol Gilwern a chydnabu bwysigrwydd mynychu ysgol leol. Byddai’n rhaid mynd i’r afael â deinameg y polisi.

 

Tynnodd Aelodau sylw at bwysigrwydd addysg gorfforol yn enwedig yng ngoleuni gordewdra adeg plentyndod. Clywsom am lwyddiant ac effeithiau’r Rhaglen Arweinyddiaeth Chwaraeon. Cydnabuom bwysigrwydd gweithgareddau awyr agored.

 

Nodwyd newidiadau yn y fframwaith arolygu.

 

Codwyd pryderon ynghylch diffyg datblygiad Ysgolion yr 21ain Ganrif yng Nghas-gwent, a cheisiwyd sicrwydd  ynghylch cadw plant Cas-gwent. Sicrhaodd y Prif Swyddog fod Ysgol Cas-gwent yn dal ar y rhaglen, ac erys yr ymrwymiad y bydd yn barod ar ddechrau band C i gael y buddsoddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn rhagwelwyd y byddai 12 ysgol mewn diffyg ariannol ar ddiwedd y flwyddyn. Cydnabuwyd bod traean yr ysgolion ar draws y Sir mewn diffyg ariannol.

 

Cytunwyd ar bwysigrwydd arfogi pobl ifanc â’r sgiliau i symud i mewn i’r gweithle. Cynhaliwyd trafodaethau gydag ysgolion uwchradd i gytuno gwell cydweithrediad ar ôl 16 oed er mwyn sicrhau cynnig gwell, ehangach. Hefyd cynhaliwyd trafodaethau gyda Choleg Gwent ynghylch mynediad i addysg alwedigaethol. 

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw at yr angen i ystyried ad-drefnu ysgolion yn y dyfodol a threfnu ar gyfer llefydd ysgol yn y dyfodol yn yr ysgolion cynradd ynghyd â’r uwchradd. Disgwyliai bwysau difrifol mewn ysgolion cynradd ar draws de’r rhanbarth. Anogodd yr Aelod Cabinet a’r Prif Swyddog i ystyried hynny’n ofalus. 

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Plant a Phobl Ifanc y ddadl adeiladol. Pwysleisiodd bwysigrwydd amddiffyn y myfyrwyr mwyaf bregus yn ein sir a phwysigrwydd osgoi difaterwch. Cytunodd ei bod yn bwysig ymestyn pob plentyn i gyrraedd ei lawn botensial. Mynegodd ddiolchiadau’r Cyngor i’r staff addysgu ar draws Sir Fynwy, ac ychwanegodd ei fod wedi gweld enghreifftiau arbennig o addysg ar draws yr ysgolion. Ailddatganodd yr ymrwymiad i adnewyddu’r holl ysgolion uwchradd, gan nodi mai Y Fenni fyddai nesaf, a Chas-gwent yn dilyn.

 

Wedi pleidlais penderfynodd y Cyngor dderbyn Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: