Cofnodion:
Cyd-destun:
Rhoi gwybod i Aelodau o gyflwyniad y Polisi Diogelu Corfforaethol newydd.
Argymhellion:
Argymhellir bod Aelodau’n cytuno ac yn mabwysiadu’r Polisi Diogelu Corfforaethol.
Materion Allweddol
Blaenoriaeth uchaf y Cyngor yw diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl.
O ganlyniad mae diogelu wedi’i fewnblannu i rai Cyfarwyddiaethau a meysydd gwasanaeth; serch hynny mae yna lefelau amrywiol o ddealltwriaeth o ran disgwyliadau mewn rhannau eraill o’r sefydliad.
Archwiliadau’r Aelodau:
Dwedodd Aelod taw adroddiad cynhwysfawr dros ben oedd hwn gyda dyheadau uchel a chwestiynodd aelodaeth Gr?p Cydweithredu Diogelu’r Holl Awdurdod. Cadarnhawyd bod y gr?p yn cael ei gadeirio gan y Prif Swyddog, Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai. Mae’r aelodaeth yn cynnwys Prif Swyddogion neu Benaethiaid Gwasanaeth o bob cyfarwyddiaeth a chynrychiolwyr o’r Uned Diogelu a Sicrwydd Ansawdd. Esboniwyd taw diben y gr?p yw cynnig dull cynhwysfawr a llywodraethu effeithiol. Cadarnhawyd nad yw aelodau’n cymryd rhan yn y Gr?p ar hyn o bryd ond gallir ystyried hyn. Cwestiynodd y Prif Swyddog a oedd archwiliad trwy Bwyllgorau Dethol yn cynnig digon o sicrwydd yn ogystal ag adroddiadau i’r Cabinet a Chyngor neu os oedd teimlad bod rhaid i aelodau cymryd rhan yn y Gr?p sydd â rôl fwy gweithredol.
Cytunodd Aelod y dylai cynghorwyr i gyd cael eu hyfforddi i Lefel 1 Diogelu, ymholodd pa mor gyflym byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu a gofynnodd sut i sicrhau bod pob aelod yn cwblhau'r hyfforddiant. Cadarnhawyd bod sesiwn ar y 10fed o Orffennaf a bydd y rheini sydd ddim yn mynychu'n cael eu nodi i fynychu sesiwn arall.
Gofynnodd Aelod sut fydd yr Uned Diogelu a Sicrwydd Ansawdd yn monitro effeithlonrwydd archwiliadau ac esboniwyd y bydd cynrychiolwyr yn mynychu cyfarfodydd Pwyllgor Dethol, i gyflwyno adroddiadau’u hun ond hefyd i arsylwi ac i fonitro eitemau eraill o fusnes. Atgoffwyd aelodau y dylai adroddiadau pwyllgor i gyd gynnwys adran i adnabod ac i fynd i’r afael â “Goblygiadau Diogelu”. Bydd cynnwys ac ansawdd y datganiadau hyn yn cael eu samplo ledled pob pwyllgor gan yr Uned Diogelu a Sicrwydd Ansawdd er mwyn gwerthuso trefniadau diogelu.
Cwestiynwyd lefel ac argaeledd hyfforddiant i wirfoddolwyr. Atebwyd bod cymorth a hyfforddiant i wirfoddolwyr yn cael eu cynnig mewn fformat cymesur a chyfleus. Esboniwyd bod Polisi Gwirfoddoli'n cael ei baratoi bydd yn graddio lefel yr hyfforddiant â rôl y gwirfoddolwr.
Dogfennau ategol: