Cofnodion:
Cyd-destun:
Darparu Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor Dethol Oedolion
am ystyriaeth a sylwadau. Esboniwyd bod yr adroddiad yn anffodus wedi'i adael allan o'r agenda ond cytunodd yr Aelodau y byddent yn gwrando ac yn gwneud sylwadau.
Materion Allweddol
1. Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol yw hwn, sy'n ystyried y flwyddyn ariannol 2016/17. Bwriad yr adroddiad yw ystyried y gwelliant mewn darparu’r blaenoriaethau a nodwyd yn adroddiad blynyddol blwyddyn ddiwethaf, ystyried perfformiad am y flwyddyn ddiwethaf, a nodi'r meysydd allweddol am ddatblygiad a gwelliant yn 2016/17. Mae’n galluogi’r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru (AGGCC) i brofi os yw’r asesiad o welliant a datblygiad yn gyson â’r amrywiaeth o dystiolaeth sy’n cael ei chasglu a’i chyflwyno iddynt yn ogystal â’i phrofiad uniongyrchol sy’n deillio o ymweld â safleoedd, gweithgaredd rheoleiddio ac arolygiadau thema. Mae fformat yr adroddiad wedi newid sydd nawr yn batrymlun wedi’i ddatblygu’n genedlaethol sy’n cyd-fynd â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) (2014). Rhaid i bob cyfarwyddwr yng Nghymru adroddi am berfformiad a risg a nodi cynlluniau am welliant mewn perthynas â:
· Crynodeb perfformiad;
· Sut mae pobl yn siapio ein gwasanaethau;
· Hyrwyddo a gwella lles y rheini rydym yn helpu;
· Gweithio gyda phobl a phartneriaid i amddiffyn a hyrwyddo iechyd meddyliol a chorfforol a lles emosiynol pobl.
· Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu ac i gymryd rhan yn y gymdeithas;
· Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal iechyd a pherthnasau domestig, teuluol a phersonol yn ddiogel;
· Cymryd camau i amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed;
· Sut ydyn ni’n cyflawni'r hyn yr ydym yn ei wneud;
· Ein gweithred partneriaeth, arweinyddiaeth wleidyddol a chorfforaethol, llywodraethiad ac atebolrwydd;
· Ein blaenoriaethau am welliant.
2. Mae’r adroddiad blynyddol yn cynnig cyfle i ystyried yr hyn yr ydym yn ei wneud i wneud gwahaniaeth i fywydau dinasyddion mwyaf bregus Sir Fynwy, beth ydyn ni’n gwneud yn dda, a pha feysydd sydd angen i ni wneud hyd yn oed yn well. Mae’r adroddiad yn esbonio’r cyd-destun yr ydym yn gweithio o fewn a sut fyddwn ni’n parhau i wella a moderneiddio. Mae’n tanlinellu ymarfer, datblygiad gweithlu, darpariaeth gwasanaeth a chomisiynu rhagorol, blaenllaw. Un esiampl yw ailfodelu gofal yn y cartref trwy weithredu Gofal yn y Cartref Sir Fynwy. Mae’n dangos datblygiad o'r amcanion gwella a osodwyd y flwyddyn ddiwethaf - mae'r Rhaglen Gwella Gwasanaeth Plant ar y trywydd iawn i gynnig rhagoriaeth mewn gwasanaethau plant o fewn amserlen 3 mlynedd y rhaglen. Mae gwelliant penodol wedi bod mewn sut ydynt yn rheoli contractau gyda ac yn cyfeirio at y gwasanaeth, a sut ydynt yn sefydlogi a chefnogi ein gweithlu.
3. Tanlinellir risg a her mewn rhai meysydd hefyd. Nid yw pobl yn Sir Fynwy sydd angel gofal a chymorth yn y gymuned bob tro’n eu derbyn o’r gwasanaethau cywir mor gynted ag sydd angen, gydag ychydig oedi’n digwydd mewn sefyllfaoedd ysbyty ond hyd yn oed mwy yn y gymuned. Blaenoriaeth fwyaf gwasanaethau oedolion yw sicrhau ansawdd digonol wrth weithio gyda’r sector gofal i weithredu’r modelau cywir o gymorth a chefnogaeth, ac i weithredu cynllun datblygu gweithlu am y gweithlu gofal. Mae’r adroddiad yn tanlinellu’r risgiau parhaol a meysydd am ddatblygiad mewn gwasanaethau cymdeithasol plant, sy'n amlwg gyda’r nifer uchel o blant ar y gofrestr amddiffyn plant. Mae yna angen mwy i integreiddio rhwystrau wedi’u targedu’n well ac ymyrraeth gynnar trwy’r tîm o gwmpas y teulu a gwasanaethau cymdeithasol plant ac i recriwtio mwy o ofalwyr maeth lleol i blant Sir Fynwy.
4. Mae’r Adroddiad Blynyddol yn mynegi gweledigaeth a blaenoriaethau cysylltiedig sy’n ymwneud â lles, gofal cymdeithasol ac iechyd yn Sir Fynwy sy’n ceisio adeiladu ar yr amryw gryfderau sy’n bodoli gyda'r nod o gynnig canlyniadau rhagorol cyson ymhobman. Mae hyn o fewn cyd-destun fframwaith deddfwriaeth newydd Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) (2014), heriau cynyddol demograffeg gall cynyddu'r galw am wasanaethau cymdeithasol yn sylweddol, yr her o sicrhau gweithlu a chynnig gwasanaethau mewn sir wledig a chyllidebau sy'n lleihau. Mae cynnwys yr adroddiad gymaint i wneud â lles na gofal a chymorth; mae cymaint o lwyddiant gofal cymdeithasol yn ddibynnol ar bobl, teuluoedd a chymunedau gwydn sy’n byw’r bywydau maen nhw eisiau byw heb angen gofal a chymorth gwasanaethau cymdeithasol statudol.
Archwiliadau’r Aelodau
Cefnogodd Aelod brand “helping hand” yn lle label Gwasanaethau Cymdeithasol fel modd o oresgyn rhwystrau i fynd i'r afael ag unigrwydd, gofal a chymorth.
Argymhellodd Aelod gwefan Age Cymru sy’n cynnig rhestr gwasanaethau cynhwysfawr i unigolion. Dwedwyd taw blaenoriaeth yw tanlinellu’r amryw wasanaethau sydd ar gael. Er enghraifft, mae DEWIS yn adnodd lles defnyddiol.
Gwnaethpwyd y pwynt bod diffyg rhyngrwyd a sgiliau cyfrifiadur ac anallu i ymweld â’r Hybiau’n broblem sylweddol yn ôl cyfathrebu a darparu gwasanaethau. Awgrymwyd efallai bod taflenni mewn llyfrgelloedd a neuaddau pentref yn fwy buddiol ond derbyniwyd hefyd bod angen chwilio am ffyrdd eraill o gysylltu â phobl fregus ac unig. Awgrymodd Aelod y rôl unigryw sydd gydag Aelodau sydd wedi cael eu Hethol yn y ward a sut gallan nhw gyfathrebu gyda phreswylwyr trwy gylchlythyrau ayyb.
Ychwanegodd Aelod bod rhwystrau eraill sy’n cynnwys teuluoedd prysur, pobl sy'n cael hi'n anodd cadw'u hannibyniaeth ac amharodrwydd i ofyn am gymorth sy’n gallu golygu bod pobl yn “cwympo trwy’r rhwyd”. Mewn ymateb, adnabuwyd nad oedd un modd yn mynd i gwrdd ag anghenion cymunedau i gyd ac nid yw atebion digidol yn briodol bob amser. Bwriad defnydd cysylltwyr cymunedol a chyfeillion, er enghraifft, yw gwrthsefyll datgysylltu. Cytunodd y Prif Swyddog bod hi’n bwysig ystyried yr elfennau hyn ym mlaenoriaethau’r flwyddyn nesaf.
Gofynnodd Aelod a oedd modd diwygio'r adroddiad er mwyn cynnwys cysylltiad i'r henoed am y fath o gymorth sydd ar gael mewn fformat priodol.
Gofynnodd Aelod a oedd yr awdurdod wedi archwilio cynnig y drydydd sector er mwyn darparu rhestr o ba wasanaethau sydd ar gael. Atebwyd bod rhan o wybodaeth grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn hysbys ond nid popeth. Ychwanegwyd bod Tîm Datblygiad Cymunedol yn cael ei sefydlu a rôl allweddol bydd archwilio adnoddau mewn ardal.
Mewn ymateb i gwestiwn Aelod yngl?n â chreu tîm a sut buasai canlyniadau’n cael eu mesuro, esboniwyd bod yr awdurdod yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe i sicrhau bod y mesurau cywir yn cael eu defnyddio a bydd adroddiad blynyddol yn cael ei wneud. Gwnaethpwyd y sylwad y bydd hi’n bwysig bod Aelodau’n ymwybodol o bwy yw’r Swyddog Datblygiad Cymunedol yn eu ward. Pwysleisiodd Aelod bod hyn yn hollbwysig i lwyddiant y gwasanaeth.
Dogfennau ategol: