Agenda item

Cyflwyniad ar gyfer Trosolwg Menter.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Dethol gyflwyniad lle darparwyd trosolwg o weithgareddau’r Gyfarwyddiaeth Fenter. 

 

Craffu Aelodau :

 

  • Swyddi sgiliau uchel mewn gweithgynhyrchu - Cydnabuwyd bod angen i’r Gyfarwyddiaeth wneud mwy i annog cwmnïau gweithgynhyrchu sgiliau uchel i sefydlu yn Sir Fynwy. Yn ne-ddwyrain y sir, gyda’r gostyngiad yn nhollau Pont Hafren, derbynnir mwy o ymholiadau yn gofyn am fwy o lefydd diwydiannol yn y rhan hon o’r Sir. Mae’r Awdurdod ar hyn o bryd yn alinio’i strategaeth fuddsoddi gyda’r gwaith a gyflawnir parthed y Fargen Ddinesig gyda’r bwriad o dderbyn yr effaith fwyaf o hyn.

 

  • Mae oddeutu 4300 o ficrofusnesau wedi’u lleoli yn y Sir sy’n tueddu i gyflogi llai na 19 cyflogai i bob busnes. Dan feini prawf cyfredol cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, nid yw’r busnesau hyn yn gallu derbyn grantiau ond gyda Brexit, bydd y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn gwasgaru a gobeithir y cânt eu disodli gan rywbeth mwy ffafriol i Sir Fynwy.

 

  • Mae cysylltedd band eang yn fater sydd angen mynd i’r afael ag ef yn Sir Fynwy a bydd yn gymorth i fusnesau bach yn ogystal.

 

  • Cynhyrchir y Cynllun Gweithredu Amaeth-Ddinesig ym Medi neu Hydref 2017 gyda’r bwriad o edrych ar ffyrdd o ddenu cyllid ychwanegol i ardaloedd allweddol.

 

  • Mae 20% o’r boblogaeth yn defnyddio cyfleusterau hamdden. Mae cyfle aruthrol o fewn Sir Fynwy i ymgorffori ac uno gwasanaethau gyda’i gilydd gyda’r bwriad o gadw’n heini. Mae gweithio gyda phartneriaid allweddol yn hanfodol i ddarparu darpariaeth hamdden briodol ac annog pob dinesydd i gymryd rhan mewn ystod amrywiol weithgareddau mewn ffordd hwylus a pherthnasol er mwyn cynnal a gwella ffitrwydd.   

 

  • Mae busnesau wedi defnyddio Hilston Park ar gyfer digwyddiadau hyfforddiant corfforaethol, Mae angen i’r Awdurdod fwyafu’i asedau i ddatblygu ymhellach y math hwn o gyfle.

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd mewn perthynas â busnesau newydd yn Ne-ddwyrain Cymru, nodwyd yr edrychir ar astudiaeth benodol mewn perthynas â De-ddwyrain Sir Fynwy, yn enwedig yn nhermau ardaloedd sector twf arbenigol. Cynigir gwasanaethau priodol i gwmnïau sy’n edrych am adleoli i Sir Fynwy, a chefnogaeth un i un yn aml yw’r hyn sydd ei angen ar y cwmnïau hyn.  Bydd strategaeth mewnfuddsoddiad yr Awdurdod a chynnig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gymorth yn natblygiad y Sir. Mae gan yr Awdurdod wefan benodol i hyrwyddo datblygiad Sir Fynwy  www.monmouthshire.biz <http://www.monmouthshire.biz>. Parthed sgiliau, mae Swyddogion yn gweithio i ddylanwadu ar gyfleoedd. Cymerir datblygu menter ieuenctid ac entrepreneuriaeth ieuenctid o ddifrif. Fodd bynnag, ymgymerir â hyn o fewn capasiti a chyllideb i gymryd rhagddo ddatblygiad busnes y Sir.  Gallai’r Awdurdod gael effaith fwy ar ddatblygiad busnes â mwy o adnoddau yn eu lle.

 

  • Mae fframweithiau rhanbarthol a chenedlaethol yn bodoli lle cynhelir nifer o gyfarfodydd a digwyddiadau dal i fyny ar hyd y flwyddyn yn cynnwys cynrychiolwyr ar ran Llywodraeth Cymru a phartneriaid. Felly, mae strwythur dda iawn yn ei lle i gyflenwi’r wybodaeth ddiweddaraf. Yn fewnol, mae gan y Gyfarwyddiaeth gyfarfodydd ei Thîm Rheoli Adrannol, ynghyd â chael ei chynlluniau gwasanaeth. Mae’r Byrddau gwasanaeth cyhoeddus a’r partneriaethau’n cynhyrchu deilliannau a chanlyniadau da ac maent yn canolbwyntio ar feysydd allweddol. Sefydlwyd rhwydweithiau rhanbarthol parthed y Fargen Ddinesig a rhwydweithiau cefnogi busnes.  Mae Tîm y Rhaglen Datblygu Gwledig yn rhwydweithio gyda thimoedd eraill ar draws Cymru. Digwydd gweithio trawsffiniol ar brosiectau hefyd. Parthed microfusnesau, darperir gwasanaeth priodol un i un.  

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd mewn perthynas â blaenoriaethau’r Gyfarwyddiaeth, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

-       Seilwaith band eang a’r modd yr eir i’r afael â hyn.

-       Codi Proffil Mewnfuddsoddiad y Sir.

-       Mwyafu’r ffrydiau cyllido.

-       Prentisiaethau a Hyfforddiant.

-       Cyfeiriad strategol Ymgysylltu â’r Gymuned a’r Cynllun ar Raddfa Lle Cyfan.

 

  • Mae’r raddfa wirfoddoli yn Sir Fynwy ar 63%, sef yr uchaf yng Nghymru.

 

  • Mae gwaith i’w wneud ar y modd mae un yn mesur economi iach.

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd mewn perthynas â chyfleoedd a gollwyd o ganlyniad i gyfyngiadau’r gyllideb, nodwyd y byddai’r Gyfarwyddiaeth wedi hoffi bod mewn gwell sefyllfa i hyrwyddo Sir Fynwy gyda’r gostyngiad mewn tollau i Bont Hafren. Fodd bynnag, nawr yw’r amser i fynd rhagddo â’r gwaith.

 

  • Parthed pwerdy’r Great Western City, bu trafodaethau parhaus ers cryn amser ar lefel wleidyddol a gweithredol. Mae cyfleoedd da i Sir Fynwy weithio ar draws y ffiniau. 

 

  • Gwyddoniaeth Technoleg Peirianneg a Mathemateg (STEM) - Mae’r Gyfarwyddiaeth yn ymwybodol o’r cyfleoedd. Mae’n help fod gennym yr arweiniad parthed arloesedd busnes a rhwydweithiau digidol parthed Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn gweithio yn y rhwydweithiau hyn ond yw’r llwybrau ar gyfer myfyrwyr hyd yn hyn mor glir ag y gallent fod.

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd, nodwyd bod pêl-droed cerdded yn cael ei chwarae yng Nghil-y-coed sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Y nod yw hyrwyddo hyn ar draws y Sir.

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch TIC Cas-gwent, nodwyd bod gan y TIC gyllideb ar gyfer y flwyddyn hon i sicrhau y bydd yn parhau ar agor am y flwyddyn. Daeth peth arian grant i law ac mae datblygu cynnyrch wedi bod yn broses barhaus. Bydd yn rhaid wrth waith mewn partneriaeth a newid i’r model presennol i greu cynnyrch mwy cyson, cynaliadwy.

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd, nodwyd bod gan BT darged cwmpas o  95%ar gyfer darpariaeth band eang ar draws Rhaglen Cyflymu Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi newydd ymgymryd ag adolygiad marchnad agored i’w galluogi i ddarganfod lle mae’r eiddo sy’n anodd eu cyrraedd a disgwylir canlyniadau’r dadansoddiad hwn. Bydd y canlyniadau hyn wedyn yn sylfaen ar gyfer rhaglen dreigl Cyflymu Cymru 2 sy’n debygol o fod yn ffeibr i’r adeilad yn hytrach na ffeibr i’r blychau. Fodd bynnag, bydd yn debygol o gymryd yn hwy i dreiglo’r rhaglen hon ond fe fydd yn wasanaeth cyflym iawn.

 

  • Yn y cyfamser mae’r Gyfarwyddiaeth wedi bod yn edrych ar gynlluniau peilot arloesol. Llwyddiant cyfyngedig gafodd llinell welediad y peilot radio gan fod yn rhaid i’r signal gael pwynt uniongyrchol i gyfeirio gwelediad er mwyn derbyn cysylltiad. Mae cynllun peilot arloesol arall yn defnyddio gofod gwyn Teledu gan ddefnyddio signalau analog i gludo’r band eang. Mae’r canlyniadau cychwynnol yn gadarnhaol iawn, gan y bydd y signalau hyn yn mynd drwy wrthrychau solet gan ganiatáu gwell cysylltiad.

 

  • Yn y cyfamser, mae’r Awdurdod yn lobïo Llywodraeth Cymru I fynd i’r afael â’r diffyg mewn darpariaeth band eang a’r angen am dreiglo Cyflymu Cymru 2 i gychwyn cyn gynted â phosib o fewn y Sir. 

 

  • Cynhelir cyfarfod diweddariad yn cynnwys Aelodau’r Cabinet a Swyddogion gyda BT a Llywodraeth Cymru yn gynnar yng Ngorffennaf 2017. Cyflwynir adroddiad diweddariad ar gynnydd  i’r Pwyllgor Dethol.

 

  • Gwnaed cais i BT am fap yn darparu dosbarthiad band eang ar draws y Sir.

 

  • Cyflwynir adroddiad parthed y ffigurau STEAM i’r Pwyllgor Dethol i’w archwilio ym Medi / Hydref 2017.

 

  • Parthed cymorth i fusnesau ac ardrethi busnes, cyn belled ag y mae a wnelo’r Fargen Ddinesig, edrychir ar strategaeth ranbartholedig ar gyfer cyflenwi cymorth i fusnesau ond gyda swyddogaeth gyflenwi leoledig. Un agwedd yn unig yw’r Fargen Ddinesig. Mae rhwydweithiau’r Awdurdod yn eang, yn gweithio gyda chwmnïau arloesol, ynghyd â nifer o gwmnïau eraill. Hyrwyddir y Sir yn ogystal drwy gyfrwng cyfryngau cymdeithasol.

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch sgiliau, yr hyn oedd Coleg Gwent a’r Prifysgolion yn ei wneud oedd cwrdd ag anghenion cyflogaeth y dyfodol, Nodwyd bod angen bod yn ymwybodol o Adolygiad Donaldson a gweithredu hwn ar ysgolion Sir Fynwy. Hefyd, mae partneriaeth dysgu sgiliau rhanbarthol a chyflawnwyd ymchwil gyda cholegau a phrifysgolion ynghylch beth yw angen y dyfodol..Mae angen i’r Awdurdod gadarnhau fel y bydd hyn yn effeithio ar Sir Fynwy ar lefel leol.

 

  • Hysbysodd y Rheolwr Craffu’r Pwyllgor fod e-bost wedi’i anfon allan i’r holl Aelodau  ynghylch y Cynllun Rheoli Cyrchfannau Twristiaid yn eu hatgoffa fod dal cyfle i gyfrannu at hyn. Dygir y cynllun drafft i gyfarfod y Pwyllgor Dethol ar 19eg Hydref 2017.  Bydd cyfarfod Gorffennaf yn derbyn adroddiad i’w archwilio mewn perthynas â darpariaeth TGCh mewn ysgolion a STEM.

 

  • Mewn perthynas â Chynllun Datblygu Lleol y Cyngor (CDLl)  a’r cynnydd araf i ddwyn ymlaen y safleoedd tai strategol a neilltuwyd yn y CDLl (sy’n golygu nad oes gan y Cyngor gyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai). Mae’r cynllun i gael ei adolygu a rhagwelwyd y bydd peth o’r diffyg hwn yn cael ei ddatrys dan yr adolygiad. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd yr Adran Gynllunio’n derbyn ceisiadau cynllunio ar safleoedd na neilltuwyd, nad ydynt yn y CDLl, y bydd yn rhaid eu penderfynu ar eu haeddiant yn aros am adolygiad y CDLl.   

 

 

 

Casgliad y Pwyllgor

 

  • Bod rhestr o destunau a dafodwyd yng nghyfarfod heddiw yn cael eu cynhyrchu gyda’r bwriad o drafod sut i fynd rhagddo â datblygu blaenraglen waith. 

 

  • Craffu adroddiad yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol yng Ngorffennaf 2017 ynghylch darpariaeth TGCh mewn ysgolion a STEM.

 

  • Cynhelir cyfarfod diweddariad yn cynnwys Aelodau’r Cabinet a Swyddogion gyda BT a Llywodraeth Cymru yn gynnar yng Ngorffennaf 2017. Cyflwynir adroddiad diweddariad ar gynnydd  i’r Pwyllgor Dethol mewn cyfarfod yn y dyfodol. .