Agenda item

Penderfyniad Treth Gyngor 2017/18 a Chyllidebau Refeniw a Chyfalaf 2017/18

Cofnodion:

Cyflwynwyd Penderfyniad Treth Gyngor 2017/18 a Chyllidebau Cyfalaf Refeniw a Chyfalaf 2017/18 i'r Cyngor. Caiff y Cyngor ei rwymo gan Statud i amserlenni penodol ar gyfer gosod y Dreth Gyngor ac mae hefyd angen iddo wneud rhai penderfyniadau diffiniedig. Cynlluniwyd yr argymhellion sy'n ffurfio rhan fwyaf yr adroddiad hwn i gydymffurfio gyda'r Darpariaethau Statudol hynny.

 

Mae'r penderfyniadau a argymhellir hefyd yn dod ynghyd â goblygiadau Treth Gyngor y praeseptiau a hysbyswyd gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Chynghorau Tref a Chymuned, gan felly alluogi'r Cyngor Sir i sefydlu ei brif lefelau Treth Gyngor ar y gwahanol fandiau eiddo o fewn ardal pob Tref neu Gymuned.

 

Esboniodd Aelod Cabinet Adnoddau, er bod y setliad yn well nag a ragwelwyd, y bu'n broses anodd cyflwyno cyllideb gytbwys. Diolchodd i bob swyddog a gymerodd ran yn y broses am eu gwaith caled yn ystod y trafodaethau.

 

Hysbysodd yr Aelod Cabinet am argymhelliad diwygiedig fel sy'n dilyn:

 

2.1       Argymhellir cymeradwyo'r amcangyfrifon refeniw a chyfalaf am y flwyddyn 2017/18 fel y'u hatodir yn Atodiad 1 a 2 gyda'r addasiadau dilynol:

 

i.          Peidio codi ffioedd ar gyfer casgliadau gwastraff Masnach a bod y gwasanaeth yn lle hynny yn anelu i gynyddu'r sylfaen cwsmeriaid i sicrhau'r targed incwm o £10k.

ii.          Ychwanegu £300k ychwanegol at gyllideb cyfalaf Grant Cyfleusterau i'r Anabl a bod costau dilynol benthyca yn cael eu cyllido o’r gofod yng nghyllideb refeniw'r Trysorlys.

iii.         Bod y cyllidebau cyfalaf ar gyfer meysydd parcio yn cael eu hychwanegu at y  gyllideb cyfalaf gyffredinol fel yr amlinellwyd yng Nghyfeirnod 9c ar yr agenda Cyngor hwn.

 

Nodwyd y pwyntiau dilynol yn ystod trafodaeth:

 

Dywedodd Arweinydd yr wrthblaid y dylid diolch i Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol, er gwaethaf toriadau gan Lywodraeth San Steffan, yn dilyn ychydig o flynyddoedd caled i lywodraeth leol. Roedd yn falch nodi fod yr amcanestyniadau poblogaeth wedi newid, gan olygu cynnydd bach mewn cyllid ar gyfer Sir Fynwy.

 

Mynegwyd pryderon am gyllidebau ysgol, gan fod cyllidebau'n cael eu torri gan tua £700k. Ychwanegwyd fod ysgolion eu hunain, drwy'r fforwm ysgolion, wedi codi pryderon, gan gydnabod mai staff oedd y sylfaen cost mwyaf. Gofynnwyd cwestiwn hefyd am y cynnydd yng nghost prydau ysgol.

 

Roedd pryderon hir-sefydlog am briffyrdd, gwasanaethau bws a goleuadau stryd ym mater unigrwydd ac arwahanrwydd o fewn y Sir. Mae'r Gr?p Llafur yn ystyried y dylai mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd fod am wasanaethau eraill y Cyngor ac nid dim ond am ofal cymdeithasol.

 

Gofynnwyd am esboniad am doriad o £200k yng nghyllid Ysgol Cas-gwent.

 

Esboniodd Aelod Cabinet dros Addysg yr aiff 36% o'r gyllideb, dros £50m, i ysgolion ac fel canlyniad mae safonau wedi codi. Rydym wedi parhau i gyllido ein hysgolion yn uwch na chyfartaledd Cymru, gan fod yr ail gyllidwr uchaf, gyda chyllid fesul disgybl £300 yn fwy nag awdurdod cyfagos. Yng nghyswllt Ysgol Cas-gwent, nodwyd y gwnaed gwaith gwych yn codi niferoedd, ond bod hyn wedi gostwng yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, felly mae cyllid wedi gostwng gan y caiff ysgolion eu cyllido fesul disgybl.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod ymrwymiad llwyr yn parhau i osod pwll newydd, gyda gwell cyfleusterau hamdden, yn Nhrefynwy. Bu buddsoddiad o £2m mewn priffyrdd, cynnydd sylweddol mewn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, ac ymrwymiad i'r Fargen Ddinesig. Fe'i cymerwyd fel canmoliaeth na fu unrhyw opsiynau eraill ar gyfer y gyllideb gan yr wrthblaid. Mae cyllid ysgolion yn bryder ond cafodd ei gynnal a rhoddwyd blaenoriaeth iddo oherwydd toriadau enfawr mewn meysydd eraill.

 

Nododd Aelod Annibynnol fod y rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif yn parhau ar gyllideb oherwydd bod y Cyngor wedi cymeradwyo £11m ychwanegol o fenthyca. Mae angen £6.8m ychwanegol ar gyfer pwll Trefynwy, gan godi pryder am ddiffyg rheolaeth ariannol.

 

Dywedodd Aelod Annibynnol fod Llywodraeth Cymru a hefyd Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gostwng cyllidebau mewn modd systematig, ar draul ein plant. Holodd am y cyfanswm incwm oedd angen ei gynhyrchu i gael cyllideb gytbwys, gan sôn am anesmwythyd rhoi arian trethdalwyr mewn risg er mwyn ceisio creu incwm. Mynegwyd siom fod neuaddau pentref yn gorfod codi cyllid i geisio talu treth o 20%, yn neilltuol o ystyried bod gwirfoddolwyr yn darparu gwasanaethau na all yr Awdurdod eu darparu.

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau y gyllideb a nodi'r gefnogaeth ar gyfer pobl agored i niwed.

 

Cyfeiriodd Aelod at ei ward a chanmolodd weithredoedd swyddogion y Cyngor, gan nodi fod Cyngor Sir Fynwy yn gyngor sy'n gwrando, yn gweithredu mewn cyfyngiadau ariannol difrifol. Ychwanegol ein bod yn llwyddo i gynnal gwasanaethau yn hytrach na'u cau. Ystyrid ei bod yn gyllideb gytbwys ac fe'i cymeradwyodd i'r Cyngor.

 

Holodd Aelod pa mor dda yr oedd y Cabinet yn craffu'r papurau cyllideb a pha mor dda maent yn deall yr effaith ar gymunedau.

 

Yng nghyswllt sylwadau am bwll nofio Trefynwy, esboniodd yr Aelod Cabinet dros Fenter nad oedd Cyngor Sir Fynwy wedi benthyca £11m fel yr awgrymwyd, gan fod Llywodraeth Cymru wedi darparu hanner y cyllid hwnnw. Roedd yn falch i nodi fod y Cynghorydd Hayward yn cydnabod y byddai'r pwll nofio yn cael ei adeiladu.

 

Dywedwyd y dylai Cyngor Sir Fynwy gael system lle mae'r holl Aelodau'n cymryd rhan ddigonol yn y broses cyllideb ac y gallant wneud cyfraniadau ystyrlon, cynnar.

 

Daeth y Cadeirydd â'r drafodaeth i ben ac mewn pleidlais penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhellion:

 

           Cymeradwyo'r amcangyfrifon refeniw a chyfalaf ar gyfer y flwyddyn 2017/18 fel y'u cyflwynir yn Atodiad 1 a 2 gyda'r addasiadau dilynol:

 

i.   Peidio cynyddu'r ffioedd am gasgliadau gwastraff Masnach a bod y gwasanaeth yn lle hynny yn ceisio cynyddu'r sylfaen cwsmeriaid i gyflawni'r targed incwm o £10k.

ii.  Ychwanegu £300k ychwanegol at gyllideb cyfalaf Grant Cyfleusterau i'r Anabl, a bod costau dilynol benthyca yn cael eu cyllido o'r gofod yng nghyllideb refeniw y Trysorlys.

iii. Ychwanegu'r cyllidebau cyfalaf ar gyfer meysydd parcio i'r gyllideb gyfalaf gyffredinol fel y'i hamlinellir yn eitem 9c ar agenda'r Cyngor hwn.

 

           Nodi bod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 15 Chwefror 2017, wedi cyfrif y symiau a nodir isod ar gyfer y flwyddyn 2017/18 yn unol ag adrannau 32 a 33 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("y Ddeddf").

Er gwybodaeth, cafodd adrannau 32 a 33 Deddf 1992 eu diwygio'n helaeth gan Atodlen 12 Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994. Caiff y ddwy eu diwygio ymhellach gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygio Cyfrifiadau Gofynnol) (Cymru) 2002 ("rheoliadau 2002") a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygio Cyfrifiadau Gofynnol) (Cymru) 2013. Caiff Adran 33 ei diwygio ymhellach gan Orchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cyfrifiad Swm Sylfaenol Treth Gyngor) (Cymru) 1996. Rhoddwyd ystyriaeth i'r holl ddiwygiadau deddfwriaethol a statudol wrth gyfrif y symiau dilynol:

 

(a) 45,537.71 yw'r swm a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 33 y Ddeddf a'r Rheoliadau (fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau 1999 rhif 2935), fel ei sylfaen Treth Gyngor am y flwyddyn;

(b) Rhan o Ardal y Cyngor, sef y symiau a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34 y Ddeddf, fel symiau ei sylfaen Treth Gyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'r ardal y mae un neu fwy o eitemau arbennig yn cyfeirio atynt: 

 

 

 

Bod y symiau dilynol yn awr yn cael eu cyfrifo gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2017/18 yn unol ag Adrannau 32 i 36 y ddeddf ac adrannau 47 a 49 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (fel y'i diwygiwyd):

 

(a) £148,152,649 sef swm cronnus amcangyfrifon y Cyngor am yr eitemau a nodir yn Adran 32(2) (a) i (d) y Ddeddf llai swm cronnus amcangyfrifon y Cyngor am yr eitemau a nodir yn Adran 32 (3) (a) a (c) y Ddeddf a gafodd eu cyfrifo gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) y Ddeddf, fel ei gofyniad cyllideb ar gyfer y flwyddyn.

(b) £91,798,934 sef swm cronnus y mae'r Cyngor yn amcangyfrif fydd yn daladwy am y flwyddyn i'w chronfa Cyngor yng nghyswllt trethi annomestig a ail-ddosberthir a grant cymorth refeniw yn unol ag Adran 33 (3)

(c) £6,000 sef y gost i'r awdurdod o gymorth treth annomestig ar ddisgresiwn y rhagwelir y caiff ei ddyfarnu (dan adrannau 47 a  49 Deddf Cyllid Llywodraeth 1988, fel y'i diwygiwyd).

(d) £1,237.65 sef y swm yn 2.3(a) a 2.3(c) uchod llai swm 2.3b (uchod, oll wedi eu rhannu gan y swm yn 2.2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 33(1) y Ddeddf, fel swm sylfaenol ei Dreth Gyngor am y flwyddyn

(e) £2,479,952 sef swm cronnus yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34 y Ddeddf (Praeseptiau Tref a Chymuned)

(f) £1,183.19 sef y swm yn 2.3(d) uchod llai'r canlyniad a roddwyd gan rannu'r swm yn 2.3(e) uchod gan y swm yn 2.2(a) uchod a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, fel symiau sylfaenol ei Dreth Gyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'r ardal lle nad oes eitemau arbennig.

(g) Rhan o ardal y Cyngor, sef symiau'r eitem neu eitemau arbennig yn ymwneud ag anheddau yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor a nodir uchod wedi'u rhannu ym mhob achos gan y symiau yn 2.2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(3) y Ddeddf, fel symiau sylfaenol ei Dreth Gyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'r ardal lle mae un neu fwy o eitemau arbennig yn berthnasol:

 

                                               

                                               

                                               

                                               

                                               

                                               

                                               

(h) Mae'r Ardal Cyngor Sir, sef y symiau a geir drwy luosi'r swm yn 2.3(f) uchod gan y swm sydd, yn y gyfran a nodir yn Adran 5(1) y Ddeddf, yn weithredol i'r anheddau a restrir mewn band prisiant neilltuol a rennir gan y nifer sydd yn y gyfran honno yn berthnasol i anheddau a restrir ym Mand D prisiant a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, fel y symiau y rhoddir ystyriaeth iddynt am y flwyddyn yng nghyswllt categorïau anheddau a restrir mewn gwahanol fandiau prisiant.

 

 

 

 

(i) Rhan o Ardal y Cyngor, sef y symiau a roddir drwy luosi'r symiau yn 2.3(g) a 2.3(h) uchod gan y nifer sydd, yn y gyfran a nodir yn Adran 5(1) y Ddeddf yn weithredol i anheddau a restrir yn y band prisiant neilltuol a rannwyd gan y rhif sydd yn y gyfran honno yn berthnasol i anheddau a restrir ym Mand Prisiant D a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, fel y symiau y rhoddir ystyriaeth iddynt ar gyfer y flwyddyn yng nghyswllt categorïau'r anheddau a restrir mewn gwahanol fandiau prisiant:-

 

 

 

           Nodi ar gyfer blwyddyn 2017/18 bod Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi hysbysu'r symiau dilynol mewn praeseptiau a gyhoeddwyd i'r Cyngor, yn unol ag Adran 40 y Ddeddf, ar gyfer pob un o'r anheddau a restrir uchod:-

 

 

 

           Ar ôl cyfrif y cronnus ym mhob achos o'r symiau yn 2.3(i) a 2.4 uchod, mae'r Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) y Ddeddf, drwy hyn yn gosod y symiau dilynol fel y symiau o Dreth Gyngor am y flwyddyn 2017/18 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau a ddangosir islaw:-

 

 

 

           Awdurdodi Mrs J. Robson, Mr M. Howcroft, Miss R. Donovan, Mrs. S. Deacy, Mrs. W. Woods a Mrs. S. Knight dan Adran 223 Deddf Llywodraeth Leol 1972 i erlyn ac ymddangos ar ran Cyngor Sir Fynwy mewn trafodion gerbron y Llys Ynadon ar gyfer diben gwneud cais am Orchmynion Rhwymedigaeth yng nghyswllt Treth Gyngor a Threthi Annomestig.

 

Dogfennau ategol: