Agenda item

Adolygiad Ailgylchu - Cynigion Terfynol ar gyfer Casgliadau 2018-2025

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor yn amlinellu'r cynigion terfynol ar gyfer casgliadau ailgylchu er mwyn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer cyflwyno gwasanaeth ailgylchu ochr palmant rhwng 2018-2025.

 

Nodwyd y dilynol yn ystod y drafodeth:

 

Holodd Aelod am gasgliad wythnosol o fagiau brown, gan awgrymu fod casgliadau bob bythefnos yn ystod misoedd y gaeaf yn addas. Mewn ymateb, dywedwyd nad oedd unrhyw gynnig i newid ond y gellid ystyried hyn fel argymhelliad gan y Cyngor.

 

Cyfeiriodd Aelod at sicrhau fod y gwasanaeth yn gadarn ar gyfer y dyfodol, o ran bod y ddeddfwriaeth oedd yn sail iddo yn deillio o'r Undeb Ewropeaidd, a holodd yr effeithiau yn dilyn Brexit. Hysbyswyd y Cyngor fod deddfwriaeth Ewropeaidd yn nodi isafswm y mae'n rhaid i aelod wladwriaethau ei fabwysiadu. Mae sefyllfa Llywodraeth Cymru yn uwch na rheoliadau Ewrop a'r adborth gan swyddogion a'r gweinidog yw eu bod yn bwriadu cario ymlaen gyda'r agenda presennol ac na fydd Brexit yn effeithio arnynt.

 

Mewn ymateb i bryderon y byddai casgliadau bob bythefnos yn arwain at wastraff ailgylchu yn cael eu rhoi mewn bagiau du, esboniodd swyddogion y darperir blychau ailgylchu ychwanegol os gwneir cais.

 

Ategwyd y dylid darparu gwasanaeth yn yr orsaf drosglwyddo sbwriel ar gyfer bagiau gwastraff coch a phorffor. Clywodd y Cyngor y cafodd y gwasanaeth ei ddileu gan fod y gwasanaeth yn cael ei gam-drin mewn modd mawr, a bod dadansoddiad wedi dangos fod 70 % i 80% o'r bagiau yn llawn o wastraff bag du. Bu rhai achosion lle bu preswylwyr yn sarhaus ac yn gorfforol fygythiol i staff yn Viridor. Pe cynhelid y prawf eto, byddai hynny ar sail y gallai gael ei ddileu.

 

Cyfeiriodd Aelod at gasglu bagiau "teigr" melyn a holodd os gellid addasu'r broses. Esboniwyd fod y gwasanaeth wedi symud i gasgliad bob bythefnos gan arbed £100,000, ac nad oedd unrhyw gynlluniau i newid ar hyn o bryd. Cadarnhaodd cyngor a dderbyniwyd gan yr HSE ei bod yn hollol ddiogel parhau gyda chasgliad bob bythefnos. Anghytunai'r Cynghorydd Easson fod hyn yn dderbyniol o safbwynt glanweithdra, yn neilltuol lle mae nifer o bobl yn byw gyda'i gilydd, a gofynnodd a allai swyddogion edrych ar achosion unigol lle gellid datrys sefyllfaoedd problem fel mater o frys. Cadarnhawyd hyn.

 

Mewn ymateb i bryderon am y cynnydd posibl mewn tipio anghyfreithlon, rhoddodd y Pennaeth Gwastraff a Gwasanaethau Stryd y Cyngor sicrwydd fod criwiau ar gael i gasglu tipio anghyfreithlon lle gwneir adroddiad am hynny ac na ddisgwylir cynnydd.

 

Holodd Aelod os oeddem ar ôl awdurdodau eraill yn nhermau mabwysiadu'r newidiadau hyn. Esboniodd y Pennaeth Gwastraff a Gwasanaethau Stryd nad oeddem yn mabwysiadu'r system safonol ar gyfer didoli ar y palmant, a'n bod wedi mynd am amrywiad a ystyriwyd gan Lywodraeth Cymru yn dir canol boddhaol.

 

Cydnabu Aelod y bu'r adroddiad drwy'r broses gaffael ac roedd yn falch i glywed fod y gwariant ar fagiau llwyd wedi ei atal dros dro ac yn cael ei adolygu.

 

Roedd pryderon am y broses ymgynghori a chlywodd y Cyngor y cafodd 6500 o breswylwyr eu treialu fel canlyniad i'r newid ac y casglwyd data ansoddol a meintiol. Cafodd sampl o 1000 holiadur 410 ymateb, cyfradd ymateb o 40%.

 

Gofynnodd Aelod am sicrwydd na fyddai preswylwyr yn byw mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd dan anfantais fel canlyniad i'r newid. Rhoddwyd sicrwydd i aelodau bod swyddogion yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl, lle disgwylid i breswylwyr adeiladau lan lôn hir neu ffordd breifat fynd â gwastraff i fan casglu, fel gyda'r statws cyfredol. Yn ystod y cyfnod treialu, darparwyd biniau mewn ardaloedd cymunol o fflatiau a fu'n llwyddiannus. 

 

Mewn pleidlais, penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhellion yn yr adroddiad:

 

Mae'r Cyngor yn cymeradwyo:

           Cadw egwyddorion gwasanaeth ailgylchu presennol (casglu bagiau coch a phorffor) yn wythnosol.

           Casglu gwydr bob bythefnos mewn cynhwysydd ar wahân (blwch gwyrdd).

i.  Lle mae preswylwyr yn codi pryder am y gallu i gludo bocs, bydd y gwasanaeth yn cynnig cadi gwyrdd (tebyg i'r cadi bwyd gwastraff tu allan) a gellir rhoi cymorth pellach os oes angen.

           Caiff bwyd a gwastraff gwyrdd eu casglu ar wahân fel y cymeradwywyd yn flaenorol.

           Cyflwyno newidiadau rhwng Ebrill - Gorffennaf 2018.

           Bod arbedion refeniw o'r newid gwasanaeth yn talu am gost benthyca darbodus i ganiatáu gwariant cyfalaf e.e. newidiadau i'r gorsafoedd trosglwyddo, prynu blychau ac ati yn amodol ar adroddiad pellach i'r cyngor llawn am y buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen.

           Y dyluniad gwasanaeth cyffredinol fel y gall y broses caffael ar gyfer y fflyd newydd a dyluniad ac adeiladu'r gorsafoedd trosglwyddo ddechrau.

           Dirprwyo cymeradwyaeth am wneud penderfyniadau i Bennaeth Gwastraff a Gwasanaethau Ailgylchu mewn ymgynghoriad gyda'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Swyddog A151 ar unrhyw fanylion technegol, yn amodol ar i'r newidiadau barhau o fewn amlen cyllido presennol y gwasanaeth.

           Bod y Pwyllgor Dethol a'r Cyngor yn derbyn adroddiad ar weithredu'r newidiadau gwasanaeth ar ôl Gorffennaf 2018 yn meintioli'r buddion a chostau llawn, ac yn modelu cost y gwasanaeth am ei gyfnod oes arfaethedig o 7 mlynedd.

           Adolygu bagiau llwyd ar gyfer casglu gwastraff gweddilliol gyda golwg ar benderfynu os byddai'n fanteisiol buddsoddi mewn mwy o addysg ac ymwybyddiaeth am wastraff yn hytrach na seilwaith i gynyddu ailgylchu ac adrodd i'r Cabinet drwy'r Pwyllgor Dethol yn Hydref 2017.

 

Dogfennau ategol: