Agenda item

Cynllun Busnes Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS) 2017-2020 (Drafft ymgynghori).

Cofnodion:

Cyd-destun

 

 

DerbyniasomGynllun Busnes y GCA De-ddwyrain Cymru 2017-2020. Mae’r cynllun yn gosod y blaenoriaethau, y rhaglenni a’r deilliannau i’w cyflawni gan y Gwasanaeth Cyflawniad Addysg ar ran Consortiwm De-ddwyrain Cymru. Mae’r ystyriaeth hon gan bartneriaid allweddol yn rhan o wead y cynllun.

 

MaterionAllweddol:

 

Mae’nofynnol i Gonsortiwm De-ddwyrain Cymru gyflwyno i Lywodraeth Cymru gynllun busnes tair blynedd a gaiff ei ddiweddaru’n flynyddol. Dyma’r pedwerydd iteriad o’r cynllun a gyflwynwyd yn gyntaf yn 2013. Mae’r cynllun hwn yn cwmpasu cyfnod 2017-2020.

Mae Cynllun Busnes y GCA De-ddwyrain Cymru yn amlinellu pedair blaenoriaeth. Gwella cyrhaeddiad yn gyffredinol ond culhau’r bwlch rhwng y disgyblion sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim (PYDd) a’r rheiny nad ydynt yn gymwys; codi cyrhaeddiad mewn Saesneg, Cymraeg a Mathemateg. Mae’r rhain yn flaenoriaethau craidd ar gyfer y gwasanaeth ac mae’r holl weithgareddau a’r rhaglenni eraill nawr yn cefnogi cyrhaeddiad y deilliannau hyn.

Mae’rGwasanaeth Cyflawniad Addysg (GCA) ar gyfer De-ddwyrain Cymru wedi paratoi’r Cynllun Busnes hwn ar gyfer 2017-2020 i amlinellu’r rhaglen waith sy’n ofynnol i gyflawni deilliannau gwell i blant a phobl ifanc. Mae’r fersiwn hon yn adeiladu ar y Cynllun Busnes cyfredol ar gyfer y gwasanaeth (2016-2019) ond mae’n ystyried fframwaith polisi newydd Llywodraeth Cymru (LlC), yn arbennig:

  • Y system Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion
  • Cymwys am Oes 2’ - y Strategaeth Genedlaethol er mwyn Gwella Addysg.

 

  • Dyfodol Llwyddiannus’ – adolygu cwricwlwm ac asesiad.
  • Addysgu Athrawon Yfory’ - yr adolygiad o Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon.

Mae’rrhaglenni gwaith wedi’u targedu’n glos at gyflawni gwelliant lle mae;r anghenion fwyaf. Nod y GwasanaethCyflawniad Addysg (GCA) mewn partneriaeth gyda’r Awdurdodau Lleol yw:

  • Gwella arweinyddiaeth, addysgu a dysgu i sicrhau gwelliant cynaliadwy mewn deilliannau i ddysgwyr (mewn llythrennedd  / Cymraeg  / Saesneg a rhifedd / mathemateg) o leiaf yn unol neu’n uwch na’r raddfa gynnydd yng Nghymru.
  • Gwella graddfa’r gwelliant ar gyfer grwpiau o ddysgwyr ar draws y rhanbarth, yn enwedig y disgyblion sy’n cael Prydau Ysgol am Ddim a’r dysgwyr mwy galluog yng Nghyfnod 4.
  • Gwellacapasiti rhanbarthol i weithredu system sy’n gwella’i hun.

 

Mae ymgynghoriad cynhwysfawr gyda’r holl randdeiliaid a fydd yn arwain at gyhoeddi fersiwn derfynol y Cynllun Busnes o fewn y graddfeydd amser a gytunwyd yng Nghylch Cynllunio Busnes y GCA. Rhannwyd y fersiwn ddrafft derfynol gyda Chyfarwyddwr Addysg pob awdurdod lleol ac mae’n ystyried y camau gweithredu a’r cyflawniadau y gwnaed cais amdanynt. 

 

Mae crynodeb cynhwysfawr o’r prif gamau gweithredu o fewn y Cynllun Busnes ac adran ar Fesurau Atebolrwydd. Yn ychwanegol, mae cynlluniau cyflenwi manwl ac adolygiadau manwl o gynnydd ar gyfer y Cynllun Busnes blaenorol.

 

Mae’rCynllun Busnes yn amlinellu’r blaenoriaethau cyffredinol ar gyfer rhanbarth y De-ddwyrain ac yn ychwanegol atodiad sy’n canolbwyntio’n benodol ar y blaenoriaethau a’r rhaglenni ar gyfer pob awdurdod lleol yn y Consortiwm, mae’r rhain wedi cael eu trafod gyda Chyfarwyddwyr ac Aelodau Cabinet cyn eu cyflwyno. Bydd y dogfennau hyn hefyd yn ffurfio rhan o’r broses ymgynghori.

 

CraffuAelodau:

 

  • Cysylltir y Strategaeth Ranbarthol Mwy Abl â’r Strategaeth 14-19 a’r nod yw cael ysgolion cynradd i gymryd rhan. Caiff ysgolion cynradd eu herio wrth baratoi. 

 

  • Mae’r GCA wedi ail-alinio strwythur ei dimoedd yn fewnol i adlewyrchu model y cwricwlwm newydd. Gyda phob adolygiad o’r Cynllun Busnes bydd y GCA yn edrych ar ei ail-alinio’n fwy clos gyda’r cwricwlwm newydd unwaith y daw ar lein. 

 

  • Mae pob clwstwr o ysgolion yn y broses o lunio cynllun i weithio gyda £20,000 o fewn eu clwstwr i wario’r arian hwnnw ar feysydd y maent wedi’u dynodi o’u data. Bydd y GCA yn adolygu hyn a’i ddwyn rhagddo gyda’r bwriad o’i ddatblygu ymhellach.

 

  • Argyfer rhai o ardaloedd clwstwr Sir Fynwy, mae’r Awdurdod yn edrych ar ddatblygu datrysiad o gwmpas rheolwyr busnes sy’n gweithio ar draws clystyrau gan ddwyn i mewn lefelau ychwanegol o gefnogaeth ac arbenigedd ond hefyd yn edrych ar ddatblygu darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn seiliedig ar glystyrau.   Hefyd, edrychir ar ddarparu trefniant clwstwr gogledd / de.

 

  • Mae llesiant y plant yn allweddol a chaiff ei ddiogelu. Mae rhan o’r Cynllun Busnes yn cyfeirio at lesiant mewn addysg. Fodd bynnag, mae’n anodd mesur llesiant plenty. Gwireddir hyn orau drwy wrando a siarad â disgyblion unigol a gwirio eu bod yn teimlo’n ddiogel a bod gofal drostynt. 

 

  • Mae cael y teulu i gyfranogi yn addysg a magwraeth y plentyn yn allweddol. Mae nifer o ysgolion Sir Fynwy eisoes yn gwneud hyn.  

 

  • Cedwiryr holl ddata sy’n cyfeirio at ddisgyblion unigol. Fodd bynnag, mae’n fwy anodd cadw cyfrif ar lesiant holistaidd disgyblion. Mae’r gwasanaeth ieuenctid yn ymgymryd ag arolygon i ddeall pa mor ddiogel mae plant yn teimlo. Gosodwyd ymyriadau yn eu lle o fewn ysgolion i wneud disgyblion yn ymwybodol o beryglon E-fwlian drwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r Awdurdod yn gweithio gyda’r GIG i ddeall y lefelau o angen parthed iechyd meddwl plant. Felly, mae’r Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc ac ysgolion yn darparu mwy na charfan o ganlyniadau arholiad yn unig. 

 

  • Mae’rPrif Ymgynghorydd Heriau yn cydnabod y gwahanol anghenion y mae’u hangen ar ysgolion Sir Fynwy.  Mae gan y GCA berthynas waith glos gyda’r Cyngor Sir a’i Swyddogion.

 

  • Mewnymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor Dethol ynghylch y bygythiadau posib i’r Cynllun Busnes, nodwyd bod dau fater, sef, natur y cwricwlwm a’r newidiadau i ddod ac ansefydlogrwydd a natur anwadal y cyllid grant.  

 

 

 

 

Crynhodd y Cadeirydd fel a ganlyn:

 

  • Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Ymgynghorydd Heriau am gyflwyno Cynllun Busnes y GCA..

 

  • Mae’ngynllun busnes clir a chynhwysfawr a gaiff ei fonitro’n flynyddol gan y Pwyllgor Dethol.

 

 

 

Dogfennau ategol: