Cofnodion:
Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr a gyflwynwyd, i’w gymeradwyo yn amodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad hwn.
Mynychodd y Cynghorydd J. Gooding, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Trellech, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:
Amlinelloddyr ymgeisydd, Mrs. S. Peacock, a oedd yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol:
· Roeddyr eiddo wedi’i brynu wedi i ganiatâd cynllunio gael ei roddi.
· Wedibuddsoddiad ariannol arwyddocaol sefydlwyd busnes gosod gwyliau sylweddol.
· Roeddpwyllgor Pensaernïaeth yr Eisteddfod Genedlaethol wedi gosod yr adeilad ar restr fer y fedal aur Bensaernïol.
· Roedd y Pennaeth Cynllunio wedi mynegi nad hon yw’r adeg i adolygu nac ailystyried caniatáu cynllunio. Nid dyma’r adeg ychwaith i ystyried y cwynion ynghylch y modd y mae strwythur yr adeilad yn cael ei gadw.
· Y cyplau gwreiddiol yw’r cyplau gwyrdd a osodwyd nôl i mewn i’r adeilad.
· Nidyw’r cais yn gyfrwng cynsail andwyol.
· Dyma’radeg i reoleiddio’r caniatâd cynllunio.
· Nidyw’r cais yn wahanol iawn i’r cais a gymeradwywyd. Nid yw’r newidiadau mewn dimensiwn yn fawr.
· Rhoddwydcaniatâd cynllunio ar sail y ffaith y byddai’r adeilad angen ei ailadeiladu sylweddol.
· Cafoddrheoliadau adeiladu effaith ar y dimensiynau terfynol.
· Nidyw’r newid yn y ffenestri’n newid natur y datblygiad.
· Roeddyr ymgeisydd eisiau i’r cynllun mewnol fod yn addas ar gyfer llety i’w rentu adeg gwyliau.
· At ei gilydd nid yw’r gyfradd o wydr i gedrwydd ar y wedd flaen wedi newid yn sylweddol.
· Nidoedd cyfrinachedd ynghylch yr adeilad. Roedd y newidiadau’n amlwg ar y lluniadau a gyflwynwyd i Adran Rheoli Adeiladu’r Cyngor cyn i’r gwaith gychwyn.
· Byddai’nanodd nodi’r gwahaniaeth yn y dimensiynau a’r ffenestri o’u cymharu â’rlluniadau gwreiddiol.
· Mae ymddangosiad yr adeiladau yn y dirwedd yn parhau’n ddigyfnewid.
· Mae’nadeilad prydferth a llwyddiannus.
· Dylai’rperygl o gael ei ddymchwel gael ei ddileu heddiw.
· Roeddyr ymgeisydd wedi gofyn i’r swyddogion cynllunio ystyried argymhelliad y swyddogion cynllunio.
Dywedoddyr Aelod lleol dros Trellech, a oedd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, fod Cyngor Cymuned Trellech yn iawn i godi’r mater a nodwyd yn yr adroddiad ac annerch y Pwyllgor Cynllunio. Fodd bynnag ystyriai y dylai’r Pwyllgor gymryd agwedd bragamatig wrth benderfynu’r cais gan fod y newidiadau a wnaed i’r adeilad yn rhai mân, ac nid ydynt yn niweidiol i’r ardal o amgylch. Bydd yr amodau a roddwyd yn adroddiad y cais yn sicrhau bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer twristiaeth. Mae’r eiddo’n ychwanegu at yr economi leol drwy ddwyn twristiaeth i’r ardal. Dylid, felly, gymeradwyo’r cais.
Mewnymateb i gais gan Aelod pwyllgor, nodwyd y gallai amod 3 gael ei ddiwygio fel a ganlyn:
Wediystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, ystyriai’r Aelodau nad oedd yr adeilad yn wahanol iawn i’r cais gwreiddiol a’i fod yn gaffaeliad i’r economi.
Crynhoddyr Aelod lleol drwy gefnogi’r cais a diolchodd i’r swyddogion am gywiro’r mater a chyflwyno’r cais gydag argymhelliad i ganiatáu yn amodol ar yr amodau, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir D. Blakebrough ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy fod cais DC/2016/01440 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, gyda diwygiad i amod 3 i gynnwys ‘am byth’.
Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 13
Ynerbyn cymeradwyo - 0
Atal pleidlais - 1
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasomfod cais DC/2016/01440 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pum amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, gyda diwygiad i amod 3 i gynnwys ‘am byth’.
Dogfennau ategol: