Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais,
a’r ohebiaeth hwyr, a
argymhellwyd i’w gymeradwyo
yn amodol
ar y 17 amod, fel yr amlinellwyd
yn yr
adroddiad a hefyd yn amodol ar Gytundeb Adran 106,
fel yr
amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynychodd y
Cynghorydd L. Palmer, yn cynrychioli
Cyngor Cymuned Llan-ffwyst, y cyfarfod ar
wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau
canlynol:
-
Mae’rCyngor Cymuned
yn argymell
gwrthod y cais.
-
Mae’rsafle’n anaddas o
ganlyniad i’w agwedd
cefn gwlad
agored.
-
Mae Pentref Llan-ffwyst wedi’i or-ddatblygu i raddau
anghymesur yn y blynyddoedd
diweddar.
-
Cafoddhyn effaith
sylweddol ar amgylchedd y
pentref.
-
Mae’rsafle arfaethedig
yn ffinio
â thai
sydd eisoes
yn bodoli
ond mae’r lleoliad
hwn o fewn
y cefn gwlad agored a
bydd mynediad i’r
datblygiad o lôn wledig.
Mae’r lôn hon eisoes
yn derbyn
llawer o draffig o Lanellen
yn dod i Lan-ffwyst.
-
Pan gaeir Pont Llanellen defnyddir y
lôn
fel ffordd
i ddargyfeirio traffig.
-
Cyfaddawdirdiogelwch cerddwyr
sy’n cerdded ar hyd y lôn hon.
-
DatblygwydPentref Llan-ffwyst
yn fawr
yn ystod y
blynyddoedd diweddar gydag
ychwanegu nifer o ddatblygiadau
tai mawr.
Arweiniodd hyn at gynnydd
mewn traffig ar heolydd lleol.
-
Bu cynnydd hefyd yn y defnydd o’r
bont Ganoloesol.
-
Ni all isadeiledd
Llan-ffwyst gynnal yr holl dai hyn.
-
Mae’rysgol leol eisoes yn llawn. Felly, ni fydd
unrhyw blant yn byw yn y datblygiad arfaethedig
yn gallu
mynychu’r ysgol leol.
-
Bu’reffaith ar amgylchedd y pentref
yn enfawr a
bydd yn
parhau i fod yn enfawr a’r
pentref yn
cael ei
droi i mewn
i dref..
-
Mae nifer o safleoedd o fewn y
Cynllun Datblygu Lleol
(CDLl) y gellid eu datblygu.
-
Mae Llan-ffwyst
wedi dyblu’i faint gan
greu blerdwf trefol
nad
yw'n ddeniadol.
-
Nidoes gan
Bentref Llan-ffwyst yr
isadeiledd i ymdopi â thai ychwanegol.
-
Mae mwy o leoliadau addas
ar gyfer
datblygu wedi’u nodi
yn y CDLl.
Mynychoddasiant yr ymgeisydd, Ms. D.
Powell, y cyfarfod ar wahoddiad y
Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau
canlynol:
-
Mae’rcynnig wedi bod
yn rhwym
wrth asesiad gofalus ac
nid oes
unrhyw wrthwynebiadau technegol eithriadol
oddi wrth
ymgynghoreion mewnol nac allanol.
-
Trabo’r safle eisoes
wedi’i neilltuo yn y
CDLl fel
safle y tu
allan
i’r ffin ddatblygu,
mae prinder
cyflenwad tir ar gyfer tai yn Sir
Fynwy.
-
Mae Canllawiau
Polisi Cynllunio Cenedlaethol
yn nodi bod
angen cynyddu’r cyflenwad o dir
adeiladu tai
a dylid rhoi pwys sylweddol ar
hyn.
-
Oscymeradwyir y cais, gwnaiff
gyfraniad ystyrlon tuag at
gwrdd â’rdiffyg hwn a
byddai’n darparu 35% o
dai
fforddiadwy sy’n cyfateb i 40
o unedau.
-
Cyfarfyddirâ
gofynion Grant
Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy’r Cyngor (CCA).
-
Mae’rymgeisydd mewn
trafodaethau manwl gyda datblygwr ac mae’n barod i
dderbyn amodau cynllunio a
fydd yn
sicrhau y bydd y safle
hwn yn
cael ei
ddwyn ymlaen yn fuan.
-
Mae’rsafle yn safle maes glas.
Fodd bynnag, yn wahanol i safleoedd
maes
glas eraill
mae’n gysylltiedig â’ranheddiad presennol ac
mae’n hygyrch i’r
cyfleusterau gerllaw.
-
Parthed
y pryderon a
godwyd mewn
perthynas â’reffeithiau arfaethedig
ar drafnidiaeth, nodwyd
mai cyffordd T syml
yw’r mynediad arfaethedig
oddi ar
Lôn
Sipsi. Aseswyd yr effeithiau trafnidiaeth
ac mae swyddogion yn
fodlon na
fydd unrhyw
effaith sylweddol ar y
rhwydwaith priffyrdd lleol a
fydd yn
andwyo diogelwch ar y
briffordd a darperir ar
gyfer y gofod gweledol
angenrheidiol.
-
Gwnaedadolygiadau arwyddocaol
i’r cynllun yn dilyn adborth
oddi wrth
swyddogion.
-
Cynigirnawr ardaloedd
ychwanegol o ofod agored ac
isadeiledd gwyrdd.
-
Ni dderbyniwyd
unrhyw wrthwynebiadau gan
Gyfoeth Naturiol Cymru
parthed cyfeiriadau gwrthwynebwyr i orlifo
posib yn
yr ardal ac
roedd asesiad o ganlyniadau
gorlifo cryf gyda’r
cais nad oedd
wedi nodi
hyn fel
problem.
-
Cyncyflwyno’r cais, cyflwynwyd
cynnig drafft i’r
cyngor cymuned. Roedd
yr ymgeisydd wedi
cynnig ymgysylltu â’rgymuned ar ddau achlysur ond
ni
fanteisiwyd ar y cynigion
hyn.
Wediystyried adroddiad y cais
a’r safbwyntiau a fynegwyd,
mynegodd mwyafrif y Pwyllgor
eu cefnogaeth i’r
cais ac amlinellu’r pwyntiau canlynol:
-
Roedd
y lleoliad yn addas ar gyfer darpariaeth dai.
-
Roeddangen tai
fforddiadwy o fewn Llan-ffwyst a
byddai cymeradwyo’r cais
yn darparu
40 o unedau fforddiadwy.
-
Roeddprif gynllun y datblygiad
arfaethedig yn dda iawn.
-
Nodwydnad oedd safleoedd o
fewn y CDLl
yn dod
drwyddo mor
gyflym ag y byddai’r Awdurdod
yn ei
ddymuno.
Foddbynnag, mynegodd un Aelod bryder y
byddai’r safle datblygu
arfaethedig yn gorwedd y
tu allan
i’r CDLl ac y byddai
cymeradwyo’r cais yn arwain at ddatblygiad
blêr o fewn Llan-ffwyst.
Mynegwyd pryder hefyd y
gallai mwy
o geisiadau am ddatblygiadau ar draws
y Sir, y tu allan i’r CDLl,
ddod ymlaen
ac ystyriai y dylai canllawiau
llym gael
eu sefydlu
i rwystro hyn rhag digwydd.
Mewnymateb, dywedodd Pennaeth
cynllunio, Tai a Llunio Lleoedd
ei bod yn
glir, o fewn polisi
cynllunio cenedlaethol, bod yn
ofynnol i’r Awdurdod
gael cyflenwad pum
mlynedd o dir ar gyfer tai a bod ffordd
glir o gyfrifo hyn. Bob
blwyddyn mae hyn yn mynd at arolygwr
allanol i’w lofnodi.
Cyflenwad tir presennol
yr Awdurdod
hyd at Ebrill 2016 oedd 4.1
blynedd. Mae gwaith yn cael ei gyflawni i sefydlu
beth fydd y
ffigur newydd ar gyfer Ebrill 2017.
Felly, mae
diffyg cyflenwad pum
mlynedd yn
pwyso’n drwm dros gefnogi’r cais
hwn.
Byddllwybr troed yn gyfochrog â Lôn Sipsi
gyda chyswllt drwyddo i
safle’r ysgol yn ystod oriau
ysgol.
Nodwydnad
oedd rhwystr ar waelod yr hawl tramwy
cyhoeddus presennol lle
mae’r grisiau sydd
yno eisoes
yn cwrdd âLôn Sipsi
a’r droedffordd. Codid y
mater hwn gydag Adran y
Priffyrdd gyda’r bwriad o
benderfynu’r mater hwn fel rhan o’r
datblygiad.
Cynigiwyd,
felly, gan y Cynghorydd Sir M. Powell ac eiliwyd gan y
Cynghorydd Sir R. Chapman fod cais DC/2016/00880
yn cael
ei gymeradwyo yn
amodol ar y
17 amod, fel yr amlinellwyd yn
yr adroddiad a hefyd
yn amodol
ar Gytundeb
Adran 106, fel yr amlinellwyd yn
yr adroddiad.
Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O
blaid cymeradwyo
-
13
Ynerbyn cymeradwyo
-
1
Atal
pleidlais
-
0
Cariwyd y
cynnig.
Penderfynasomfod cais
DC/2016/00880 yn cael ei gymeradwyo yn
amodol ar y
17 amod, fel yr amlinellwyd yn
yr adroddiad a hefyd
yn amodol
ar Gytundeb
Adran 106, fel yr amlinellwyd yn
yr adroddiad.