Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais,
a’r ohebiaeth hwyr a
gyflwynwyd, i’w gymeradwyo
yn amodol
ar y 10 amod, fel yr amlinellwyd
yn yr
adroddiad ac yn amodol ar gytundeb
cyfreithiol Adran 106 yn
gwneud cais
bod tair o’r unedau’n unedau
fforddiadwy a’u bod yn
cael eu
trosglwyddo i ddarparwr tai cymdeithasol.
Wrthnodi manylion y cais,
atgoffwyd Aelodau bod y cais
wedi’i gyflwyno i’r
Pwyllgor Cynllunio yn
ei gyfarfod
ar 6ed Rhagfyr 2016 gydag
argymhelliad i’w wrthod.
Roedd y penderfyniad parthed y
cais wedi’i ohirio
er mwyn
ystyried diwygiadau i’r
cynllun arfaethedig a dyluniad
y datblygiad.
Mae
cynlluniau diwygiedig nawr
wedi’u cyflwyno yn
dangos newidiadau i ddyluniad
yr unedau
preswyl a gyda chynllun
diwygiedig yn dangos ffordd fynediad
wedi’i pheiriannu llai a
threfniant parcio mwy rhesymol. Gwnaed
diwygiadau hefyd i’r
ddau fflat
ar leiniau
5 a 6. Ail-leolwyd y fynedfa i ochr
ogleddol yr
adeilad ac mae nawr risiau
gorchuddiedig. Dim ond dwy ffenestr sydd
nawr ar y
wedd ogledd-ddwyreiniol (yn
wynebu tuag
at Llangybi House) ac mae’r ddwy’n gwasanaethu ystafell
ymolchi.
Mynychodd y
Cynghorydd J. Love, yn cynrychioli
Cyngor Cymuned Llangybi, y
cyfarfod ar
wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau
canlynol:
-
Mae’rCyngor Cymuned
yn edifar
na
chynhaliwyd ymweliad safle.
Cyrhaeddodd Cynghorwyr Cymuned
ar y dyddiad yn Rhagfyr dim ond i
ddeall bod yr ymweliad
wedi’i ohirio tan i’r
diwygiadau y gwnaed cais
amdanynt gael eu cyflwyno.
-
Nidaeth Aelodau’r Pwyllgor i’r
safle i gael gwell darlun o
nodweddion y lleoliadau.
-
Ni ellid dangos prif
bryderon y Cyngor Cymuned
yn eu
gwir gyd-destun.
-
Mae Swyddog Treftadaeth y Cyngor
Sir yn honni bod gan ran
isaf, fwyaf
dwyreiniol Llangybi gymeriad
hollol wahanol, unigryw, am y
ffin â’rLôn Ynys gul, hanesyddol
wledig, gyda llawer o
adeiladau rhestredig, eglwys
restredig Gradd II* gyda
murlun unigryw, yn
agored i effeithiau dirgryniadau’r ddaear, dwy
fynwent a ffynnon sanctaidd
hynafol rhestredig gan
Cadw. Effeithir yn
ddifrifol ar y cyfan gan agosrwydd a
dwysedd y datblygiad.
-
Difethiryr olygfa werdd o Langybi o
Wentwood ar
draws y gweirgloddiau d?r hynafol ac mae’r
Cyngor Cymuned yn rhagfynegi y bydd
preswylwyr posib y safle
hwn yn y
dyfodol naill ai’n
cwyno am orlifo neu ganu wyth cloch eglwys.
-
Yrhyn sy’n gwneud y
cynlluniau’n amhriodol yn
ogystal yw
gor-amlygrwydd y pum eiddo gwerth marchnadol
mawr gyda
rhy ychydig
o lawer o eiddo fforddiadwy
nad
ydynt yn
ddeniadol o ran dyluniad, gyda’r
tri eiddo arfaethedig yn un bloc
bychan yn
unig gyda
dau fflat
un ystafell wely lled ar wahân
ac un arall, dim un ohonynt
â garej.
-
Mae Cynllun a
Arweinir gan y Gymuned 2014
yn ymrwymo’r Cyngor Cymuned i
gefnogi dymuniadau preswylwyr am
fwy o dai
fforddiadwy, ond heb fod am fwy o
dai gwerth
marchnadol mawr, eto mae’r datblygiad
arfaethedig hwn yn gwneud ond ychydig tuag at
fforddiadwyedd.
-
Prif bryder
arall y Cyngor Cymuned
yw’r mynediad i brif
heol beryglus, brysur
iawn. Pan gymeradwywyd y
mynediad yn
2012, roedd ar gyfer dau gerbyd i’r bwthyn and
bellach gellid gweld
llawer mwy
yn ei
ddefnyddio, o bosib 10 gwaith
yn fwy
na’r nifer a ddisgwylid.
-
Ni all lleiniau
gwelededd arfaethedig guddio’r ffaith,
o gyfeiriad Brynbuga, bod y tro
yn nesaf at
ymyl de-orllewinol Walnut Tree Cottage yn cuddio’r
mynediad arfaethedig yn
gyfan gwbl
o fewn ychydig lathenni
o’r tro hwnnw. Mae’r heol hon
eisoes wedi
hawlio un
farwolaeth a sawl damwain
ddifrifol. Mae sesiynau’r Cynllun Gwarchod
Cyflymder a fen camera’r Heddlu
wedi dangos
y cynnydd ym maint y traffig.
Ers Medi
2016, mae’r Cynllun Gwarchod
Cyflymder wedi cofnodi
dros 50 o gerbydau’n gwneud
mwy na’r cyfyngder
cyflymdra o 30 milltir yr awr, yn teithio tuag
at Gaerllion yn
bennaf.
-
Nidyw cynnig yr ymgeisydd o £10,000 tuag at fesurau
llonyddu traffig yn ymarferol oherwydd
nifer a maint y cerbydau
sy’n gyrru drwy’r
pentref.
-
Effeithirar yr hawl tramwy
o’r pentref i’r
llwybr troed cyhoeddus
ar ben y bryn tuag at
Tredunnoc gan y lleiniau
gwelededd, gan niweidio
dynesiad y cerddwyr o Gaerllion ac
yn peryglu’r un o Langybi.
-
Mae gan y Priffyrdd bryderon
ynghylch hawliau tramwy,
gan gynghori na
chaniateir y cais tan i’r
materion hyn gael eu datrys..
-
Mae meini prawf y Cynllun
Datblygu Lleol yn diffinio Llangybi
fel prif
bentref yn
addas ar
gyfer datblygu pellach. Mae
hyn yn
anghynaladwy gan fod y siop a’r
swyddfa bost wedi bod
ar gau am
yn agos i
flwyddyn.
-
Nidyw’r gwasanaeth bws
gwael, sydd
hefyd mewn
perygl, o ddefnydd i’r
preswylwyr di-gar sydd angen cymudo i’w
gwaith yng
Nghaerdydd.
-
Mae’rCyngor Cymuned
yn ystyried
bod digon o ddatblygiadau mawr
wedi digwydd yn Llangybi ac felly, mae’n gofyn
i’r Pwyllgor Cynllunio
ystyried gwrthod y cais.
Wediystyried adroddiad y cais
a’r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau
canlynol:
-
Mae’rcynlluniau diwygiedig
yn welliant
enfawr o gymharu â’rcynlluniau gwreiddiol
-
Mae angen cyfeirio manylion y
cais i’r Panel Dirprwyaeth.
-
Gelliddefnyddio cyllid
Adran 106, swm o £10,000 ar
gyfer gwelliannau rheoli
traffig, at ddarparu arwyddion
fflachio sefydlog 30 milltir
yr awr
ar ddechrau
a diwedd y pentref.
-
Mae angen tai fforddiadwy
yn y pentref.
Ystyriai’rAelod lleol dros Langybi, hefyd
yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio,
ei bod yn
ofynnol, gyda’r annedd
arfaethedig â’rgrisiau allanol, i
linell y to fod yn fwy. Gallai’r
Panel Dirprwyaeth edrych yn ofalus
ar y mater hwn gyda’r
bwriad o ddod o hyd i
ateb priodol.
Cynigiwyd,
felly, gan y Cynghorydd Sir P. Clarke ac eiliwyd gan y
Cynghorydd Sir P. Murphy fod cais DC/2015/00972
yn cael
ei gymeradwyo yn
amodol ar y
10 amod, fel yr amlinellwyd yn
yr adroddiad, a hefyd
yn amodol
ar gytundeb
cyfreithiol Adran 106, yn
gwneud cais
bod tair o’r unedau’n unedau
fforddiadwy a’u bod yn
cael eu
trosglwyddo i ddarparwr tai cymdeithasol. Hefyd,
yn amodol
ar y dyluniad diwygiedig
o’r fflatiau cerdded-i-mewn
yn cael
eu cymeradwyo drwy
gyfrwng y Panel Dirprwyaeth (Lleiniau 5
and 6).
Cymerwydpleidlais a chofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O
blaid cymeradwyo
-
13
Ynerbyn cymeradwyo
-
0
Atal
pleidlais
- 0
Cariwyd y
cynnig.
Penderfynasomfod cais
DC/2015/00972 yn cael ei gymeradwyo yn
amodol ar y
10 amod, fel yr amlinellwyd yn
yr adroddiad, a hefyd
yn amodol
ar gytundeb
cyfreithiol Adran 106, yn
gwneud cais
bod tair o’r unedau’n unedau
fforddiadwy a’u bod yn
cael eu
trosglwyddo i ddarparwr tai cymdeithasol. Hefyd,
yn amodol
ar y dyluniad diwygiedig
o’r fflatiau cerdded-i-mewn
yn cael
eu cymeradwyo drwy
gyfrwng y Panel Dirprwyaeth (Lleiniau 5
a 6).