Cofnodion:
Ystyriwydadroddiad y cais a gohebiaeth hwyr, a gyflwynwyd ar gyfer ei wrthod gyda phedwar rheswm fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Amlinelloddyr Aelod lleol dros Lanbadog, oedd yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol ar ei rhan ei hun a chymdogion lleol.
Nodwyd y pwyntiau dilynol:
Sylwadaupreswylwyr:
• Mae preswylwyr wedi pryderu am y diffyg parch a ddangoswyd i'r holl ddeddfwriaeth a gweithdrefnau y disgwylir i berchnogion cartrefi gydymffurfio â nhw.
• Ar ôl darllen adroddiad yr Awdurdod Cynllunio, mae preswylwyr yn cefnogi'r argymhelliad dros wrthod caniatâd cynllunio.
• Mae'r adroddiad yn amlygu'r holl doriadau mewn polisi a deddfwriaeth y mae'r cais yn eu cynnig.
• Os yw'r Pwyllgor Cynllunio yn penderfynu gwrthod caniatâd cynllunio, mae preswylwyr wedi gofyn y dylai'r preswylwyr ddychwelyd y llain i'w gyflwr presennol fel tir amaethyddol a gweithredu amserlen ar gyfer gwneud hynny. Mae preswylwyr yn pryderu y gallai'r broses hon gymryd cryn amser.
• Mae preswylwyr yn bryderus y gallai'r defnyddwyr anwybyddu unrhyw orchymyn a roddir gan yr Awdurdod ac y gallent barhau i fyw ar y safle. Bu tystiolaeth ers peth amser fod y defnyddwyr yn anwybyddu gweithdrefn cynllunio.
• Mae preswylwyr wedi gofyn y cwestiynau dilynol:
- Fydd yr Awdurdod yn mynnu bod y tir yn cael ei ddychwelyd i'w gyflwr blaenorol?
- Pa amserlen a roddir ar gyfer gorffen y gwaith hwn?
- Sut y caiff yr amodau eu plismona?
Sylwadau'rAelod lleol:
• Mae hwn yn gais ôl-weithredol nad yw'n cydymffurfio gyda Chynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.
• Mae'n ceisio osgoi'r broses datblygu arferol.
• Gresynu faint o amser a gymerwyd i dderbyn cais.
• Mae'r hyn a gynigir yn anaddas ar gyfer Llancaio, ardal o dirlun naturiol yn Sir Fynwy.
• Mae'n hyderus fod y swyddogion wedi cynnal pob asesiad angenrheidiol ar yr amgylchiadau perthnasol i'r cais.
• Mae'n adroddiad cynhwysfawr iawn.
• Os yw'r Pwyllgor Cynllunio yn penderfynu gwrthod y cais, mae'n bwysig y caiff amodau eu cynnwys i ddychwelyd y tir i'w gyflwr amaethyddol blaenorol o fewn amserlen addas a hefyd i sicrhau y gwneir y gwaith yn iawn.
• Mae'r safle yn anaddas ar gyfer ei datblygu ac mae'n gofyn i'r Pwyllgor Cynllunio ystyried gwrthod y cais.
Roedd y Cynghorydd M. Goodwin, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Gwehelog, yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:
Mae Cyngor Cymuned Gwehelog yn argymhell gwrthod y cais ar y seiliau dilynol:
• Polisi LC1 - Adeilad newydd mewn cefn gwlad agored - Mae tybiaeth yn erbyn datblygiad adeiladu newydd mewn cefn gwlad agored os nad oes cyfiawnhad drosto dan y polisi cynllunio cenedlaethol.
• Mae'r cais cynllunio yn ddatblygiad mewn cefn gwlad agored sy'n mynd yn groes i'r Cynllun Datblygu Lleol.
• Pwynt cyfeirio 6.1.2.5 - rhoi fframwaith ar gyfer asesu cynigion ar gyfer Sipsiwn, Teithwyr a Sioeau Teithiol lle mae ar gyfer defnydd parhaol, dros dro neu argyfwng. O fewn hynny, mae Polisi H8 yn nodi na ddylai'r safle fod mewn lleoliad amlwg ac y dylai fod yn gydnaws gyda pholisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer diogelu a chyfoethogi cymeriad y tirlun lleol.
• Felly byddai cymeradwyo'r cais yn groes i bolisïau cynllunio.
• Pe byddai'r cais yn cael ei gymeradwyi, byddai'n rhoi cynsail ar gyfer datblygu pellach o fewn y Cynllun Datblygu Lleol.
• Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn ffurfio'r sail ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio rhesymegol a chyson.
• Mae Cyngor Cymuned Gwehelog felly wedi argymhell gwrthod y cais.
Roedd Ms. A. Morgan-Andrews, yn cynrychioli'r ymgeisydd, yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:
• Mae Deddf Tai Cymru 2014 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu anghenion llety Sipsiwn/Theithwyr a hefyd ddarparu llety diwylliannol briodol.
• Mae'r ymgeiswyr yn Sipsiwn/Teithwyr. Mae ganddynt ddiwylliant a thraddodiad unigryw i'w hethnigrwydd a chânt eu hystyried fel lleiafrif ethnig dan ddeddfwriaeth cysylltiadau hiliol.
• Dan y Ddeddf hon mae angen dros 300 llain ledled Cymru.
• Mae prinder amlwg o safleoedd Sipsi yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig i gyd.
• Penderfynodd Llywodraeth Cymru roi dyletswydd ar awdurdodau lleol i weithredu darpariaeth safleoedd newydd.
• Dim ond un safle a adeiladwyd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru mewn 20 mlynedd.
• Gellid rhoi amodau ar y cais i sicrhau fod y safle'n cyflawni'r meini prawf gofynnol. Gellid gadael y parth llifogydd heb ei ddatblygu a gellid newid mynediad. Gellid gosod tanc septig yn lle ceudwll.
• Nid oes gan yr ymgeiswyr unrhyw le diwylliannol i fyw ynddo.
• Oherwydd gwahaniaethu ar sail hil, mae'n aml yn anodd i Sipsiwn a Theithwyr ganfod rhywle i fyw.
• Sefydlodd GTA & A 2015 a gyflwynodd Cyngor Sir Fynwy i'r Cynllun Datblygu Lleol fod angen o leiaf wyth llain breswyl barhaol bellach erbyn 2021. Felly, mae angen lleiniau ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Fynwy.
Arôl ystyried adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd, cytunodd Aelodau bod angen darparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr o fewn y sir. Fodd bynnag, nodwyd fod angen cytuno ar ddarpariaeth a chynnal proses o ddynodi safleoedd addas drwy'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae angen i'r mater gael ei drin yn y Cynllun Datblygu Lleol nesaf.
Foddbynnag, yng nghyswllt y cais hwn, ystyriai Aelodau nad oedd y cais yn cydymffurfio gyda pholisi cynllunio. Felly cynigiodd y Cynghorydd Sir A. Wintle ac eiliodd y Cynghorydd Sir D. Edwards wrthod cais DC/2016/00297 am y pedwar rheswm a amlinellir yn yr adroddiad.
Argael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
O blaid gwrthod - 10
Ynerbyn cymeradwyo - 0
Ymatal - 1
Cariwyd y cynnig.
Penderfynwydgwrthod cais DC/2016/00297 am y pedwar rheswm a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: