Cofnodion:
Ystyriwyd y cais a gohebiaeth hwyr a gyflwynwyd ar gyfer ei wrthod am y tri rheswm a amlinellir yn yr adroddiad.
Mynychodd y Cynghorydd D.K. Pollitt, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llantrisant Fawr y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol ar ran y cyngor cymuned:
• Nid yw'r cais yn cydymffurfio gyda'r Cynllun Datblygu Lleol.
• Bu'r safle yn destun apêl cynllunio yn 2011. Caniataodd yr Arolygiaeth Cynllunio'r apêl ar sail anghenion fel y gallai'r ymgeisydd fyw gyda'i theulu agosaf. Gweithredwyd amodau llym am nifer (2) a'r math o garafanau, union leoliad y carafanau hynny, enwau defnyddwyr pob carafán, nifer y cerbydau a ganiateir ar y safle (2) a maint y gorchudd daear a ganiateir.
• Ni chydymffurfiwyd ag unrhyw un o'r amodau hyn ers y dyfarniad hwnnw. Nid yw'r defnyddwyr a enwyd erioed wedi byw ar y safle a bu'r safle yn wag gan fwyaf ers hynny. Mae hyn yn diddymu'r angen am y safle.
• Yn syth ar ôl y dyfarniad gosodwyd gwasanaethau ar gyfer tair, nid dwy garafán.
• Nid yw'r carafanau ar y safle naill y math a ganiateir nac wedi eu lleoli fel oedd angen.
• Cafodd y safle ei orchuddio i ddechrau gyda chraidd caled. Cafodd hyn ei symud yn dilyn gweithredu gorfodaeth ond gadawyd tomen o graidd caled ar un gornel o'r safle.
• Yn ystod yr haf roedd pum carafán a saith cerbyd ar y safle.
• Gwnaed peth gwaith ffensio ac roedd angen i Swyddog Gorfodaeth y Cyngor Sir fynd i mewn i'r safle a sicrhau bod y carafanau'n cael eu symud.
• Oherwydd yr hanes, mae'r cyngor cymuned yn ystyried na ellir bod yn sicr sut y bydd datblygiad y safle yn mynd rhagddo pe cymeradwyid y cais.
• Mae mynediad i'r safle ar hyd lon sengl hir a chul heb unrhyw leoedd pasio. Mae'r lôn hefyd yn agored i lifogydd.
• Gan nad oes unrhyw wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i'r safle, bydd y cynnydd mewn traffig o hyd at 14 cerbyd ynghyd â faniau teithio achlysurol yn rhoi pwysau diangen ar lif traffig ac yn groes i Bolisi NV1.
• Mae ymgeision blaenorol i symud carafanau i'r safle wedi arwain at ddifrod i wrychoedd.
• Mae'r safle mewn tir amaethyddol agored ac mae'r cais yn groes i Bolisïau LC1, LC5 a S1 y Cynllun Datblygu Lleol.
• Bydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar y tirlun lleol a gellir ei weld o'r A449 a'r ffordd ymuno, yn arbennig yn yr hydref a'r gaeaf.
• Bydd y datblygiad arfaethedig yn achosi niwed sylweddol i gymeriad lleol yr ardal. Mae mewn safle anghydnaws ac nid yw'n cyd-fynd â'r ardal leol.
• Mae'r cyngor cymuned yn gryf yn erbyn y cais cynllunio.
Amlinellodd yr ymgeisydd, Mr. T. Lee, oedd yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol:
• Bwriad y cais cynllunio yw i'r ymgeisydd a'i deulu agosaf fyw ar y safle.
• Mae'r ymgeisydd yn ystyried y dylai'r cais gael ei gymeradwyo, gan ei fod yn cydymffurfio gyda'r Polisi Safleoedd Sipsiwn a fabwysiadwyd dan gynllun datblygu H8.
• Mae Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr 2015 yn sefydlu angen am o leiaf wyth o leiniau preswyl parhaol ychwanegol erbyn 2021. Byddai'r cais hwn yn darparu 40% o'r angen hwnnw.
• Mae'r safle yn lleoliad addas a chynaliadwy ar gyfer Safle Sipsiwn. Nid yw'r swyddog achos wedi cyrraedd y rhan berthnasol o'r apêl flaenorol lle canfu'r Arolygydd bod lleoliad y safle wedi ei gytuno. Mae paragraff y 26 y cylchlythyr yn hyrwyddo dull pragmatig at deithiau mewn ceir yng nghyswllt defnyddiau safleoedd sipsiwn.
• Mewn cyd-destun gwledig, nid yw'r safle yn neilltuol o anghysbell o'r ystod eang o wasanaethau sy'n darparu ar gyfer tref Brynbuga, sydd tua dau gilomedr o'r safle ac mae ysgol gynradd o fewn y dref.
• Mae safle bws o fewn un cilomedr o'r safle a fyddai'n rhoi gwasanaeth i'r ysgol uwchradd newydd yn Nhrefynwy.
• Nid yw'r Awdurdod Priffyrdd wedi gwrthwynebu'r cais ac nid oes risg llifogydd neu wrthwynebiadau eraill.
• Nid oes unrhyw faterion yn ymwneud ag amwynder preswyl, gan fod y safle ar wahân i'r preswylwyr agosaf.
• Caiff y cais ei gefnogi gan gynllun gwella tirlun a ddiogelir gan TDA sy'n darparu'r asesiad gweledol tirlun ar gyfer y Cynllun Datblygu Unedol.
• Ers yr apêl flaenorol, ni chaniatawyd unrhyw safle pellach sy'n dangos methiant y cynllun datblygu, gan fod y cylchlythyr yn disgwyl i anghenion gael eu cyflawni drwy'r cynllun datblygu drwy ddyrannu'r tir ar gyfer y safle ac yna ar gyfer ceisiadau unigol, megis y cais hwn.
• Ni ddyrannwyd unrhyw dir er i'r GTAA sefydlu fod angen. Dylid rhoi pwysau sylweddol ar y mater hwn.
• Yn ychwanegol at yr angen, mae angen i'r ymgeisydd a'i deulu gael eu huno unwaith eto ar yr un safle oherwydd ei fod wedi methu byw yn y safle yn Drenewydd Gellifarch lle cafodd ei fagu. Ers iddo ddod yn oedolyn, y polisi ar y safle yw y gall un aelwyd wneud cais am lain. Dim ond nifer o garafanau fesul llain sydd gan Gaerdydd hefyd, felly methodd roi ei garafán ar lain ei deulu. Hoffai'r ymgeisydd gael ei deulu ei hun ac fel y prif enillydd cyflog, mae ganddo ymrwymiadau i'w deulu presennol. Mae angen i'r teulu fod gyda'i gilydd gan mai dyna eu diwylliant a thraddodiad. Bu teulu'r ymgeisydd yn deithwyr yn Sir Fynwy am genedlaethau ac mae'n ystyried y byddent yn gaffaeliad i'r gymuned.
Hysbysodd Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lle y Pwyllgor pe byddai'r Pwyllgor o blaid cymeradwyo'r cais yna y byddai'n argymell fod Aelodau'n ystyried amod ychwanegol bod enwau'r preswylwyr, nifer y carafanau ar y safle, y lleoliad, tirlunio a maint y datblygiad yn hysbys gan fod y materion hyn yn orfodadwy. Fodd bynnag, y mater y bydd angen i'r Pwyllgor ganolbwyntio arno yw os oes angen am y cais hwn. Eglurwyd nad oedd yr un o'r preswylwyr arfaethedig yn ffurfio rhan o'r angen a ddynodwyd drwy'r GTAA.
Mynegodd aelodau gydymdeimlad gyda'r ymgeisydd. Fodd bynnag, wrth fynd i ffwrdd o'r safle, daeth yr anawsterau a ddynodwyd gan y safle yn glir. Gan roi ystyriaeth i sylwadau'r Arolygydd yn yr apêl flaenorol, roedd yn glir mai dim ond ar gyfer nifer y carafanau a gytunwyd yr oedd y safle yn addas. Aiff y cais yn erbyn polisi cynllunio.
Nodwyd fod swyddogion wedi ceisio siarad gyda'r ymgeisydd ond heb gael unrhyw ymateb. Felly ni chafwyd eglurdeb llwyr am y sefyllfa. Hefyd, mae gwrthdaro rhwng sylwadau'r ymgeisydd a rheolwr safle Caerdydd.
Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliodd y Cynghorydd Sir R. J. Higginson y dylid gwrthod cais DC/2015/01424 am y tri rheswm a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Ar gael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
O blaid gwrthod - 13
Yn erbyn gwrthod - 0
Ymatal - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynwyd gwrthod cais DC/2015/01424 am y tri rheswm a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: