Agenda item

Derbyn adroddiad diweddaru gan Dîm y Fenni ar y cynnydd hyd yma.

Cofnodion:

Derbyniasomadroddiad diweddaru gan Dîm Y Fenni ar y cynnydd wnaed hyd yn hyn. Darparwyd ar gyfer y Pwyllgor Ardal hefyd fanylion achosion busnes a gafodd eu gwrthod yn erbyn y gronfa cyllid cyfalaf o £30,000 a oedd ar gael i wella Canol Tref y Fenni yn barod ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Amlinellwyd yr achosion busnes fel:

 

  • Canopiyn Neuadd y Dref, Y Fenni.
  • CanolfanGymunedol Y Fenni – Cais am gronfeydd a Chynllun Busnes.
  • CynllunBusnes ar gyfer Gosod Nenbont Oleuo yn Theatr y Bwrdeistref, Y Fenni.
  • StondinauMarchnad Newydd yn y Farchnad Dan Do.

 

Amlinellodd y Tîm yn ogystal eu barn ar y canlynol:

 

  • LleCyfanmae angen gosod mecanwaith mewn lle i nodi lle gall Tîm Y Fenni ddarparu cymorth a bod yn gynaliadwy yn y Dref.

 

  • Mae angen cael mandad democrataidd lle gall Tîm y Dref weithio mewn cydweithrediad gydag Aelodau etholedig.

 

  • Gobeithid y darperid cyllid ychwanegol ar gyfer Pwyllgorau Ardal..

 

  • ByddTîm y Dref yn mabwysiadu dull mwy ffurfiol i brosesu’i gynllun blynyddol ac fe’i cysylltir â’igynllun pum mlynedd a’i gyflwyno i Bwyllgor Bryn y Cwm i’w ystyried. Mae Tîm y Dref yn ystyried unwaith y caiff ei gymeradwyo bydd yn galluogi’r Tîm i wneud ceisiadau am gyllid o ffynonellau addas.

 

Wediderbyn yr adroddiad a manylion yr achosion busnes a wrthodwyd, nodwyd y wybodaeth ganlynol:

 

  • Gall Cynghorau Tref/Cymuned gael rhan yng Nghynllun Llesiant ehangach Cyngor Sir Fynwy. Cyflawnir asesiad llesiant yn Sir Fynwy i nodi prif feysydd achosion agored i niwed yn y Sir.

 

  • Mewnymateb i gwestiwn a godwyd parthed y £30,000 o gyllid cyfalaf a fu ar gael i Dîm y Dref i wella’r dref ar yr adeg yn arwain at yr Eisteddfod, nid oedd y cyllid hwn bellach ar gael.

 

  • YnChwefror 2015, roedd y Cyngor Sir wedi cytuno i ddiddymu’r penderfyniad a gymerwyd yn 2010 i adeiladu llyfrgell newydd ar safle’r hen farchnad wartheg, Y Fenni, gan ryddhau cyllid o £3.433m.  O’r swm hwn, roedd £2.2m ar gael i ddatblygu Hyb Y Fenni. Mae swm o hyd at £50,000 i gael ei rhyddhau i ariannu’r costau i gwblhau’r dyluniadau manwl a’r achos busnes i’w cyllido gan fenthyca darbodus.

 

  • Ystyriwyda ellid cymryd cyllid yn ôl o’r farchnad newydd ym Mhenpergwm gyda’r bwriad o ddarparu cyllid ar gyfer rhai o’r achosion busnes a amlinellwyd gan Dîm Y Fenni. Parthed yr achosion a gyflwynwyd yn flaenorol, rhoddwyd manylion ynghylch paham nad oeddent yn addas ar gyfer y gronfa gyllid hon neu paham na chyfarfyddent â’r meini prawf.

 

  • Nodwyd bod cyllid Adran 106 yn cael ei adolygu a gobeithid y byddai’r cyllid hwn yn cael ei ail-alinio i fod yn gyfrifoldeb Pwyllgorau Ardal.

 

Penderfynasom:

 

(i)            wneudcais i’r Cabinet y byddai unrhyw gyllid a fyddai’n weddill o’r £2.2m yn cael ei ryddhau ar gyfer prosiectau yn nhref Y Fenni;

 

(ii)          fodCadeirydd Pwyllgor Ardal Bryn y Cwm, Pennaeth Llywodraethiant, Ymgysylltu a Gwelliant a Phennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned, yn cwrdd âchynrychiolwyr o Dîm Y Fenni gyda’r bwriad o wella cyfathrebu.

 

 

 

Dogfennau ategol: