Agenda item

CAIS DC/2016/00714 - DWY ANNEDD PÂR, TIR CEFN 61 CILGANT Y PARC, Y FENNI.

Cofnodion:

 

Ystyriwyd y cais a'r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd ar gyfer cymeradwyaeth gyda'r saith amod a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i sicrhau cyfraniad ariannol tuag at dai fforddiadwy yn yr ardal.

 

Roedd Ms. Y. Spencer, yn gwrthwynebu'r cais, yn mynychu'r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd yr wybodaeth ddilynol:

 

Gofynnoddpreswylwyr lleol na ddylid defnyddio dwysedd tai adeilad newydd gan fod y datblygiad mewnlenwi yma mewn ardal sydd eisoes yn un breswyl. Dywedodd y swyddog fod eisoes gynsail yn yr ardal leol yn berthnasol i'r cais. Mae preswylwyr lleol yn dadlau nad oes hynny. Ni chafodd y cais arall am ddwy annedd pâr yng Nghilgant y Parc erioed eu hadeiladu ac mae'r caniatâd hwnnw wedi dod i ben.

 

Effaithgronnus y cynnig yn y cais presennol a chais y datblygwyr a gymeradwywyd yn wreiddiol yw creu stad tai fach ar safle lle'r oedd un eiddo. Mae pobl eraill yn aros am benderfyniad y Pwyllgor Cynllunio cyn cyflwyno ceisiadau tebyg mewn ardaloedd sefydledig o'r dref. Bydd penderfyniad y Pwyllgor yn gosod cynsail newydd. Apêl ardal hyn yw ei gofod a'i chymeriad.

 

Mae adroddiad y swyddog achos yn sôn am gynigion i ddymchwel garej a sied. Roedd y ddwy lain wedi eu cofrestru dan ddwy weithred teitl ar wahân pan brynwyd yr eiddo gwreiddiol. Mae'r garej a'r sied wedi eu lleoli o fewn ffin y llain arall lle rhoddwyd caniatâd cynllunio eisoes. Dylai'r dymchwel yma fod wedi ei gynnwys pan y dylai'r cais hwnnw fod wedi ei ystyried. Gan fod y dymchwel yn cyfeirio at eiddo arall, mae preswylwyr yn gofyn iddo fod yn destun cais ar wahân. Os yw'r Pwyllgor Cynllunio yn cytuno i ddymchwel yr adeiladau hyn, bydd yn galluogi mynediad o'r de. Mae'r swyddog achos yn dweud y bydd y fynedfa i'r cais presennol o'r gogledd. Fodd bynnag, mae gan breswylwyr bryderon y bydd traffig adeiladu a thraffig arall yn cael mynediad o Gilgant y Parc os cymeradwyir y cynnig. Bydd hyn yn achosi perygl i gerddwyr a thraffig ar heol brysur.

 

Yngnghyswllt y fynedfa, caiff hawl tramwy'r cyhoedd rhwng Cilgant y Parc ac Ysguborwen ei groesi gan gerbydau'n defnyddio'r fynedfa yma. Dangosodd arolwg gan breswylwyr bod 154 o gerddwyr ond dim cerbydau'n defnyddio'r fynedfa hon rhwng 8.00am a 9.00am ar fore dydd Mawrth prysur. Felly, nid yw cerddwyr wedi arfer gyda cherbydau yn y lleoliad yma.

 

Mae preswylwyr yn croesawu'r amod i ostwng y gwrych ar hyd ymyl orllewinol safle'r cais. Fodd bynnag, mae ardaloedd cyfyngedig i'r tir i'r gogledd sy'n dal i gyflwyno perygl i gerddwyr. Dylid sefydlu darpariaethau iechyd a diogelwch cyn caniatau unrhyw symudiad traffig i ac o'r safle o gofio am y mathau o gerddwyr agored i niwed sy'n defnyddio'r llwybr hwn.

 

Cymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA) yw perchen y tir dan sylw. Dywed y swyddog achos y gallai fod yn rhaid i'r ymgeisydd gael caniatâd gan MHA. Mae preswylwyr yn dweud fod yn rhaid iddynt gael caniatâd. Mae cyngor a gafwyd gan arolygydd cynllunio yn dweud os yw MHA yn caniatau hawl tramwy i gerbydau, dylid cael tystiolaeth o hynny oherwydd bod yr hawl tramwy cyhoeddus ar droed ac nid i gerbydau. Pe byddai'r MHA wedi gwrthwynebu a heb roi hawl i gerbydau basio, byddai hynny'n rheswm sylfaenol pam na fedrid gweithredu unrhyw ganiatâd cynlluio. Deellir nad yw MHA wedi rhoi sylw ar y cais hwn ond mae eu hymaeb i'r cais amlinellol yn hysbys, h.y. roedd MHA wedi ei wrthwynebu. Ymddengys bod angen cynnal trafodaeth gyfreithiol ar y mater. Felly, mae materion sylfaenol sy'n rhaid eu hateb. Mae preswylwyr yn gofyn nad yw'r Pwyllgor Cynllunio yn gwneud unrhyw argymhelliad ar y cais hwn nes y gall yr ymgeisydd brofi'n gyfreithiol bod MHA wedi rhoi hawl tramwy i gerbydau.

 

Amlinelloddyr ymgeisydd, Mr. P. Thomas, oedd yn mynychu'r cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau dilynol:

 

           Cafodd egwyddor y datblygiad ei sefydlu eisoes drwy ganiatâd cynlunio amlinellol.

 

           Caiff yr annedd arfaethedig eu hadeiladu mewn ffordd gydnaws â'r ardal o amgylch a bydd yn ei gwella i helpu cyflawni tai newydd yn y Fenni.

 

           Nid yw'r cais yn torri unrhyw bolisïau cynllunio.

 

           Parthed gwrthwynebiadau cynigion i golli preifatrwydd, mae'r anheddau wedu eu lleoli'n ddigon pell o dai cymdogion felly nid yw'n torri polisi cynllunio mewn unrhyw ffordd, na cholli preifatrwydd i ffenestri llawr cyntaf. Bydd ystafelloedd byw gyda ffenestri yn wynebu'r llwybr troed.

 

           Ni fu unrhyw wrthwynebiad gan yr Adran Priffyrdd a chaiff y cais ei gefnogi gan yr Adran Cynllunio.

 

           Felly mae'r ymgeisydd yn gofyn i'r Pwyllgor Cynllunio ystyried rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer y cais.

 

Arôl ystyried adroddiad y cais a'r sylwadau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

           Nid MHA yw'r ymgeisydd ac nid yw'n cael budd o'r cais. Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadu gan MHA.

 

           Mynegodd un Aelod bryder am agwedd diogelwch y fynedfa i'r safle.

 

           Ystyriai aelodau eraill fod y cais yn caniatau gwelliant mewn diogelwch ar gyfer cerddwyr gan y caiff rhai coed/tyfiant eu symud.

 

           Byddai mynediad o'r gogledd yn gwella mynediad i'r safle. Gellid ychwanegu hyn fel amod i'r cais.

 

Cynigiwydgan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R. Harris fod cais DC/2016/00714 yn cael ei gymeradwyo gyda'r saith amod a amlinellwyd yn yr adroddiad, gyda chynnwys amod ychwanegol y dylai'r fynedfa fod yng ngogledd y safle. Hefyd, dylai'r cais fod yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i sicrhau cyfraniad ariannol tuag at dai fforddiadwy yn yr ardal.

 

Argael eu rhoi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

O blaid y cynnnig             13

Ynerbyn y cynnnig           1

Ymatal                              0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwydcymeradwyo cais DC/2016/00714 gyda'r saith amod a amlinellwyd yn yr adroddiad, gyda chynnwys amod ychwanegol y byddai'r fynedfa yng ngogledd y safle. Hefyd, byddai'r cais yn amodol at Gytundeb Adan 106 i sicrhau cyfraniad ariannol tuag at dai fforddiadwy yn yr ardal.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: