Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben: Diben yr adroddiad yma yw gwneud argymhellion i'r Cabinet ar y Rhestr Ceisiadau ar gyfer cyfarfod 1 Gweithgor Cronfa Eglwys Cymru blwyddyn ariannol 20916/17 a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2016
Awdur: David Jarrett – Uwch Gyfrifydd – Cymorth Busnes Cylid Canolog
Manylion Cyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
Fe benderfynon ni y dylid dyfarnu grantiau i'r canlynol:
CEISIADAU A YSTYRIWYD 2016/17 - CYFARFOD 1.
(1) Gofynnodd Tîm Tref Cil-y-Coed am £1,000 i gynorthwyo gyda phrynu offer stondin marchnad wedi'i brandio i gynyddu nifer y cwsmeriaid a denu cwsmeriaid newydd i'r farchnad.
Argymhelliad - Dyfarnwyd £500 i gynorthwyo gyda phrynu offer arbenigol wedi'i brandio i gynorthwyo'r gr?p cymunedol hwn.
(2) Gofynnodd Neuadd Bentref Goetre am £500 i gynorthwyo gydag amnewid drysau er mwyn iddynt gydymffurfio â gofynion mynediad anabl. Argymhelliad - Dyfarnwyd £500 i gynorthwyo gyda phrynu cyfarpar i gynorthwyo gyda mynediad i'r anabl i'r cyfleuster cymunedol.
(3) Gofynnodd Pwyllgor Adnewyddu Cae Eglwys Penterry am £2,500 i gynorthwyo gydag adnewyddu to'r eglwys. Argymhelliad - Dyfarnwyd £1,250 i gynorthwyo gydag adnewyddu to'r eglwys.
(4) Gofynnodd John Richard Buck am £618 tuag at y gost o addasu cegin ar gyfer anabledd. Argymhelliad - Dyfarnwyd £618 oherwydd bod galw am ddiweddaru'r cyfleuster hwn.
(5) Gofynnodd Ffrindiau 'Morwyn Tyndyrn' am £1,000 i gynorthwyo gyda chynnal digwyddiad di-gost 'Sungvespars' yn Nhyndyrn. Argymhelliad - dyfarnwyd £250 i gynorthwyo gyda threfnu'r digwyddiad cymunedol poblogaidd hwn.
(6) Gofynnodd Emma Thomas am £150 i gynorthwyo gyda mynychu cwrs preswyl Cerddorfa Genedlaethol y Sgowtiaid a'r Geidiaid
Argymhelliad - Dyfarnwyd £150 i gynorthwyo gyda helpu'r ymgeisydd ennill cymhwyster a ellid ei defnyddio i fuddio eraill yn y gymuned.
(7) Gofynnodd Eglwys Fethodistaidd y Fenni am £1,000 i gynorthwyo i dalu am adnewyddu cyntedd / ffrynt yr Eglwys a gwella draeniad ar dir yr eglwys. Argymhelliad - Dyfarnwyd £1,000 er mwyn gallu cynnal atgyweiriadau hanfodol i'r eglwys.
(8) Gofynnodd Eglwys y Santes Fabli, y Fenni am £5,000 tuag at y gost o osod toiled anabl a chegin newydd ynghyd ag unrhyw waith tir cysylltiedig. Argymhelliad - gofyn am ragor o wybodaeth am ffynonellau cyllid eraill arfaethedig ar gyfer y prosiect mawr hwn cyn ystyried dyfarniad.
(9) Gofynnodd Ymddiriedolaeth Gadwraeth Gerddi Nelson am £1,000 i gynorthwyo gyda chadwraeth yr adeiladau yn yr ardd a darparu toiled anabl. Argymhelliad - Dyfarnwyd £500 tuag at gostau prosiect y gr?p cymunedol hwn.
(10) Gofynnodd Olivia Bartieri am £450 tuag at allu cystadlu ym Mhencampwriaeth Ffensio Ieuenctid Prydain. Argymhelliad - Dyfarnwyd £200 i helpu darparu cefnogaeth i un o drigolion Sir Fynwy gystadlu ar lefel cenedlaethol.
(11) Gofynnodd yr Eglwys Unedig Ddiwygiedig, y Fenni am £1,000 i helpu i amnewid tair ffenestr newydd ym mlaen y capel sydd angen eu trwsio/hamnewid. Argymhelliad - Dyfarnwyd £500 i gynorthwyo gyda'r gwaith o gynnal a chadw'r eglwys ar ôl ystyried yr adnoddau ariannol eraill ar gael.
(12) Mae H. E. Lawton angen cymorth (cais am £750) i dalu'r ffioedd am leoliad yn yr Academi Gerddoriaeth Frenhinol i astudio Gradd Meistr mewn Perfformiad o fis Medi 2016. Argymhelliad - Dyfarnwyd £500 i gyfrannu tuag at gyrhaeddiad academaidd un o drigolion Sir Fynwy.
(13) Gofynnodd Eglwys Blwyf y Rhaglan am £1,000 i gynorthwyo gyda gosod a phrynu offer ar gyfer cegin fach yn festri'r eglwys. Argymhelliad - Dyfarnwyd £1,000 tuag at gyfleusterau arlwyo ar gyfer defnyddwyr yr eglwys.
Dogfennau ategol: