Cofnodion:
Amlinellodd Pennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned y broses ar gyfer cyflwyno cyllid cyfalaf i sefydliadau sydd wedi cyflwyno ceisiadau am gyllid i’r Pwyllgor Ardal. Roedd £5000 o gyllid cyfalaf ar gael ar y pryd o gyllideb 2015/16.
Derbyniwyd y ceisiadau canlynol am gyllid ac fe’u hystyriwyd gan y Pwyllgor Ardal:
Pentref Taclus Gorau Gwent
Gwnaed cais am: £250
Rheswm: Tuag at dreuliau teithio beirniaid gwirfoddol ar gyfer ymweld â’r pentrefi’n cystadlu a’u beirniadu. Hefyd, tuag at brynu tlysau a fframiau ar gyfer y tystysgrifau i’r ysgolion a’r pentrefi buddugol.
Wedi trafod y cais ystyriwyd nad oedd y cais yn cwrdd â’r meini prawf perthnasol.
Penderfynasom fod y cais yn cael ei wrthod. Felly, penderfynasom beidio â chefnogi’r cais hwn.
Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gerddi Nelson
Gwnaed cais am: £5000
Rheswm: Adfer a chadw tirwedd hanesyddol (Gradd II). Adfer Cofgolofn Nelson gyda’r sedd yr eisteddodd Nelson arni yn 1802, trwsio’r wal boeth hanesyddol a phlannu coed, gosod toiled i’r anabl i wella adnoddau i ymwelwyr.
Wedi ystyried y cais, penderfynodd y Pwyllgor beidio â chefnogi’r cais hwn.
Eglwys Fedyddiedig Brynbuga
Gwnaed cais am: : £2000
Rheswm: cadeiriau newydd i’r byrddau eisoes wedi’u prynu – gan roddion. Cadeiriau sy’n addas ar gyfer pob gr?p oedran o bob gallu. Gorchudd llawr newydd – ar faterion yn ymwneud â glendid a diogelwch.
Wedi ystyried y cais, penderfynasom gefnogi‘r cais a chyfrannu £1000. Hefyd, cydgysylltu â Morley Sims i weld a oes unrhyw gadeiriau y gallai fod yn weddill i’r gofynion ac a ellid eu rhoi yn rhodd i Eglwys Fedyddiedig Brynbuga.
Pwyllgor Rheoli Neuadd Bentref Llanisien
Gwnaed cais am: : £4800
Rheswm: Prynu 100 o gadeiriau pentyradwy ar ddull cadeiriau cynhadledd throlïau y gellir eu storio’n hylaw ac 20 cadair blastig bentyradwy bellach.
Wedi ystyried y cais, penderfynasom gefnogi‘r cais a chyfrannu £1000. Hefyd, cydgysylltu â Morley Sims i weld a oes unrhyw gadeiriau y gallai fod yn weddill i’r gofynion ac a ellid eu rhoi yn rhodd i bwyllgor Rheoli Neuadd Bentref Llanisien.
Cymdeithas Neuadd Bentref a Hamdden Rhaglan
Gwnaed cais am: : £1068.01
Rheswm: Hwyluso darparu Wi-Fi yn yr Hen Ysgol Eglwys.
Wedi ystyried y cais, penderfynasom gefnogi‘r cais a chyfrannu £1000.
Y Cynghorydd Sir R. Edwards
Gwnaed cais am: : £200
Rheswm: Dathlu pen-blwydd y Frenhines yn 90 oed â pharti yn Neuadd Llanvaply ar 11eg Mehefin 2016.
Wedi ystyried y cais, penderfynasom beidio â chefnogi’r cais hwn am ei fod yn gais am gyllid refeniw.
Gr?p Sgowtiaid 1af Wyesham
Gwnaed cais am: : £1009.11
Rheswm: Matiau campfa, troli a gazebo.
Wedi ystyried y cais, nodwyd bod angen gwybodaeth bellach. Bydd Pennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned yn ysgrifennu at yr ymgeisydd gan awgrymu bod y cais yn cael ailgyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor Ardal yn nhymor yr Hydref.
Penderfynasom yn unol â hynny.
Gr?p Amgylcheddol Brynbuga
Gwnaed cais am: £1000
Rheswm: Adeiladu llwybr solet ar draws Cae Owain Glynd?r.
Wedi ystyried y cais, penderfynasom gefnogi‘r cais a chyfrannu £1000.
Neuadd Pelham, Penallt
Gwnaed cais am: £5000
Rheswm: Ail-ddylunio’n llwyr ac ail ddodrefnu’r gegin ar y llawr gwaelod gan gynnwys ailaddurno. Gwaith ar raddfa fechan i gynyddu gofod storio yn y gegin. Gosod drws dihangfa dân. Gwaith ar raddfa fechan i’r draenio allanol a gwaith palmantu. Disodli’r cyfarpar cegin a’r unedau storio. Disodli’r gwydr dwbl oedd wedi ‘chwythu’.
Wedi ystyried y cais, penderfynasom beidio â chefnogi’r cais hwn.
Eglwys Babyddol y Santes Fair, Cyngor Sir Fynwy
Gwnaed cais am: £2750
Rheswm: Gwaith i’r ddihangfa dân, ailosod y slabiau palmantu, uwchraddio diogelwch a’r goleuadau i’r ddihangfa dân.
Wedi ystyried y cais, penderfynasom beidio â chefnogi’r cais hwn gan fod y rhan fwyaf ohono’n ymddangos yn waith cynnal a chadw ac felly heb fod yn gymwys.
Sant Tomos y Merthyr, Overmonnow
Gwnaed cais am: £1500
Rheswm: Cyfarpar a dodrefn cegin.
Wedi ystyried y cais, penderfynasom gefnogi’r cais a chyfrannu £1000.
Dogfennau ategol: