Cofnodion:
Cynghorwyd ni ynghylch y ddeiseb a gyflwynwyd i Gyngor Sir Fynwy yn gwneud cais ar i’r Cyngor fynd i’r afael â materion yn ymwneud â diogelwch ffordd ar Stryd Porthycarne / Heol Y Fenni, Brynbuga.
Cyn ystyried yr adroddiad, caniataodd y Cadeirydd i Mr. G. Perry, gwirfoddolwr cynllun gwarchod cyflymdra Cymuned Brynbuga, gyfarch y Pwyllgor. Wrth wneud hynny, nodwyd bod y gr?p yn cyfarfod unwaith yr wythnos a’i fod yn monitro cyflymdra cerbydau ar amrywiol adegau. Roedd y data a gasglwyd yn wahanol i’r rheiny a grybwyllwyd yn adroddiad y swyddog.
Mae dadansoddiad o’r data rhwng 00:01 awr ar 12fed Rhagfyr 2015 a 23:59 awr ar 25ain Rhagfyr 2015 yn dangos:
Cyfanswm y cerbydau 21857
Cyflymder troseddol = 54%
Cyflymdra cyfartalog 31milltir yr awr
54% o’r cerbydau dros 30 milltir yr awr
3% o’r cerbydau dros 45 milltir yr awr
Cyflymdra uchaf 65 milltir yr awr ar 23:46 awr ar 18/12/15.
V85 = 39 milltir yr awr
(CYFARTALEDD 7 NIWRNOD) dadansoddiad o 00:01 awr ar 12/12/15 i 23:59 awr ar 18/12/15.
Cyfanswm y cerbydau 11372
Cyflymder troseddol = 56%
Cyflymdra cyfartalog 31milltir yr awr
56% o’r cerbydau dros 30 milltir yr awr
3% o’r cerbydau dros 45 milltir yr awr
Cyflymdra uchaf milltir yr awr ar 23:46 awr ar 18/12/15.
V85 = 39 milltir yr awr
(CYFARTALEDD 7 NIWRNOD) dadansoddiad o 00:01 awr ar 19/12/15 i 23:59 awr ar 25/12/15.
Cyfanswm y cerbydau 10483
Cyflymder troseddol = 52%
Cyflymdra cyfartalog 30 milltir yr awr
53% o’r cerbydau dros 30 milltir yr awr
3% o’r cerbydau dros 45 milltir yr awr
Cyflymdra uchaf milltir yr awr ar 01:16 awr ar 22/12/15.
V85 = 39 milltir yr awr
Wedi derbyn yr adroddiad a’r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Mae gorfodi’r terfyn cyflymdra yn fater i’r heddlu.
· Mae croesi’r heol yn y lleoliad hwn yn beryglus.
· Roedd yr Aelod lleol dros Lanbadog wedi rhoi cynnig gerbron y Cyngor Llawn yn Nhachwedd 2015 ynghylch y terfyn cyflymdra 60 milltir yr awr drwy lonydd gwledig. Fodd bynnag ni dderbyniwyd unrhyw adborth.
· Mae cerbydau sydd wedi’u parcio ar hyd y stryd yn tueddu i arafu lawr traffig, yn gweithredu fel mesur gostegu traffig.
· Defnyddir cyflymdra cyfartalog i gytuno terfynau cyflymdra ar heolydd. Fodd bynnag, mae’r heddlu’n defnyddio gwahanol feini prawf i’r rheiny a ddefnyddir gan y gr?p gwarchod cyflymdra cymunedol.
· Rhagwelir y bydd yr Heddlu’n mynd yn ôl i’r safle ac yn cyflawni arolygon cyflymdra pellach.
· Mae’r dystiolaeth gyfredol yn dangos bod y terfyn cyflymdra presennol yn gywir.
· Mae datrysiadau posib yn cynnwys culhau’r heol, gosod arwyddion rhybudd sy’n fflachio.
· Byddai swyddogion yn hoffi hyrwyddo llwybr troed ar ochr arall yr heol drwy gyfrwng Cais Teithio Llesol.
· Bydd yr Heddlu’n monitro’r safle’n fuan. Cyflawnir arolygon a defnyddir y wybodaeth a gesglir i gymryd camau gweithredu priodol.
· Bydd aelodau’r cynllun gwarchod cyflymdra’n parhau i gyflawni’u monitro eu hunain.
Penderfynasom:
(i) Nodi’r ddeiseb a’r camau gweithredu i’w cymryd hyd yn hyn, gan gynnwys nodi’r Gr?p Gwarchod Cyflymdra a ffurfiwyd gan breswylwyr lleol;
(ii) Bod monitro cyflymdra pellach yn cael ei gyflawni cyn ystyried gwelliannau traffig ffisegol posib a fyddai hefyd angen eu blaenoriaethu ochr yn ochr â chynlluniau arfaethedig eraill ar hyd a lled Sir Fynwy.
(iii) Bod y Pwyllgor Ardal yn derbyn adborth pellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: