Agenda item

I dderbyn y Cynllun Gwella 2016-2017

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad i roi gwybodaeth i’r Aelodau am y Cynllun Gwelliant ar gyfer 2016-17.

 

Argymhellodd yr adroddiad fod y Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Gwelliant gan gynnwys y pum amcan gwelliant y mae’n eu disgrifio, yn amodol ar unrhyw newidiadau y mae’n eu disgrifio, yn amodol ar unrhyw newidiadau i ddata a thargedau allai fod eu hangen fel rhan o’r dilysu data ddiwedd blwyddyn a’r broses archwilio mewnol.

 

Roedd data perfformiad ar gyfer 2015-16 wedi’u cynnwys lle'r oedd yn briodol, i ganiatáu i Aelodau ddeall yr amcanion ar gyfer y flwyddyn o’n blaenau yng nghyd-destun y perfformiad mwyaf diweddar. Mae’r broses casglu data ddiwedd blwyddyn yn dal i fynd rhagddi, lle cynhwysir hwy dylid trin data fel rhai dros dro am nad ydynt hyd yn hyn wedi bod yn rhwym wrth archwiliad. Mae’r targedau ar gyfer 2016-17 yn cael eu cwblhau. Gwnaed Aelodau’n ymwybodol y gallai rhai data a thargedau newid cyn eu cyhoeddi’n derfynol i adlewyrchu’r wybodaeth fwyaf diweddar. Os gwnaeth hyn newidiadau arwyddocaol i gyd-destun y cynllun, fe ail-ddosberthir y rhain i Aelodau cyn cyhoeddi’r cynllun yn derfynol.

 

Cwestiynodd Aelod pa welliannau a wnaed ynghylch graddfa oedi cyn trosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol, a chanran y plant yr edrychir ar eu holau sydd wedi cael tri neu fwy o leoliadau yn ystod y flwyddyn.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet y gallai fod nifer o sylwadau yn cyfeirio at niferoedd yn gostwng gan fod yr adroddiad hwn yn ‘adroddiad cynnydd’ , ac nad oedd yr holl wybodaeth wedi’i chasglu. Dangosid y canlyniadau terfynol ym mis Hydref 2016.  Sicrhaodd yr Aelodau nad oedd problem Oedi wrth Drosglwyddo Gofal yn Sir Fynwy.

 

 

Eglurodd y Rheolwr Polisi a Pherfformiad fod lleoliadau plant yr edrychir ar eu holau yn cael eu monitro’n rheolaidd gan y Gwasanaethau Plant. Bu nifer o achosion heriol yn y Gwasanaethau Plant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd bellach broses fonitro wythnosol.   

 

Mynegwyd pryder ynghylch Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, a’r amser a gymerir i wneud y newidiadau angenrheidiol. Atebodd yr Aelod Cabinet, gan egluro bod dadl eang o gylch Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl o ganlyniad i’r niferoedd a’r adnoddau oedd eu hangen i fynd i’r afael â’r materion.  Atgoffwyd Aelodau hyr adlewyrchir y sefyllfa derfynol ym mis Hydref 2016. Sicrhaodd y Prif Weithredwr yr Aelodau, pan fyddwn yn derbyn yr adroddiad terfynol, byddai llawer o’r meysydd coch yn wyrdd. Byddai rhai yn aros yn goch, fel roedd natur rhedeg sefydliad cymhleth. Awgrymwyd, yn rheolaidd, drwy bwyllgorau Dethol, y dylid holi cwestiwn megis ‘A allwch chi ein sicrhau ni bod pob symudiad pob plentyn er lles y plentyn hwnnw?’  

 

Cytunodd y Cynghorydd Sir R. Hayward fod ansawdd y cwestiwn yn bwysig yn hytrach na maint y geiriau, a dylai adlewyrchu a ydym yn poeni fel Cyngor. Chyfeiriodd at ddigwyddiad yn ei ward lle’r oedd wal wedi syrthio ar blentyn bum mlynedd neu chwe blynedd yn ôl, gan arwain at niwed difrifol.  Roedd pryder dwys na chyflwynwyd adroddiad yn dilyn ymholiad gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Cwestiynwyd paham na chyflwynwyd yr adroddiad, a phaham nad oedd neb wedi adrodd nôl i’r Cyngor yn egluro paham y cafodd y plentyn ei niweidio. Cynghorodd yr Aelod Cabinet i’r adroddiad gael ei dderbyn ac na chymerwyd unrhyw gamau gweithredu gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Anfonid yr adroddiad i’r Cynghorydd Hayward. 

 

Penderfynasom gytuno’r argymhellion o fewn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: