Cyflwynodd Hannah Jones y cynnig i gau
cynllun rhannu prentisiaeth adeiladu y Prentis a’i
drosglwyddo i brosiect dan Cyfle, cynllun tebyg yng ngorllewin
Cymru.
- Sefydlwyd cynllun Y Prentis yn 2012 gan
Gyngor Sir Fynwy a Cartrefi Melin i fynd i’r afael
â’r angen am nwyddau a gwasanaethau wedi eu caffael yn
gymdeithasol a gwaith yn y diwydiant adeiladu ar draws de-ddwyrain
Cymru.
- Trafododd Hannah lwyddiannau y cynllun sydd
wedi hyfforddi dros 340 o brentisiaid, sicrhau mwy na £1.95
miliwn mewn cyllid a gweithio gyda phump o golegau a 149
contractwr.
- Dywedodd hefyd fod y cynllun wedi wynebu
heriau tebyg i ostyngiad mewn cyfraddau cwblhau, anhawster yn cael
lleoliadau, diffygion cyflogau prentisiaeth a cholledion ariannol
dros y ddwy flynedd.
- Cynhaliwyd adolygiad gan Gyngor Sir Fynwy a
Chyngor Bwrdeistref Torfaen a gyflwynodd ddau opsiwn: dod â
gweithrediadau i ben neu ailddylunio’r model cyflenwi.
Esboniodd bod Cartrefi Melin, a oedd yn gyfranddaliwr, wedi gadael
ym mis Ionawr 2025 ac felly y cynnig oedd trosglwyddo’r
cynllun i Cyfle.
- Mae Cyfle yn gynllun rhannu prentisiaeth
sydd wedi sefydlu yng ngorllewin Cymru, a fedrai ddod yn gyfrifol
am gyflenwi’r cynllun, gan sicrhau pontio llyfn i staff a
phrentisiaid.
- Roedd Cyngor Sir Fynwy wedi cynnal gwiriadau
diwydrwydd dyladwy ar Cyfle, gan gadarnhau ei fod yn addas i gymryd
y cynllun. Mae gan y cwmni presennol warged o £100,000, a
fyddai’n cael ei drosglwyddo i Cyfle i gefnogi’r
trosglwyddo.
- Yn nhermau cynlluniau ar gyfer y dyfodol,
mae Cyngor Sir Fynwy yn anelu i ddatblygu canolfan sgiliau i
ddiwallu anghenion plant, pobl ifanc, busnesau a diwydiant yn yr
ardal.
- Bydd Cyfle yn rhoi arweinyddiaeth strategol
i sicrhau y caiff prentisiaethau eu cwblhau a chefnogi
cynaliadwyedd hirdymor y cynllun.
Pwyntiau allweddol a godwyd gan
Aelodau:
- Pa sicrwydd sydd gennym y bydd y cynllun yn
un proffil uchel ac nid dim ond rhan fawr o fwystfil mwy? A oes
unrhyw dystiolaeth i awgrymu fod cael ei redeg gan dri sefydliad
yng ngorllewin Cymru yn ffordd ddelfrydol ymlaen?
Mynegodd Hannah hyder ym model cyflenwi a ffocws
busnes Cyfle, gan nodi ei gysylltiad gyda Llywodraeth Cymru a
chontractwyr, a dywedodd y byddai ehangu Cyfle i dde ddwyrain Cymru
yn effeithlon.
- Beth yw ffigurau hanesyddol prentisiaid o
Sir Fynwy a pham mai dim ond un allan o 60 prentis yw’r
ffigur cyfredol?
Cydnabu Hannah nifer isel y prentisiaid o Sir Fynwy
ac esbonio ymdrechion i sicrhau mwy o gyfleoedd. Nododd fod y
cynllun yn un rhanbarthol ac y disgwylir niferoedd uwch mewn
awdurdodau eraill.
- Mae’r adroddiad yn sôn am
argymhelliad fod y Cyngor yn cael sedd ar y Bwrdd Cyfarwyddwyr
newydd. Ai Aelod Cabinet neu swyddog fydd hyn? Pa mor aml
mae’r Bwrdd yn cwrdd a beth yw rôl cyfarwyddwyr wrth
symud â’r cynlluniau ymlaen?
Awgrymodd Hannah y byddai swyddog yn fwy addas ar
gyfer y sedd ar y bwrdd o gofio’r angen am wybodaeth a
diweddariadau rheolaidd.
- Pam fod cyfraddau cwblhau wedi gostwng yn
sylweddol dros y tair blynedd ddiwethaf a beth gafodd ei wnaed i
unioni hyn? Beth yw’r adborth gan brentisiaid a
chyflogwyr?
Priodolodd Hannah y gostyngiad mewn cyfraddau cwblhau
i heriau cymhwyster Lefel 3 a rhwystrau eraill. Soniodd am sgyrsiau
sy’n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru a chontractwyr i
fynd i’r afael â’r materion hyn.
- A yw’r ffigur o 340 prentis a
£1.95 miliwn mewn cyllid yn benodol i Sir Fynwy neu’r
rhanbarth cyfan?
Eglurodd Hannah fod y ffigurau ar gyfer y rhanbarth
cyfan gyda Sir Fynwy â nifer gymesur o
brentisiaid.
- Mae gennym bryderon am leoliad daearyddol
Cyfle yng ngorllewin Cymru a pheidio bod â chanolfan leol ac
os y byddai hyn yn creu problemau teithio ar gyfer prentisiaethau
ac y gallai effeithio ar gyswllt gyda busnesau lleol. Hefyd rydym
yn bryderus y gall fod diffyg gwybodaeth a chysylltiadau i dde
ddwyrain Cymru. Pam na fedrem ganfod mwy o fusnesau i
gefnogi’r ddarpariaeth bresennol a’r hyn a ddywedodd
Cyfle am ddod i’r rhanbarth? A ydynt wedi gwneud unrhyw
ymchwil?
Cydnabu Hannah y pryder a soniodd fod Cyfle wedi
cysylltu gyda cholegau yn y rhanbarth ac yn cael sgyrsiau gyda
chontractwyr. Mynegodd hyder yng ngallu Cyfle i gynyddu gwybodaeth
a chael sgyrsiau parhaus ar draws y rhanbarth.
- A fydd Cyfle yn cadw’r staff presennol
o Y Prentis?
Cadarnhaodd Hannah y byddai Cyfle yn sicrhau pontio
llyfn ar gyfer staff a phrentisiaid, gan gadw’r staff
presennol.
- Pam na fedrwn recriwtio prentisiaid o safon
a beth gawn i’n ôl o bontio i Cyfle? A oes angen y
cynllun?
Esboniodd Will nad yw’r cynllun bellach yn
diwallu anghenion pobl ifanc a busnesau Sir Fynwy. Bydd trosglwyddo
i Cyfle yn galluogi prentisiaid cyfredol i gwblhau eu cymwysterau a
galluogi Sir Fynwy i ddatblygu cyfrwng mwy addas ar gyfer
prentisiaethau yn y dyfodol.
- Pam na chafodd rhai prentisiaid eu talu? A
yw hynny oherwydd nad ydynt wedi cwblhau neu heb fod yn bresennol?
Pwy sy’n eu goruchwylio?
Cydnabu Hannah y bu heriau mewn cyfraddau cwblhau
a’r rhwystrau sy’n wynebu dysgwyr.
- Beth yw llwyddiannau allweddol Y Prentis a
sut maent yn adlewyrchu cyflawni grantiau?
Soniodd Hannah fod hyfforddi 340 prentis a sicrhau
£1.95 miliwn mewn cyllid yn llwyddiannau allweddol.
Cydnabu’r heriau ond tanlinellodd bwysigrwydd y llwyddiannau
hyn.
- Beth yw risgiau prentisiaid heb fod yn
cwblhau, adleoli staff a’r risg i enw da?
Amlinellodd Hannah y risgiau, yn cynnwys prentisiaid
heb fod yn cwblhau eu cymwysterau, adleoli staff a niwed posibl i
enw da.. Tanlinellodd bwysigrwydd pontio llyfn i liniaru’r
risgiau hyn.
- Ai’r prosiect a gynigir o fewn Cynllun
Rhannu Prentisiaeth Sgiliau Adeiladu Cyfle yw’r ffordd
ddelfrydol ymlaen, gan ystyried y caiff ei redeg gan gyrff
sy’n seiliedig yng ngorllewin Cymru?
Esboniodd Hannah eu bod wedi cwrdd yn rheolaidd
â Cyfle ac yn hyderus yn eu model cyflenwi a’u ffocws
busnes. Maent wedi bod mewn cyswllt gyda Llywodraeth Cymru ac yn
credu fod y gyfatebiaeth yn addas i’r diben wrth symud
ymlaen.
- Pa sicrwydd sydd gennym y bydd y cynllun yn
un proffil uchel ac nid ond rhan fawr o fwystfil mwy?
Rhoddodd Hannah sicrwydd fod Cyfle yn awyddus yn
ehangu i dde ddwyrain Cymru ac eisoes wedi bod mewn cyswllt gyda
cholegau a chontractwyr yn y rhanbarth. Maent yn hyderus y bydd
Cyfle yn cynyddu’r wybodaeth a phresenoldeb
angenrheidiol.
- Beth yw’r adborth gan brentisiaid am y
gostyngiad mewn cyfraddau cwblhau a beth gafodd ei wneud i unioni
hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf?
Cydnabu Hannah y pryderon am y gostyngiad
mewn cyfraddau cwblhau ac esboniodd fod diffyg cymhwyster Lefel 2
yng Nghymru yn rhwystr sylweddol. Maent wedi siarad gyda
Llywodraeth Cymru am y mater hwn ac yn gwybod am yr
heriau.
- Beth yw’r adborth gan gyflogwyr a sut
y cafodd hyn ei drafod yn adeiladol gyda i wella’r
sefyllfa?
Dywedodd Hannah eu bod wedi cael trafodaethau gyda
chyflogwyr a Llywodraeth Cymru i drin yr heriau a gwella’r
cyfraddau cwblhau.
- Yn nhermau cyfraddau cwblhau prentisiaid, a
oes cofnod o brentisiaid wedi cwblhau yn sicrhau swyddi
parhaol?
Dywedodd Hannah fod y cynllun wedi hyfforddi dros 340
o brentisiaid a bod y rhai sydd yn y ffigurau yn adlewyrchu
cyflogaeth gynaliadwy. Soniodd y gallai roi dadansoddiad mwy manwl
os oes angen.
- Yn nhermau cynaliadwyedd y prosiect,
rwy’n bryderus am y gorwariant o £1600, y ddibyniaeth
ar grantiau, negodi’r les nesaf a’r costau brys posibl.
Nid wyf yn teimlo fod gen i ddigon o wybodaeth ac mae gennyf
bryderon am y cynnig.
Atebodd Hannah eu bod yn gwybod am y gorwariant a bod
incwm yn dod i fewn o nifer o ffrydiau cyllid grant a gan
gontractwyr. Bu costau ychwanegol dros yr ychydig flynyddoedd
diwethaf. Cydnabu bryderon yr Aelod ond dywedodd mai hwn yw’r
dewis gorau wrth symud ymlaen.
Crynodeb y Cadeirydd:
- Diolchodd y Pwyllgor i swyddogion am
adroddiad a chyflwyniad manwl a thynnwyd sylw at y pwyntiau
allweddol a drafodwyd, yn cynnwys yr heriau sy’n wynebu
cynllun Y Prentis, megis gostyngiad mewn cyfraddau cyflogaeth a
diffyg cymhwyster Lefel 2 yng Nghymru.
- Cydnabu Aelodau y byddai’r cynnig i
symud cynllun Y Prentis i ddod yn brosiect dan Cyfle yn cynnig
buddion posibl, yn cynnwys pontio llyfn i staff a phrentisiaid
a’r arweinyddiaeth strategol a fyddai’n cael eu darparu
gan Cyfle.
- Rydym wedi mynegi ein pryder am yr
agosatrwydd at Sir Fynwy, gan fod pencadlys Cyfle yng ngorllewin
Cymru ac felly teimlwn fod angen diweddariadau rheolaidd ar y
cynnydd ar y symud i sicrhau llwyddiant y cynllun yn ne ddwyrain
Cymru.
- Cawsom drafodaeth gynhwysfawr a mynegodd
Aelodau amrywiaeth o safbwyntiau, fodd bynnag mae consensws i
gefnogi opsiwn 3, sef terfynu Y Prentis a’i drosglwyddo i
Cyfle.
Yn y bleidlais roedd 8 o blaid terfynu Y
Prentis a’i drosglwyddo i Cyfle gydag 1 yn ymatal.