Agenda item

Cwestiynau Cyhoeddus

Cofnodion:

https://www.youtube.com/live/PHi1FvgAtig?si=OCeWJhdckkp7mNrU&t=1173

 

Croesawodd y Cadeirydd Mr Jonty Pearce i'r cyfarfod.  Rhoddodd Mr Pearce gyflwyniad i'r Aelodau o'r enw 'Pam mae Cyngor Sir Fynwy wedi dileu gwarchodaeth allweddol ar gyfer Ystlumod Trwyn Pedol Fwyaf Trefynwy sydd mewn perygl?'

 

Nodwyd y cwestiynau canlynol:

 

  • Pam fyddai'r Cyngor yn gwneud hyn?
  • Pam na fyddai'r Cyngor am gryfhau, nid gwanhau gwarchodaeth ar gyfer yr ystlumod?
  • Pam fyddai'r Cyngor am ei gwneud hi mor hawdd i'r datblygwr ddatblygu tai?

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Dirprwy Arweinydd, i Mr Pearce am ei gyflwyniad a rhoddodd ymateb:

 

·        Nid cred yr Awdurdod yw ei fod wedi cael gwared ar warchodaeth o ran unrhyw nodwedd ecolegol yn y Sir, gan gynnwys Ystlumod Trwyn Pedol Fwyaf.

·        Mae'r safle sy'n cael ei gynnig yn safle llai na'r hyn a gynigiwyd yn flaenorol ac a gafodd ei wahanu'n fwriadol oddi wrth gynefin Ystlumod Trwyn Pedol Fwyaf. Er gwaethaf hynny, yr wybodaeth a gylchredwyd heddiw yw asesiad y cynefin sy'n cyd-fynd â'r Cynllun Datblygu Lleol adneuo arfaethedig.

·        Nid oes gennym yr awdurdod i gael gwared ar unrhyw amddifyniad o ran unrhyw rywogaeth na safle.

·        Yn unol â deddfwriaeth, ystyrir pob cam o'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) am ei effeithiau niweidiol posibl ar safleoedd a warchodir o dan Reoliad Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau.

·        Mae'r Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd ar gyfer y CDLlN Adneuo yn ystyried pob polisi o'r cynllun ochr yn ochr ag ef ac ar gael ar wefan Cyngor Sir Fynwy.

·        Yn ogystal, pe bai'r safle arfaethedig hwn yn dod i'r amlwg fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol Newydd a gymeradwywyd, yna byddai angen cais cynllunio ar unrhyw ddatblygiad ar y safle hwnnw, a byddai arolygon ecolegol manwl yn cael eu cyflwyno a strategaethau lliniaru a gwella arfaethedig i fodloni gofynion y CDLlN a'r Ddeddfwriaeth Cynllunio Genedlaethol.

·        Mae'r pwyntiau a godwyd yn bwysig a chytunodd yr Aelod Cabinet i roi ystyriaeth ddifrifol iddynt.

·        Ar hyn o bryd rydym mewn proses ymgynghori a bydd y mater hwn a godwyd yn rhan o'r broses ymgynghori.

·        Bydd modd dod i'r casgliad y byddai gwelliannau pellach i'r Cynllun Datblygu Lleol adneuo yn fuddiol yng ngoleuni'r cyflwyniad a dderbyniwyd a'r cwestiynau a godwyd, a byddwn yn gallu dod ag unrhyw newidiadau yn ôl i'r Cyngor yn yr adroddiad o'r ymgynghoriad.

·        Yn ogystal, bydd y drafodaeth heddiw yn cael ei hadrodd i'r Arolygiaeth Gynllunio.  Bydd yr Arolygydd hefyd yn ystyried a yw'r testun o fewn y Cynllun Datblygu Lleol yn cydymffurfio â'r pwyntiau a godwyd yn yr ymgynghoriad.

 

Gofynnodd Mr Pearce y cwestiwn atodol canlynol:

 

A allai'r Aelod Cabinet egluro pam yr ystyriwyd bod geiriad y cwestiwn gwreiddiol yn rhy ragnodol a pham y cafodd y geiriad hwnnw a fyddai wedi diogelu'r ystlumod ei ddileu?

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet:

 

  • Mae cydbwysedd i'w daro bob amser rhwng polisïau sy'n angenrheidiol ar gyfer diogelu pob buddiant, gan gynnwys ein buddiannau amgylcheddol, ac a yw'r cydbwysedd hwnnw wedi'i sicrhau yn unol â'r angen posibl am ddatblygiadau ochr yn ochr ag ef. Mae p'un a oes gennym y cydbwysedd cywir yn un y byddwn yn rhoi ystyriaeth bellach iddo.