Agenda item

Cais am Drwydded Safle - Siop a Swyddfa Bost Cil-y-coed

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a chyflwynodd Aelodau’r Is-bwyllgor a’r swyddogion sy’n bresennol. Esboniodd y Prif Swyddog Trwyddedu y protocol ar gyfer y cyfarfod.

 

       Roedd yr Ymgeisydd ei hun yn bresennol

       Prif Swyddog Trwyddedu

       Swyddog Trwyddedu

       Gwrthwynebydd a chydymaith yn bresennol.

 

Cadarnhaodd pawb eu bod wedi gweld yr adroddiad a gweithdrefn y pwyllgor.

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio gais am Drwydded Safle newydd dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ar gyfer Siop a Swyddfa’r Post Cil-y-coed, Uned 4, T? Holman, 36-38 Heol Casnewydd, Cil-y-coed i werthu alcohol rhwng 07:00 a 21:00 (oriau agor y siop).

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu yr adroddiad ac amlinellu’r camau y byddai’r ymgeisydd yn eu cymryd i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu. Roedd hyn yn cynnwys hyfforddi staff, gwirio adnabyddiaeth, mesurau diogelwch tân, llyfr cofnodi digwyddiadau, cynllun rheoli s?n ac ymgysylltu â’r gymuned (mae’r rhestr lawn yn Atodiad A). Mae atodiadau’r adroddiad hefyd yn cynnwys map, rhestr o amodau gorfodol, ymatebion gan awdurdodau statudol, sylwadau gan unigolion eraill, cofnod digwyddiadau’r heddlu ac Amcanion Trwyddedu.

 

Dywedwyd wrth yr Is-bwyllgor y gellir crynhoi sylwadau gan unigolion eraill fel bod y gallai rhoi’r drwydded gynyddu ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn yr ardal a allai achosi niwed i fusnesau eraill, a hefyd o bosibl fygwth diogelwch aelodau’r cyhoedd a staff.

 

Gofynnodd yr awdurdod Trwyddedu am ystadegau gan Heddlu Gwent ar ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Cil-y-coed. Mae’r ystadegau ar gyfer holl ardal Cil-y-coed ac nid yn benodol i ganol y dref rhwng Awst 2023 a Rhagfyr 2023, gyda 35 cofnod heddlu. Roedd 31 cofnod heddlu rhwng Ebrill 2024 a Hydref 2024.

 

Rhaid i sylwadau gyfeirio at o leiaf un o’r pedair amcan trwyddedu:

 

1.    Atal troseddu ac anrhefn,

2.    Diogelwch y cyhoedd,

3.    Atal niwsans cyhoeddus, a

4.    Diogelu plant rhag anaf.

 

Mae Adran 9.9 canllawiau’r Swyddfa Gartref yn argymell , mewn achosion ar y ffin, y dylid rhoi budd amheuaeth am unrhyw agwedd o sylwadau i’r person sy’n rhoi’r sylwadau hynny. Byddai’r gwrandawiad dilynol gan yr Is-bwyllgor Trwyddedu wedyn yn rhoi cyfle i’r person neu’r corff sy’n gwneud y sylwadau i fanylu ac egluro.

 

Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau gan awdurdodau statudol. Tynnodd Heddlu Gwent ei sylwadau yn ôl pe cytunid ar yr amodau os rhoddid y drwydded.

 

Cafodd y Gwrthwynebydd gyfle i wneud sylwadau ac esbonio nad yw yn erbyn dyfarnu’r drwydded. Ar ôl masnachu yng nghanol y dref am ddwy flynedd a newid oriau agor o 6pm i 9pm, roedd yn amlwg fod llawer o bobl ifanc yn achosi trafferth pan oedd siopau ar agor a goleuadau ymlaen. Torrwyd gwydr ffenestri ddwywaith a hysbyswyd yr Heddlu. Bu’r ysgol a’r gymuned yn help mawr wrth hyrwyddo neges fod canlyniadau i’r math yma o ymddygiad.

 

Pryder y Gwrthwynebydd yw y bydd siop newydd gydag oriau agor hir yn annog pobl ifanc i ymgynnull eto ac y bydd lefelau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn codi. Roedd y Gwrthwynebydd eisiau help gan y pwyllgor i fynd i’r afael â’r broblem  a dywedodd ei bod yn synnu nad oedd gwrthwynebiad gan Heddlu Gweet o gofio fod dau Swyddog Heddlu ar y Stryd Fawr bob dydd.

 

Soniodd yr Ymgeisydd am y pryderon a godwyd gan amlinellu’r mesurau rhagweithiol roedd yn eu cymryd i sicrhau fod ei safle yn gweithredu yn gyfrifol ac yn cydymffurfio’n llawn gyda’r Ddeddf Trwyddedu a Pholisi Trwyddedu Cyngor Sir Fynwy.

 

Yng nghyswllt pobl ifanc yn ymgynnull, dywedodd nad oedd pobl ifanc wedi ymgynnull heblaw ar noson Calan Gaeaf ac y caiff hynny ei gadarnhau gan deledu cylch cyfyng. Mae/r lluniau ar gael i Heddlu Gwent a’r awdurdodau Trwyddedu. Mae arferion cyfrifol yn cynnwys hyfforddiant staff, teledu cylch cyfyng (sy’n recordio am 31 diwrnod ac mewn HD fel y gellir adnabod wynebau, mae’r safle newydd yn ateb holl ofynion diogelwch cyhoeddus yn cynnwys llesteirio s?n a gwiriadau ID gyda system EPOS sy’n rhoi dyddiad i wirio pryd y cafodd unigolion eu geni.

 

Mae Heddlu Gwent yn fodlon y cafodd ei amodau ei gytuno pe rhoddir y drwydded. Nid oes unrhyw breswylwyr wedi gwneud sylwadau.

 

Esboniodd yr Ymgeisydd fod ganddo siop arall yn Tutshill a chofnod ragorol o gydymffurfiaeth gyda Chyngor Fforest y Ddena a Heddlu Swydd Caerloyw.

 

Mae’r cais yn cydymffurfio’n llawn gyda’r amcanon trwyddedu.

 

Cwestiynau/Sylwadau yr Is-bwyllgor

 

Roedd Aelod yn gwybod am yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y dref a’r gwaith gyda Heddlu Gwent i fynd i’r afael â hynny. Credai’r Aelod fod gwerthu alcohol yn fater gwahanol i’r ymddygiad gwrthgymdeithasol gan ddweud fod llawer o leoedd yn y dref sy’n gwerthu alcohol. Atebodd yr Ymgeisydd nad oedd unrhyw broblemau yn deillio o’i siop yn Tutshill oherwydd gweithdrefnau cadarn, hyfforddiant staff ac ymgysylltu’n rhagweithiol gyda’r gymuned.

 

Gofynnodd Aelod am gadarnhad y bydd oriau agor y siop yn parhau fel 7.00am -9.00pm pe rhoddir y drwydded ai peidio. Cadarnhaodd yr Ymgeisydd fod hynny yn gywir.

 

Dywedodd y Gwrthwynebydd eto nad oedd dyfarnu trwydded yn broblem ond y pryder y bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynyddu. Gofynnwyd i’r Ymgeisydd os y gallai wneud unrhyw beth i gadw lefelau ymddygiad gwrthgymdeithasol i lawr.

 

Os caiff y gwrthwynebiad i ddyfarnu safle trwydded ei roi, gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad os caiff y gwrthwynebiad i ddyfarnu trwydded safle ei dynnu’n ôl gan mai’r prif gonsyrn oedd y potensial ar gyfer cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Cafwyd eglurhad gan y Gwrthwynebydd nad oedd unrhyw wrthwynebiad i ddyfarnu trwydded. Mae’r cais am gymorth yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Prif Swyddog Trwyddedu  Bydd mesurau ychwanegol yn eu lle, teledu cylch cyfyng ac yn y blaen, os rhoddir trwydded. Os na roddir trwydded, gall y safle ddal i weithredu rhwng yr oriau hyn. Bydd yr Is-bwyllgor yn ystyried os y bydd gwerthu alcohol yn llesteirio’r amcanion trwyddedu neu os y byddai’r ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bodoli p’un ai a werthir alcohol ai peidio.

 

Cadarnhaodd Aelod bod Cyngor Tref Cil-y-coed yn ymdrechu i gael masnachwyr y dref i ymwneud â gostwng ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Diolchodd y Gwrthwynebydd i’r gymuned a’r ysgol am eu cefnogaeth yn y gorffennol.

 

Ymneilltuodd yr Is-bwyllgor i ystyried y cais.

 

Ailgynullodd yr Is-bwyllgor.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y sylwadau a wnaed, y pedair amcan trwyddedu allweddol, adroddiad y Swyddog Trwyddedu, y dystiolaeth a roddwyd a’r wybodaeth a roddwyd gan yr ymgeisydd.

 

Gofynnodd yr Aelodau Pwyllgor gwestiynau perthnasol i wneud penderfyniad ar ddyfarnu trwydded.

 

Nododd y Pwyllgor bryderon y Gwrthwynebydd am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cafodd y gwrthwynebiad i ddyfarnu’r drwydded ei dynnu’n ôl gan y Gwrthwynebydd yn ystod y cyfarfod.

 

Cytunodd yr Is-bwyllgor yn unfrydol i ddyfarnu’r drwydded gan na fu unrhyw wrthwynebiadau gan yr awdurdodau statudol a bod y gwrthwynebwyr wedi tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl yn ystod y cyfarfod. Dyfarnwyd y drwydded fel sy’n dilyn:

 

               Cyflenwi Alcohol (i’w yfed oddi ar y safle): Dydd Llun i Ddydd Sul 07:00 – 21.00 o’r gloch

               Oriau Agor (amseriadau safonol) Dydd Llun i ddydd Sul 07:00 – 21.00 o’r gloch.

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: