Agenda item

Asesiad o'r Farchnad Dai Leol - Craffu ar sefyllfa'r farchnad dai leol.

Cofnodion:

Cyflwynodd Sally Meyrick yr adroddiad ar ddiwygio Asesiad 2022-2037, gan roi cyflwyniad cyn ateb cwestiynau aelodau. Esboniodd fod yr Asesiad yn rhoi amcangyfrif o'r angen am dai fforddiadwy yn ôl ardal a daliadaeth, gan ddefnyddio canllawiau ac arf Llywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad yn amcangyfrif y bydd angen 499 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol bob blwyddyn am y pum mlynedd gyntaf a 90 y flwyddyn am y 10 mlynedd gweddilliol, yn bennaf fel llety rhent cymdeithasol. Amcangyfrifodd angen am 126 o gartrefi marchnad y flwyddyn, 86 ar rent preifat a 41 fel perchen-breswylwyr. Mae’r Asesiad hefyd yn dynodi ystod o anghenion tai arbenigol a thai â chymorth ar gyfer grwpiau amrywiol, tebyg i bobl ddigartref, pobl h?n, pobl gydag anghenion iechyd meddwl a phlant a phobl ifanc. Dywedodd fod yr Asesiad yn rhoi trosolwg o’r farchnad tai yn Sir Fynwy, sydd â phrisiau eiddo uchel a lefelau fforddiadwyedd isel o gymharu gyda chyfartaledd Cymru. Clywodd aelodau fod yr Asesiad yn sylfaen tystiolaeth pwysig ar gyfer llywio strategaethau tai, cynlluniau datblygu lleol, dyrannu grant tai cymdeithasol a thrafodaethau gyda datblygwyr.

 

Pwyntiau allweddol gan aelodau: 

·         Holodd aelodau pam y caiff Brynbuga a Rhaglan eu cynnwys yn ardal marchnad tai Cas-gwent. Esboniodd swyddogion fod yr ardaloedd marchnad tai yn seiliedig ar ardaloedd ystadegol teithio i’r gwaith o ddata’r cyfrifiad a dyna’r cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru.

·         Gofynnodd Aelodau sut mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio ar nifer perchnogion tai yn Sir Fynwy ac os yw hynny wedi effeithio ar fforddiadwyedd ac argaeledd tai ar gyfer gwahanol grwpiau incwm. Clywodd y pwyllgor fod mwy o bobl angen llety rhent na pherchnogaeth cartrefi a bod y tîm yn arfer darparu mwy o gefnogaeth i bobl i gael mynediad i berchnogaeth tai, ond mae hynny wedi gostwng yn sylweddol.

·         Holodd aelodau am y diffiniad a daliadaeth tai fforddiadwy a dywedwyd wrthynt mai tai fforddiadwy yw tai lle mae dulliau pendant i sicrhau ei fod yn hygyrch i’r rhai na all fforddio tai marchnad a bod gwahanol ddaliadaethau o dai fforddiadwy, tebyg i rent cymdeithasol, rhent cnaolradd a pherchentyaeth cost isel.

·         Soniodd y pwyllgor am gynnwys Brynbuga a Rhaglan yn ardal marchnad tai Cas-gwent ac y gallai hynny o bosibl fod er anfantais y wardiau hynny, oherwydd gwahanol anghenion a chysylltiadau yr ardaloedd hyn.

·         Holodd aelodau am y fethodoleg a ffynonellau data yr Asesiad, gyda swyddogion yn esbonio fod angen iddynt ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a bod hynny’n cynnwys defnyddio gwahanol setiau o ddata tebyg i’r rhestr aros tai, cyflwyniadau digartrefedd, amcanestyniadau aelwydydd a ffigurau rhent preifat.

·         Trafododd aelodau yr angen am dai penodol a thai â chymorth ar gyfer gwahanol grwpiau, tebyg i bobl ddigartref, pobl h?n, pobl gydag anghenion iechyd meddwl a phlant a phobl ifanc, a dywedwyd wrthynt fod yr Asesiad wedi rhoi ystyriaeth i hynny, gan ei fod yn seiliedig ar gynlluniau a strategaethau presennol yn ogystal â data’r gofrestr tai.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Cafodd yr adroddiad ei graffu gan y Pwyllgor Craffu Pobl, gydag aelodau yn trafod methodoleg yr Asesiad, diffiniad a daliadaethau tai fforddiadwy, y trothwyon incwm a lefelau fforddiadwyedd, yr ardaloedd marchnad tai, y data cyfrifiad ac effaith yr argyfwng costau byw ar nifer perchnogion tai yn Sir Fynwy. Holodd aelodau am y ffynonellau data, gan ddweud y gallai cynnwys Brynbuga a Rhaglan yn ardal marchnad tai Cas-gwent fod er anfantais y wardiau hynny oherwydd gwahanol anghenion a chysylltiadau yr ardaloedd hynny. Cefnogodd yr aelodau yr angen am dai penodol a thai â chymorth ar gyfer gwahanol grwpiau, tebyg i bobl ddigartref, pobl h?n, pobl gydag anghenion iechyd meddwl a phlant a phobl ifanc. Teimlai’r Pwyllgor fod gan y sir boblogaeth sy’n heneiddio, y dylai swyddogion ystyried ymchwilio dulliau eraill tebyg i’r gofrestr tai i gael darlun mwy cywir. Gofynnodd y Pwyllgor i swyddogion herio Llywodraeth Cymru ar gymhwyster data cyfrifiad ystadegol teithio i’r gwaith ar gyfer penderfynu a yr ardaloedd marchnad tai yn Sir Fynwy. Cytunwyd ar yr argymhellion.

 

Dogfennau ategol: