Agenda item

Diweddariad ar Gartrefi Gwag - Craffu ar gynnydd y Cyngor ar ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Ian Bakewell yr adroddiad am y cefndir, cynnydd, heriau a’r hyn a gyflawnodd y prosiect a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol, gan ateb cwestiynau aelodau gyda Clare Hamer a Helen Norton.

Pwyntiau allweddol gan aelodau:

·         Holodd aelodau beth oedd y prosiect cartrefi gwag ac atebwyd ei fod yn gynllun gan y Cyngor i ostwng nifer y cartrefi gwag a gofnodwyd yn Sir Fynwy, drwy fwy o gyswllt ac ymgysylltu gyda’r perchnogion, a chynnig grantiau a benthyciadau iddynt i ddod â’u heiddo yn ôl i ddefnydd.

·         Holodd Aelodau faint o gartrefi gwag oedd ar ddechrau a diwedd y flwyddyn, dywedodd swyddogion fod 541 o gartrefi gwag ar ddechrau’r flwyddyn a 366 ar ddiwedd y flwyddyn.

·         Holwyd heriau a chyfleoedd y prosiect a chlywodd aelodau fod amrywiaeth o resymau am amgylchiadau y cartrefi gwag, argaeledd grantiau a benthyciadau i gefnogi’r perchnogion a’r potensial i ddefnyddio cartrefi ar gyfer tai cymdeithasol neu’r sector preifat.

·         Gofynnodd aelodau am y camau nesaf a chynlluniau’r prosiect ar gyfer y dyfodol a dywedodd y swyddogion fod hyn yn cynnwys parhau’r ymagwedd gefnogol a defnyddiol, ond hefyd yn ystyried camau gweithredu gorfodaeth mwy ffurfiol ar gyfer rhai eiddo problemus, ar y cyd gydag adrannau eraill.

·         Trafodwyd y meini prawf a’r amodau ar gyfer y grant cartrefi gwag, a chlywodd y pwyllgor fod y grant cartrefi gwag yn grant o hyd at £25,000 ar gyfer perchnogion eiddo a fu’n wag am fwy na 12 mis a heb ei ddodrefnu. Mae’n rhaid i berchnogion fyw yn yr eiddo am bum mlynedd ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau.

·         Trafodwyd hyrwyddo benthyciadau a grantiau cartrefi gwag, ac esboniodd swyddogion y caiff benthyciadau a grantiau eu hybu’n bennaf drwy’r cyfryngau cymdeithasol, gwefan a chyhoeddiadau y gellir eu hanfon at gynghorau tref a chymuned Gofynnodd aelodau am i’r wybodaeth hon gael ei dosbarthu o fewn eu cymunedau eu hunain. CAM GWEITHREDU: Swyddogion i roi’r wybodaeth berthnasol i ni ar fenthyciadau a grantiau cartrefi gwag. 

·         Trafododd y pwyllgor heriau adnabod ac ymgysylltu gydag ymddiriedolaethau a stadau sydd ag eiddo gwag, yn arbennig os nad ydynt wedi cofrestru’n unigol ar gyfer y Dreth Gyngor ac felly efallai nad ydynt ar y rhestr a geir gan y Dreth Gyngor.  

·         Holwyd am bwerau gorfodaeth y timau ar gyfer eiddo gwag problemus. Dywedwyd wrth aelodau y gallant gynnwys gorchmynion prynu gorfodol, gwerthiant dan orfodaeth, gorchmynion rheoli anheddau gwag a hysbysiadau gwella, gan dderbyn fod angen trafod cwmpas a dichonolrwydd defnyddio’r pwerau hyn gydag adrannau a gwasanaethau cyfreithiol eraill.

·         Gofynnodd Aelod am bosibilrwydd trin tan-ddefnydd mewn llety ar rent, ac esboniodd swyddogion nad oedd hyn yn rhan o’r gwaith ar gartrefi gwag, ond y byddai cymdeithasau tai yn adolygu eu stoc yn gyfnodol ac annog tenantiaid i symud i gartrefi llai os yn briodol.

·         Holodd aelod arall am ddeilliannau ac effeithlonrwydd y prosiect cartrefi gwag a faint o eiddo a ddaethpwyd yn ôl i ddefnydd. Ymatebodd swyddogion, gan esbonio nad oeddent yn olrhain yr eiddo rhent preifat ond eu bod wedi gweld cynnydd yn y defnydd o fenthyciadau a grantiau a gostyngiad yn nifer y cartrefi gwag.

·         Holodd aelod am sefyllfa bosibl lle gallai eiddo fod yn wag, ond wedi’i ddodrefnu, fodd bynnag dywedodd swyddogion na fyddai hyn yn cael ei gyfrif fel eiddo gwag, ond y gallent ddal i ymchwilio os oedd tystiolaeth ei fod yn wag am hirdymor a photensial ar gyfer cais am grant.  

Eitemau gweithredu: 

·         Benthyciadau a grantiau cartrefi gwag:  Swyddogion i gysylltu â chynghorau tref a chymuned a’u hysbysu am y benthyciadau a’u grantiau sydd ar gael.

·         Pwerau gorfodaeth: Trafod gyda rheoli adeiladu, iechyd yr amgylchedd, cynllunio a gwasanaethau cyfreithiol beth yw’r cwmpas a dichonolrwydd defnyddio pwerau gorfodaeth ar gyfer eiddo gwag problemus.

·         Ymddiriedolaethau a stadau: Swyddogion i ymchwilio sut i adnabod ac ymgysylltu gydag ymddiriedolaethau a stadau sydd ag eiddo gwag heb fod wedi cofrestru’n unigol ar gyfer y Dreth Gyngor.

 

Crynodeb y Cadeirydd: 

Cafodd yr adroddiad ei graffu gan y Pwyllgor Craffu Pobl sydd wedi gofyn cwestiynau am natur y prosiect cartrefi gwag, sut mae’n gweithio, faint o gartrefi gwag oedd gennym ar ddechrau’r flwyddyn ac ar ddiwedd y flwyddyn, heriau a chyfleoedd y prosiect, cynlluniau ar gyfer y dyfodol a’r camau nesaf. Gofynnodd aelodau hefyd am y meini prawf a’r amodau ar gyfer grantiau cartrefi gwag a gofynnodd bod y swyddog yn cysylltu â chynghorau tref a chymuned a’u hysbysu am y benthyciadau a’r grantiau sydd ar gael. Trafododd y Pwyllgor sut y caiff benthyciadau a grantiau cartrefi gwag eu hyrwyddo a siaradodd am bwerau gorfodaeth, gan ofyn i swyddogion symud ymlaen â thrafodaethau gyda rheoli adeiladu, iechyd yr amgylchedd, cynllunio a gwasanaethau cyfreithiol, y cwmpas a dichonolrwydd defnyddio pwerau gorfodaeth ar gyfer eiddo gwag problemus. Yn olaf, trafododd Aelodau ymddiriedolaethau a stadau a sut y gall y Cyngor ymchwilio sut i ddynodi ac ymgysylltu gydag ymddiriedolaethau a stadau sydd ag eiddo gwag nad ydynt wedi eu cofrestru’n unigol ar gyfer y Dreth Gyngor. Roedd y Pwyllgor yn gefnogol i barhau opsiwn 1 a hoffent gael eu diweddaru ar gynnydd maes o law.

 

Dogfennau ategol: